bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Timothy 2
1 Timothy 2
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 3 →
1
Annog yr wyf, gan hynny, yn gyntaf o bob peth, fod ymbiliau, gweddiau, deisyfiadau, a thalu diolch fod dros bob dyn;
2
dros frenhinoedd a phawb mewn safle uchel, fel yr arweiniom fywyd heddychlon a thawel mewn pob duwioldeb a difrifoldeb.
3
Hyn sydd dda a chymmeradwy gerbron Duw ein Hiachawdwr,
4
yr hwn sydd yn ewyllysio i bawb dynion fod yn gadwedig, ac i ddyfod i lawn wybodaeth o'r gwirionedd.
5
Canys un Duw sydd, un Cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, ei hun yn ddyn, Crist Iesu,
6
yr hwn a'i rhoddes ei hun yn bridwerth dros bawb, yr hyn sydd i'w dystiolaethu yn ei amseroedd ei hun;
7
i'r hyn y'm gosodwyd i yn gyhoeddwr ac Apostol (gwir yr wyf yn ei ddywedyd, nid wyf yn dywedyd celwydd), yn ddysgawdwr y Cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd.
8
Am hynny yr wyf yn ewyllysio i'r gwŷr weddio ym mhob man, gan ddyrchafu dwylaw sanctaidd, heb na digter nac ymrafael.
9
Yr un modd i'r gwragedd addurno eu hunain mewn dillad gweddus, gyda gŵylder a sobrwydd, nid â gwallt plethedig, ac aur, neu berlau, neu ddillad drudfawr;
10
ond — yr hyn sydd yn gweddu i wragedd yn proffesu duwioldeb — trwy weithredoedd da.
11
Dysged gwraig mewn llonyddwch gyda phob ymostyngiad.
12
Ac nid wyf yn caniatau i wraig athrawiaethu, nac ymawdurdodi ar wr, ond bod mewn llonyddwch;
13
canys Adda a luniwyd yn gyntaf, yna Efa;
14
ac Adda ni thwyllwyd; eithr y wraig, wedi ei hollol‐dwyllo, sydd wedi syrthio i gamwedd;
15
ond cadwedig fydd trwy ddwyn plant, os arhosant hwy mewn ffydd, a chariad, a sancteiddrwydd, gyda sobrwydd.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6