bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Timothy 3
1 Timothy 3
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
1
Ffyddlawn yw yr ymadrodd, Os yw neb yn ymawyddu am yr Arolygiaeth, y mae yn chwennych gwaith da.
2
Rhaid, gan hynny, i'r Arolygwr fod yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, yn sobr, yn bwyllog, yn weddaidd, yn llettygar, yn athrawaidd,
3
nid yn wingar, nid yn darawydd,, yn ymarhous, yn anymladdgar, yn ddi‐ariangar,
4
yn llywodraethu ei dy ei hun yn dda, yn dal ei blant mewn darostyngiad gyda phob difrifoldeb;
5
(eithr onid yw un yn gwybod pa fodd i lywodraethu ei dŷ ei hun, pa fodd y cymmer ofal am eglwys Dduw?)
6
Nid yn newyddian, rhag iddo, wedi ei ddallu gan falchder, syrthio i gondemniad y Diafol.
7
Ac y mae yn rhaid iddo hefyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan, fel na syrthio i waradwydd ac i fagl y Diafol.
8
Rhaid i Ddiaconiaid yr un ffunud fod yn ddifrifol, nid yn ddau‐eiriog, nid yn ymroddi i win lawer, nid yn budr‐elwa,
9
yn dal dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur.
10
A phrofer y rhai hyn hefyd yn gyntaf, yna gwasanaethent fel Diaconiaid, os ydynt yn ddiargyhoedd.
11
Rhaid i'r Gwragedd yr un ffunud fod yn ddifrifol, nid yn enllibaidd, yn sobr, yn ffyddlawn ym mhob peth.
12
Bydded y Diaconiaid yn wŷr un wraig, yn llywodraethu eu plant a'u tai eu hunain yn dda.
13
Canys y rhai a wasanaethant fel Diaconiaid yn dda, a ennillant iddynt eu hunain safle anrhydeddus, a llawer o hyfder yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu.
14
Y pethau hyn yr ydwyf yn eu hysgrifennu attat, gan obeithio dyfod attat ar fyrder;
15
ond os byddaf yn oedi, ysgrifennaf fel y gwyppech pa fodd y mae yn rhaid ymddwyn yn Nhŷ Dduw, yr hwn yw Eglwys y Duw byw, colofn a chynnalydd y gwirionedd.
16
Ac yn ddiddadl mawr yw dirgelwch duwioldeb: Yr Hwn a amlygwyd yn y cnawd; A gyfiawnhâwyd yn yr Yspryd; A welwyd gan angelion; A bregethwyd i'r Cenhedloedd; A gredwyd ynddo yn y byd; A dderbyniwyd i fyny mewn gogoniant.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6