bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Galatians 2
Galatians 2
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 3 →
1
Gwedi hynny, wedi yspaid pedair blynedd‐ar‐ddeg, yr aethum drachefn i fyny i Jerusalem gyda Barnabas, gan gymmeryd Titus hefyd gyda mi.
2
Ac aethum i fyny yn ol dadguddiad, a gosodais o'u blaen yr efengyl yr wyf yn ei phregethu ym mhlith y Cenhedloedd, ond yn gyfrinachol i'r rhai mewn cyfrif, rhag mewn un modd y rhedwn neu y rhedais yn ofer.
3
Eithr hyd y nod Titus, yr hwn oedd gyda mi, ac yntau yn Roegwr, ni orfodwyd i enwaedu arno:
4
eithr hynny o herwydd y gau‐frodyr a ddygwyd i mewn yn llechwraidd, y rhai a ddaethant i mewn yn ddirgel i yspio ein rhyddid, yr hwn sydd gennym yng Nghrist Iesu, fel y'n dygent i gaethiwed:
5
i'r rhai ni roisom ffordd mewn ymostyngiad, naddo, am awr, fel yr arhosai gwirionedd yr efengyl gyda chwi.
6
Ond oddiwrth y rhai mewn cyfrif eu bod yn rhywbeth (pa beth bynnag oeddynt, ni wna ddim gwahaniaeth i mi, nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn), canys y rhai mewn cyfrif ni chyfranasant ddim i mi:
7
eithr yn y gwrthwyneb, pan welsant ddarfod ymddiried i mi am efengyl y dienwaediad, megys am efengyl yr enwaediad i Petr
8
(canys yr Hwn a weithiodd yn Petr er apostolaeth yr enwaediad, a weithiodd ynof finnau hefyd tuag at y Cenhedloedd);
9
a phan wybu Iago a Cephas ac Ioan, y rhai a gyfrifid yn golofnau, y gras a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeheu‐ddwylaw cymdeithas, fel yr elem ni at y cenhedloedd, a hwythau at yr enwaediad.
10
Yn unig dymunent ar i ni gofio y tlodion, yr hyn beth yr oeddwn hefyd yn awyddus i wneyd.
11
A phan ddaeth Cephas i Antioch, mi a'i gwrthwynebais ef yn ei wyneb, canys yr oedd yn gondemniedig.
12
Oblegyd cyn dyfod rhai oddiwrth Iago, efe a fwyttâodd gyda'r Cenhedloedd; ond pan ddaethant, efe a dynnodd yn ol ac a ymwahanodd, gan ofni y rhai oedd o'r enwaediad.
13
A chydag ef hefyd y cyd‐ragrithiodd y lleill o'r Iuddewon, fel y dygwyd ymaith Barnabas hefyd â'u rhagrith hwy.
14
Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawn‐droedio yn ol gwirionedd yr efengyl, dywedais wrth Cephas yn eu gŵydd hwynt oll, Os wyt ti, a thi yn Iuddew, yn byw fel y Cenhedloedd, ac nid fel yr Iuddewon, pa fodd yr wyt yn dirgymhell y Cenhedloedd i fyw fel Iuddewon?
15
Nyni wrth naturiaeth ydym Iuddewon, ac nid yn bechaduriaid o'r Cenhedloedd;
16
ond yn gwybod na chyfiawnheir dyn gan weithredoedd deddf, ond trwy ffydd yng Nghrist Iesu; nyni hefyd a gredasom yng Nghrist Iesu, fel y'n cyfiawnheid trwy ffydd yng Nghrist ac nid trwy weithredoedd deddf; oblegyd ni chyfiawnheir un cnawd trwy weithredoedd deddf.
17
Eithr os, tra yn ceisio cael ein cyfiawnhâu yng Nghrist, y'n caed ni ein hunain yn bechaduriaid, a ydyw Crist gan hynny yn weinidog pechod?
18
Na atto Duw. Canys os wyf fi yn adeiladu drachefn y pethau a dynnais i lawr, yr wyf yn profi fy hun yn droseddwr.
19
Canys myfi trwy ddeddf fum farw i ddeddf, fel y byddwn fyw i Dduw. Yr wyf wedi fy nghroeshoelio gyda Christ;
20
ac nid myfi mwyach sydd yn byw, ond Crist sydd yn byw ynof fi; a'r hyn yn awr yr wyf yn ei fyw yn y cnawd, yr wyf yn ei fyw mewn ffydd, yr hon sydd ym Mab Duw, yr Hwn a'm carodd ac a'i rhoddes ei Hun i fyny drosof.
21
Nid wyf yn dirymmu gras Duw; canys os trwy ddeddf y mae cyfiawnder, yna y bu Crist farw yn ddianghenrhaid.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6