bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Galatians 5
Galatians 5
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
1
I ryddid y rhyddhâodd Crist ni: sefwch gan hynny yn gadarn, ac na ddalier chwi drachefn dan iau caethiwed.
2
Wele, myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych, Os mynnwch enwaediad, ni leshâ Crist ddim i chwi.
3
Ac yr wyf yn tystio drachefn i bob dyn ar a enwaedir, ei fod yn ddyledwr i wneuthur yr holl Ddeddf.
4
Chwi a wnaed yn ddirym oddiwrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhâu trwy ddeddf; chwi a syrthiasoch oddiwrth ras.
5
Canys nyni trwy yr Yspryd o ffydd a ddysgwyliwn yn daer obaith cyfiawnder.
6
Canys yng Nghrist Iesu ni ddichon enwaediad ddim, na dienwaediad, ond ffydd yn gweithio trwy gariad.
7
Yr oeddech yn rhedeg yn dda: pwy a'ch rhwystrodd, fel nad ufuddhâech i'r gwirionedd?
8
Ni ddaeth y darbwylliad hwn oddiwrth yr Hwn sydd yn eich galw chwi.
9
Y mae ychydig lefain yn lefeinio yr holl does.
10
Y mae gennyf hyder ynoch chwi yn yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim arall: ond yr hwn sydd yn eich cythryblu a ddwg ei farnedigaeth, pwy bynnag fyddo.
11
Ond myfi, frodyr, os enwaediad etto yr wyf yn ei bregethu, paham y'm herlidir etto? yna y mae tramgwydd y Groes wedi ei ddiddymmu.
12
Mi a fynnwn, ië, pe byddai i'r rhai sydd yn eich ansefydlu hyd y nod dorri eu hunain ymaith.
13
Canys i ryddid y'ch galwyd chwi, frodyr; yn unig na ddefnyddiwch eich rhyddid yn achlysur i'r cnawd; ond trwy gariad byddwch weision i'ch gilydd.
14
Canys yr holl Ddeddf a gyflawnir mewn un gair, yn hwn, Câr dy gymmydog fel ti dy hun.
15
Eithr os cnipgnoi a thraflyngcu eich gilydd yr ydych, gwyliwch na ddyfethir chwi gan eich gilydd.
16
Ond meddaf, Rhodiwch wrth yr Yspryd, ac na chyflawnwch drachwant y cnawd.
17
Canys y mae y cnawd yn chwennych yn erbyn yr Yspryd, a'r Yspryd yn erbyn y cnawd; canys y rhai hyn ydynt wrthwynebol i'w gilydd, fel na wneloch y pethau a ewyllysioch.
18
Ond os gan yr Yspryd y'ch arweinir, nid ydych dan ddeddf.
19
Ond amlwg yw gweithredoedd y cnawd: y cyfryw ydynt,, godineb, aflendid, anlladrwydd,
20
delw‐addoliaeth, dewiniaeth, gelyniaethau, cynnen, eiddigedd, llidiau, brad‐gynllwynion, ymraniadau, pleidiau, cenfigennau,
21
[llofruddiaethau ], meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i'r rhai hyn: am y rhai yr wyf yn rhag‐ddywedyd i chwi, megys y rhag‐ddywedais, y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau ni chänt etifeddu Teyrnas Dduw.
22
Eithr ffrwyth yr Yspryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, hir‐ymaros, hynawsedd, daioni, ffyddlonder,
23
addfwynder, hunan‐reolaeth: yn erbyn y cyfryw nid oes deddf.
24
A'r rhai sydd o Grist Iesu a groeshoeliasant y cnawd, ynghyd a'i wyniau a'i chwantau.
25
Os byw ydym wrth yr Yspryd, wrth yr Yspryd hefyd rhodiwn.
26
Na fyddwn wag‐ogoneddgar, gan gythruddo ein gilydd, gan genfigennu wrth ein gilydd.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6