bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Galatians 4
Galatians 4
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
1
Ond yr wyf yn dywedyd, am gymmaint o amser ag y mae yr etifedd yn blentyn, nid oes dim gwahaniaeth rhyngddo a chaethwas, er ei fod yn arglwydd ar y cwbl;
2
eithr y mae efe dan warcheidwaid a goruchwylwyr hyd amser pennodedig y tâd.
3
Felly ninnau hefyd, pan oeddym blant, a gedwid dan wyddorion y byd.
4
Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, Duw a ddanfonodd allan ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan ddeddf,
5
fel y prynnai y rhai oeddent dan ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad.
6
Ac o herwydd eich bod yn feibion, Duw a anfonodd allan Yspryd ei Fab i'n calonnau ni, yn llefain, Abba, Dâd.
7
Felly nid wyt mwyach yn gaethwas, eithr yn fab; ac os mab, yna etifedd trwy Dduw.
8
Eithr yn wir y pryd hwnnw, ac heb adnabod Duw, yr oeddech mewn caeth‐wasanaeth i'r rhai wrth naturiaeth nad ydynt dduwiau:
9
ond yn awr, a chwi wedi dyfod i adnabod Duw, neu, yn hytrach, yn cael eich adnabod gan Dduw, pa fodd y trowch yn ol drachefn at y wyddorion gwan a thlodion, i'r rhai yr ydych yn dymuno drachefn o'r newydd bod mewn caeth‐wasanaeth?
10
Yr ydych yn cadw yn fanwl ddyddiau, a misoedd, a thymhorau, a blynyddoedd.
11
Mae arnaf ofn am danoch, rhag mewn un modd, fy mod wedi llafurio yn ofer mewn perthynas i chwi.
12
Dymunaf arnoch, frodyr, byddwch fel myfi; canys yr wyf fi fel chwi. Mewn dim ni wnaethoch gam â mi;
13
eithr gwyddoch mai o herwydd gwendid y cnawd y pregethais yr efengyl i chwi y tro cyntaf;
14
a'ch profedigaeth chwi yn fy nghnawd ni ddiystyrasoch, ac ni wrthodasoch; eithr chwi a'm derbyniasoch megys angel Duw, megys Crist Iesu.
15
Pa le gan hynny y mae eich dedwyddiad o honoch eich hunain? canys tystio yr wyf i chwi, pe yn bosibl, y tynnasech allan eich llygaid ac a'u rhoisech i mi.
16
Felly a wyf wedi myned yn elyn i chwi, wrth ddywedyd y gwir i chwi?
17
Y maent yn eich ceisio yn selog, ond nid yn onest; eithr chwennych y maent eich cau chwi allan, fel y byddo i chwi eu ceisio hwy yn selog.
18
Eithr da yw cael ein ceisio yn selog mewn peth da yn wastadol, ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi,
19
fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn esgor arnoch drachefn, hyd oni ffurfier Crist ynoch.
20
Ewyllysiwn fod yn bresennol yn awr gyda chwi a newid fy llais, canys yr wyf mewn dyryswch yn eich cylch.
21
Dywedwch i mi, y rhai ydych yn chwennych bod dan ddeddf, ai ni wrandewch ar y ddeddf?
22
Canys y mae yn ysgrifenedig fod gan Abraham ddau fab, un o'r wasanaeth‐ferch, ac un o'r wraig rydd.
23
Eithr yr hwn o'r wasanaeth‐ferch a aned yn ol y cnawd, a'r hwn o'r wraig rydd trwy addewid.
24
Yr hyn bethau ydynt ffugyrol; canys y gwragedd hyn ydynt ddau gyfammod: un o fynydd Sinai, yn dwyn plant i gaethiwed, yr hon yw Hagar.
25
A'r Hagar hon yw mynydd Sinai yn Arabia, ac y mae yn cyfatteb i'r Jerusalem sydd yn awr, canys y mae mewn caethiwed gyda'i phlant.
26
Ond y Jerusalem uchod sydd rydd, yr hon yw ein mam ni.
27
Canys ysgrifenedig yw:— Llawenycha, y diffrwyth, yr hon nid wyt yn dwyn plant; Tor allan a llefa, yr hon nid wyt yn esgor; canys i'r unig y mae llawer mwy o blant nag i'r hon y mae ganddi wr.
28
A chwychwi, frodyr, megys Isaac, ydych blant addewid.
29
Eithr megys y pryd hwnnw, yr hwn a aned yn ol y cnawd a erlidiai yr hwn a aned yn ol yr Yspryd, felly hefyd yn awr.
30
Eithr pa beth a ddywed yr Ysgrythyr? Bwrw allan y wasanaeth‐ferch a'i mab: canys ni chaiff mab y wasanaeth‐ferch etifeddu gyda mab y wraig rydd.
31
Felly, frodyr, nid plant y wasanaeth‐ferch ydym, ond y wraig rydd.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6