bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Galatians 6
Galatians 6
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
1
Frodyr, hyd y nod os delir un yn ddiarwybod mewn rhyw drosedd, chwychwi y rhai sydd ysprydol, adferwch y cyfryw un mewn yspryd addfwynder; gan edrych attat dy hun, rhag dy demtio dithau hefyd.
2
Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly y llawn‐gyflawnwch ddeddf Crist.
3
Canys os tybia neb ei fod yn rhywbeth, pan nad yw ddim, y mae yn twyllo ei feddwl ei hun.
4
Eithr profed pob un ei waith ei hun, ac yna y bydd iddo ei ymffrost mewn perthynas iddo ef ei hun yn unig, ac nid mewn perthynas i un arall;
5
canys pob un a ddwg ei faich ei hun.
6
A chyfranned yr hwn a addysgir yn y gair â'r hwn sydd yn ei addysgu ym mhob peth da.
7
Na thwyller chwi; ni watworir Duw; canys pa beth bynnag a hauo dyn, hynny hefyd a fêd efe.
8
Canys yr hwn sydd yn hau i'w gnawd ei hun, o'r cnawd a fêd lygredigaeth; eithr yr hwn sydd yn hau i'r Yspryd, o'r Yspryd a fêd fywyd tragywyddol.
9
Ac mewn gwneuthur daioni na ddïgalonwn: canys yn ei iawn bryd y medwn, os heb ddiffygio.
10
Gan hynny felly, fel y mae gennym amser cyfaddas, gweithredwn yr hyn sydd dda tuag at bawb, ond yn enwedig tuag at y rhai o deulu y ffydd.
11
Gwelwch a pha fath lythyrennau breision yr ysgrifennais attoch chwi â'm llaw fy hun.
12
Cynnifer ag sydd yn ewyllysio gwneuthur ymddangosiad ffafriol yn y cnawd, y rhai hyn sydd yn eich gorfodi i'ch enwaedu, yn unig fel nad erlidier hwy am Groes Crist.
13
Canys nid yw hyd y nod hwy y rhai a enwaedir yn cadw y ddeddf eu hunain, ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi, fel yr ymffrostiont yn eich cnawd chwi.
14
Eithr na atto Duw i mi ymffrostio ond yng Nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hon y mae y byd wedi ei groeshoelio i mi, a minnau i'r byd.
15
Canys enwaediad nid yw ddim, na dienwaediad, ond creadur newydd.
16
A chynnifer ag a rodiant yn ol y rheol hon, tangnefedd arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw.
17
O hyn allan na fydded i neb beri blinderau i mi; canys myfi wyf yn dwyn nodau yr Iesu yn fy nghorph.
18
Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda'ch yspryd chwi, frodyr. Amen.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
All chapters:
1
2
3
4
5
6