bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Timothy 6
1 Timothy 6
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
1
Cynnifer ag sydd dan yr iau yn gaethweision, cyfrifent eu meistriaid eu hunain yn deilwng o bob anrhydedd, fel na chabler enw Duw a'r athrawiaeth.
2
A'r rhai sydd ganddynt feistriaid crediniol, na ddiystyrent hwynt am eu bod yn frodyr, ond gwasanaethent hwy yn fwy, am fod y rhai sydd yn gyfrannogion o'r lleshâd yn gredinwyr ac yn anwyliaid. Y pethau hyn dysg a chynghora.
3
Os dysg neb yn wahanol, ac heb gydsynied â geiriau iachus, sef eiddo ein Harglwydd Iesu Grist, a'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb,
4
y mae wedi ei dywyllu, heb wybod dim, ond yn pendroni ynghylch cwestiynau ac ymryssonau ynghylch geiriau, o'r rhai y cyfyd cenfigen, cynhen, cabl‐eiriau, drwg‐dybiau,
5
ymrafaelion dibaid dynion llygredig eu meddwl, ac yn amddifad o'r gwirionedd, y rhai a dybiant fod duwioldeb yn ffynnonnell elw.
6
Ond y mae duwioldeb gyda boddlonrwydd yn elw mawr.
7
Canys ni ddygasom ddim i'r byd, canys ni allwn ddwyn dim allan chwaith;
8
ond gan fod gennym ymborth a dillad, a'r pethau hyn y'n digonir.
9
Ond y rhai a fynnant ymgyfoethogi a syrthiant i brofedigaeth a magl, a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, yn gyfryw ag sydd yn suddo dynion i ddinystr a cholledigaeth;
10
canys y mae ariangarwch yn wreiddyn pob drwg, a rhai, wedi chwantu am arian, a gyfeiliornasant oddiwrth y ffydd, ac a drywanasant eu hunain a llawer o ofidiau.
11
Eithr tydi, ŵr Duw, gochel y pethau hyn, a dylyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, amynedd, addfwynder.
12
Ymdrecha hardd‐deg ymdrech y ffydd: cymmer afael ar y bywyd tragywyddol, i'r hwn hefyd y'th alwyd, ac y cyffesaist y gyffes dda gerbron llawer o dystion.
13
Yr wyf yn gorchymyn i ti gerbron Duw, yr hwn sydd yn cadw pob peth yn fyw, a Christ Iesu, yr hwn yn amser Pontius Pilat a dystiodd y gyffes dda,
14
gadw o honot y gorchymyn heb frycheuyn, yn ddiargyhoedd, hyd Ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist,
15
yr hwn yn ei amserau ei hun a ddengys y Bendigedig Dduw a'r unig Bennaeth, Brenin y rhai a deyrnasant, Arglwydd y rhai a arglwyddiaethant,
16
yr hwn yn unig sydd ganddo Anfarwoldeb, yn trigo yn y goleuni nas gellir dyfod atto, yr hwn nis gwelodd un dyn, ac nis dichon ei weled: i'r hwn y byddo anrhydedd a gallu tragywyddol. Amen.
17
Gorchymyn i'r rhai sydd oludog yn y byd yma, na byddont uchel‐feddwl, ac na osodont eu gobaith ar olud anwadal, eithr ar Dduw, yr hwn sydd yn rhoddi i ni bob peth mewn modd goludog, er mwynhâd;
18
ar iddynt wneuthur daioni, ac ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da, bod yn gyfranwyr da, ac yn gymdeithasgar,
19
gan drysori iddynt eu hunain sail dda ar gyfer y dyfodol, fel y caffont afael ar y bywyd gwirioneddol.
20
O Timotheus, gwarchod yr hyn a roed i'th gadwraeth, gan droi oddiwrth y gwag‐siaradach halogedig, a gwrth‐osodiadau y wybodaeth a gam-enwir felly,
21
yr hon, a rhai yn ei phroffesu, hwy, mewn perthynas i'r Ffydd, a ŵyrasant oddiwrth y nod. Gras fyddo gyda chwi.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
All chapters:
1
2
3
4
5
6