bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
/
Acts 4
Acts 4
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 5 →
1
AC mal ydd oeddent wy yn llavaru wrth y popul, y bu ir Archoffeiriat, a llywyð y Templ, a’r Sadduceit ddyvot am ei pennae,
2
gan vot yn ddicllawn ganthwynt eu bot yn dyscy yr bopul, ac yn praecethy yn Envv yr Iesu y cyvodedigaeth o veirw.
3
Ac wynt a roesont ei dwylo arnwynt, ac ei dodesont yn‐carchar yd tranoeth: can ys yr owon gyd a’r hwyr ytoedd hi.
4
Er hyny llawer o’r a wrandawsei yr gair a gredesōt, a’ niuer y gwyr oeð yn‐cylch pemp‐mil.
5
Ac e ddarvu y dydd, dranoeth, bot y llywiawdwyr hwy, a’ r Henafiait, a’ r gwyr llen wedi ymgynull yn‐Caerusalem,
6
ac Annas yr Archoffeiriat, ac Caiaphas, ac Ioan, ac Alexander, a chynniuer ac oeddynt o genedl yr Archoffeiriait.
7
Ac wedy yddwynt ei gosot gwydd-yn‐gwydd ac wynt, y gofynesont, Trwy pa allu, n ai ym‐pa Enw y gwnaetho‐chwi hynn?
8
Yno Petr yn gyflawn o’r Yspryt glan, a ddyvot wrthwynt, Chvvychvvi lywiawdwyr y popul, a’ Henyddion yr Israel,
9
can bot in holi ni heddyw o bleit gweithret da avvaetham i ddyn e gwan, ys ef pa wedd, ydd iachawyt ef,
10
bit wybodedit ychwy oll, ac i oll bopul yr Israel may trwy Enw Iesu Christ o Nazaret, yr vn a groceso‐chwi, yr vn a ad gyvodes Dew i vyny dd o veirw, ys trwy ddaw ef y saif y dyn hwn geyr eich bron chwi yma yn iach.
11
Hwn yw’r maen a vwriwyt heibio genwchwi yr adeilatwyr, yr hwn a wnaethpwyt yn ben congyl.
12
Ac nid oes iechyd vvrieth yn nep arall: can ys ym‐plith dynion ny roddwyt vn enw arall y dan y nef, y gellir ein iachay y ganthaw.
13
A’ phan welsant hyder Petr ac Ioan yn amadrodd a’ deall y bot wy yn anllytherenawc ac eb ddysc ganthwynt, rhyveðy a wnaethant, a’ ei adnabot, pan yw ei bot hwy y gyd a’r Iesu:
14
ac wrth welet hefyt y dyn a iachesit yn sefyll gyd ac wynt, ny allent ðywedyt dim yn erbyn y peth.
15
Eithyr gorchymyn yddwynt cilio o ywrth y Cyccor, ac ymgygcori yn ei plith ei hunain a wnaethant,
16
gan ddywedyt, Pa beth a wnawn i’r dynion hynn? can ys y’n ddiau e wnaethpwyt arwydd eglur y canthwynt, ac y mae yn amlwc hyn y gā pawp ’sy yn preswilio yn‐Caerusalem ac ny allwn ni wady.
17
Eithr rac ei gyhoeðy ym‐pellach ym‐plith y popl, bygythiwn a’ bygylwn hwy, na bo yðynt gym p wyll mwy ach wrth nep dyn yn yr Enw hwn.
18
A’i galw a wnaethāt, ac a ’orchymynesont yddynt na byðei yddynt ym‐moð yn y byd gympwyll na dyscu ’r bopul yn Enw ’r Iesu.
19
Ac yno Petr ac Ioan a atebesāt yðynt, gan ðywedyt, Ai iawu yw yn‐golwg Dew vfyddhay i chwi yn hytrach ai i Ddew, bernw‐chwi.
20
Can na allwn na ðywetom y pethe ’welsam ac a glywsam.
21
Ac velly ei bygyly a wnaethāt, a’ ei gellyng ymaith, eb vedry cahel dim deunydd y poeni wy, o bleit y p opul: can ys pawp oeddynt yn gogoneddy Dew, o bleit y peth y wnaethoeðit.
22
Can ys yð oedd y dyn yn vwy no dauugain blvvydd oed, y gwneythit y gwyrthiae yma or iachay arnaw.
23
Yno wedy daroedd gyntaf ei gellwng ymaith, yd aethant at ei cyueillon, ac venagesont yr oll bethae’ry vesei ir Archoffeiriait a’r Henyðion ei ddywedyd wrthwynt.
24
A’ phan ei clywsant vvy, derchafy ei llef ar Ddew a wnaethant yn vnvryd, a’ dywedyt, Arglwydd, ti yw ’r Dew r’y wnaeth ost nef a’ ddaiar, a’r mor a’ chymeint oll ys ydd ynthwynt,
25
yr hwn trwy enae dy was Dauid a ddywedeist, Paam ydd ymgynddeiriogodd y Cenetloedd, ac y meddyliawdd y popul bethæ gweigion?
26
Brenhinedd y ddaear a ymgasclesont, a’r llywiawdron a ddaethant yn‐cyt, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn y Christ ef.
27
Can ys yn wir yn erbyn dy sanct Vap Iesu, yr hwn a enneiniaist yð ymgymiullawdd Herod ac Pontius Pilatus y gyd a’r genetloedd a p h opul yr Israel,
28
i wneythy’r beth bynac a ddaroedd ith law ac ith gygcor di racdervyny ei wneythy’r.
29
Ac yn awr Arglwydd, edrych ar ei bygylae, a’ chaniat h a ith weison ymadrodd dy air yn gwbyl hyderus, y n y bo yty estyn dy law,
30
yd pan yw bot gwneythy’r iachay, ac arwyddion a’ ryveddodae drwy Enw dy sanct Vap Iesu.
31
A’ gwedy yðwynt weddiaw, y cyffroawdd y lle ydd oeddent wedy’r ymgynnull, ac y cyflawnwyt wy oll o’r Yspryt glan, ac wy a ymadroddesont ’air Dew yn hyderus.
32
A’ lliaws yr ei oedd yn credy, yt oeddd o vn galon, ac un enait: ac ny ddyvot yr vn o hanwynt am ddim oll a veðei, ei vod yn eiddaw ehun, amyn bot pop peth yn gyffredin ganthwynt.
33
Ac a mawr gadernit y rhoes yr Apostolon testiolaeth cyfodiat yr Arglwydd Iesu, a’ rrat mawr yt oedd arnwynt oll.
34
Ac nid oedd vn yn ei plith, ac eisie arno: can ys cynniuer ac oedd yn meddy tiredd n ai tai, ei gwerthy a wnaethāt, a’ dwyn gwerth y pethae y werthit,
35
a’ei ’osot ilawr wrth draet yr Apostoliō. A’ rhanny a wneit i bop vn, megis ydd oedd yn rhait iddaw vvrtho.
36
Ac Ioses yr hwn a elwit y gan yr Apostolon Barnabas (ys ef yw hyny o ei ddeongl map diddanwch) oedd yn Leuit ac o vvlad Cyprus,
37
o enedigaeth, ac ef yn perchenawc tir, ei gwerthawdd, ac a dduc yr ariant, ac ei gesodes wrth draet yr Apostolon.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28