bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Timothy 5
1 Timothy 5
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
1
Na cherydda henafgwr yn llym, eithr cynghora ef megys tâd; y rhai ieuengach, megys brodyr;
2
y gwragedd hynach, megys mamau, a'r rhai ieuengach, megys chwiorydd, gyd phob purdeb.
3
Anrhydedda wragedd gweddwon, y rhai sydd weddwon mewn gwirionedd.
4
Ond os oes gan unrhyw weddw blant neu ŵyrion, dysgent yn gyntaf arfer duwioldeb at eu teulu eu hunain, a gwneyd atdaliad i'w rhieni: canys hyn sydd gymmeradwy yng ngolwg Duw.
5
Yn awr yr hon sydd weddw mewn gwirionedd ac yn amddifad sydd wedi gosod ei gobaith ar Dduw, ac y mae yn parhâu mewn ymbiliau a gweddiau nos a dydd;
6
eithr yr hon sydd yn arwain bywyd gloddestgar sydd yn farw tra yn fyw.
7
A'r pethau hyn gorchymyn, fel y byddont yn ddiargyhoedd.
8
Ac od oes neb heb ddarparu ar gyfer ei bobl ei hun, ac yn enwedig ei dylwyth ei hun, y mae wedi gwadu y ffydd, ac yn waeth na'r di‐ffydd.
9
Na chofrester fel gweddw un dan dri‐ugain mlwydd oed, a fu wraig i un gwr,
10
yn cael tystiolaeth dda am ei gweithredoedd da, os dygodd blant i fyny, os bu lettygar, os golchodd hi draed y saint, os cynnorthwyodd y cystuddiol, os dylynodd bob gweithred dda.
11
Eithr gwrthod weddwon ieuaingc, canys pan änt yn nwyd‐wyllt yn erbyn iau Crist, priodi a fynnant,
12
gan dderbyn condemniad, am iddynt osod heibio eu ffydd gyntaf.
13
Heblaw, y maent yn dysgu bod yn segur, gan fyned o amgylch o dŷ i dŷ; ac nid yn unig yn ddiog, ond hefyd yn wag‐siaradus ac yn ymyrgar, gan lefaru pethau annghymwys.
14
Yr wyf yn ewyllysio gan hynny i'r rhai ieuengach briodi, dwyn plant, llywodraethu eu teulu, heb roddi dim achlysur i'r gwrthwynebwr i ddifenwi:
15
canys y mae rhai eisoes wedi gŵyro ar ol Satan.
16
Od oes gan wraig grediniol weddwon, cynnorthwyed hwy, ac na osoder baich ar yr eglwys, fel y cynnorthwyo y gweddwon gwirioneddol.
17
Cyfrifer yr Henuriaid sydd yn llywyddu yn dda yn deilwng o barch dyblyg, yn enwedig y rhai sydd yn llafurio yn y Gair a'r athrawiaeth;
18
canys dywed yr Ysgrythyr, “Nid wyt i rwymo safn yr ŷch pan yn dyrnu yr ŷd”; ac, “Y mae y gweithiwr yn haeddu ei gyflog.”
19
Yn erbyn Henuriad na dderbyn gyhuddiad oddieithr ym mhresennoldeb dau neu dri o dystion.
20
Y rhai sydd yn pechu, cerydda yng ngwydd pawb, fel y byddo ofn ar y lleill.
21
Yr wyf yn dy dynghedu, ym mhresennoldeb Duw, a Christ Iesu,, a'r etholedig angelion, ar gadw o honot y pethau hyn heb ragfarn, heb wneuthur dim o bleidgarwch,
22
Na ddod ddwylaw yn frysiog ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill; cadw dy hun yn bur.
23
Nac ŷf ddwfr yn hwy, eithr arfer ychydig win er mwyn dy gylla a'th fynych wendidau.
24
Pechodau rhai dynion sydd amlwg, yn myned o'r blaen i farn; i rai, y maent yn canlyn ar eu hol.
25
Yr un modd hefyd y mae gweithredoedd da yn amlwg, a'r rhai sydd wahanol, nis gellir eu cuddio.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6