bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Galatians 1
Galatians 1
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
1
Paul, Apostol — nid oddiwrth ddynion, na chwaith trwy ddyn, ond trwy Iesu Grist a Duw Dâd, yr Hwn a'i cyfododd Ef o feirw —
2
a'r holl frodyr sydd gyda mi, at eglwysi Galatia:
3
Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw Dâd a'n Harglwydd Iesu Grist,
4
yr Hwn a roddes ei Hun am ein pechodau, fel y'n gwaredai ni allan o'r byd drwg presennol, yn ol ewyllys ein Duw a'n Tâd,
5
i'r Hwn y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
6
Rhyfeddu yr wyf eich bod mor fuan yn symmud oddiwrth yr Hwn a'ch galwodd yng ngras Crist i efengyl wahanol,
7
yr hon nid yw arall: ond fod rhai yn eich cythryblu chwi, ac yn chwennych dattroi efengyl Crist.
8
Eithr pe bai hyd y nod i nyni neu angel o'r nef efengylu i chwi amgen na'r hyn a efengylasom i chwi, bydded felldigedig.
9
Megys y dywedasom o'r blaen, yr wyf hefyd yn awr drachefn yn dywedyd, Os oes neb yn efengylu i chwi amgen na'r hyn a dderbyniasoch, bydded felldigedig.
10
Canys yn awr ai am ennill ffafr dynion yr wyf, neu ynte Duw? A ydwyf yn ceisio boddloni dynion? Os hyd yn hyn y byddwn yn boddloni dynion, ni fyddwn was i Grist.
11
Canys yr wyf yn hysbysu i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad ydyw yn ol dyn.
12
Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi, nac y'm dysgwyd, ond trwy ddadguddiad Iesu Grist.
13
Canys chwi a glywsoch am fy ymarweddiad gynt mewn Iuddewaeth, i mi tros fesur erlid eglwys Dduw a'i hanrheithio hi;
14
a myned rhagof mewn Iuddewaeth tuhwnt i lawer o'm cyfoedion yn fy nghenedl, gan fod o'r dechreu yn fwy gorselog tros draddodiadau fy nhadau.
15
Ond pan welodd Duw yn dda, yr hwn a'm neillduodd o'm genedigaeth, ac a'm galwodd trwy ei ras,
16
i ddadguddio ei Fab ynof fi, fel y pregethwn Ef ym mhlith y cenhedloedd, yn y fan nid ymgynghorais â chig a gwaed;
17
ac nid aethum ymaith i fyny i Jerusalem at y rhai oeddynt o'm blaen i yn apostolion, eithr aethum ymaith i Arabia; a thrachefn y dychwelais i Damascus.
18
Yna ar ol tair blynedd aethum i fyny i Jerusalem i ymweled a Cephas, ac arhosais gydag ef bymtheng niwrnod;
19
eithr neb arall o'r apostolion nis gwelais, oddieithr Iago brawd yr Arglwydd.
20
A'r pethau yr wyf yn eu hysgrifennu attoch, wele, ger bron Duw, nid wyf yn dywedyd celwydd.
21
Wedi hynny daethum i ororau Syria a Cilicia;
22
ac yr oeddwn yn anadnabyddus yn bersonnol i eglwysi Judea, y rhai oeddynt yng Nghrist;
23
ond yn unig yr oeddynt yn clywed: Yr hwn oedd gynt, yn ein herlid, sydd yn awr yn pregethu y Ffydd yr oedd efe gynt yn ei hanrheithio;
24
a hwy a ogoneddasant Dduw ynof fi.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6