bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Galatians 3
Galatians 3
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
1
O Galatiaid anneallus, pwy a'ch llygad‐dynnodd chwi, i'r rhai, o flaen eich llygaid, y portreiadwyd Iesu Grist yn groeshoeliedig?
2
Hyn yn unig a cwyllysiaf ei ddysgu gennych: Ai trwy weithredoedd deddf y derbyniasoch yr Yspryd, neu trwy wrandawiad ffydd?
3
A ydych chwi mor anneallus? wedi dechreu yn yr Yspryd, ai yn awr yn y cnawd y'ch perffeithir?
4
A ddyoddefasoch gymmaint o bethau yn ofer? os hefyd yn ofer.
5
Yr hwn gan hynny sydd yn eich cyflenwi chwi â'r Yspryd, ac yn effeithio galluoedd gwyrthiol ynoch, ai o weithredoedd deddf neu o wrandawiad ffydd y mae?
6
Megys y credodd Abraham Dduw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
7
Yr ydych yn canfod gan hynny mai y rhai sydd o ffydd, y rhai hynny yw meibion Abraham.
8
A'r Ysgrythyr, yn rhagweled mai trwy ffydd y cyfiawnhâi Duw y cenhedloedd, a rag‐efengylodd i Abraham, Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd.
9
Felly y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlawn.
10
Canys cynnifer ag y sydd o weithredoedd deddf, dan felldith y maent, canys y mae yn ysgrifenedig, Melldigedig yw pob un nad yw yn aros yn yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn Llyfr y Ddeddf, i'w gwneuthur hwynt;
11
ac na chyfiawnheir neb trwy ddeddf ger bron Duw, eglur yw; canys, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd;
12
a'r Ddeddf nid yw o ffydd, eithr, Yr hwn sydd yn gwneuthur y pethau hyn a fydd byw ynddynt.
13
Crist a'n llwyr‐brynodd ni o felldith y Ddeddf, gan ei wneuthur yn felldith trosom: canys y mae yn ysgrifenedig, Melldigedig yw pob un sydd ynghrog ar bren;
14
fel y delai i'r Cenhedloedd fendith Abraham yn Iesu Grist, fel y derbyniem addewid yr Yspryd trwy ffydd.
15
Frodyr, yn ol dull dynion yr wyf yn dywedyd: Er na byddo ond cyfammod dyn, wedi ei gadarnhau, nid yw neb yn ei ddirymmu neu yn ychwanegu atto.
16
Yn awr i Abraham y llefarwyd yr addewidion, ac i'w hâd. Ni ddywed, Ac i hâdau, fel am lawer, eithr fel am un, Ac i'th hâd, yr hwn yw Crist.
17
A hyn yr wyf yn ei ddywedyd: Cyfammod a rag‐gadarnhawyd gan Dduw, nid yw y Ddeddf, yr hon a ddaeth bedwar cant a deg‐ar‐hugain o flynyddoedd wedi hyn, yn ei ddirymmu, fel ag i wneuthur yr addewid yn ddieffaith.
18
Canys os o ddeddf y mae yr etifeddiaeth, nid yw mwyach o addewid; ond Duw a'i rhad‐roddodd i Abraham trwy addewid.
19
Pa beth gan hynny yw y Ddeddf? Ychwanegwyd hi oblegyd troseddau, hyd oni ddeuai yr hâd i'r hwn y mae yr addewid wedi ei gwneuthur, wedi ei hordeinio trwy angelion trwy law cyfryngwr.
20
Yn awr nid yw y cyfryngwr yn gyfryngwr i un; ond Duw sydd un.
21
A yw y Ddeddf gan hynny yn erbyn addewidion Duw? Na atto Duw. Canys pe rhoddasid deddf yn gallu bywhâu, yn wir o ddeddf y buasai cyfiawnder.
22
Eithr cyd‐gauodd yr Ysgrythyr bob peth dan bechod, fel y rhoddid yr addewid a ddaw o ffydd Crist Iesu i'r rhai sydd yn credu.
23
Eithr cyn dyfod ffydd, nyni a gadwyd mewn gwarchodaeth dan ddeddf, wedi ein cyd‐gau i fyny i'r ffydd oedd ar gael ei dadguddio.
24
Fel ag y mae y Ddeddf wedi bod ein hathraw i'n harwain at Grist, fel y'n cyfiawnheid trwy ffydd.
25
Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan athraw.
26
Canys chwi oll ydych feibion Duw, trwy ffydd sydd yng Nghrist Iesu;
27
canys cynnifer o honoch a fedyddiwyd i Grist a wisgasoch Grist.
28
Nid oes nac Iuddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwrryw a benyw; canys chwi oll ydych un yng Nghrist Iesu.
29
Ac os eiddo Crist ydych, yna hâd Abraham ydych, etifeddion yn ol addewid.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6