bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Samuel 16
1 Samuel 16
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 17 →
1
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, "Am ba hyd yr wyt yn mynd i ofidio am Saul, a minnau wedi ei wrthod fel brenin ar Israel? Llanw dy gorn ag olew a dos; yr wyf yn dy anfon at Jesse o Fethlehem, oherwydd yr wyf wedi gweld brenin imi ymysg ei feibion ef."
2
Gofynnodd Samuel, "Sut y medraf fi fynd? Os clyw Saul, fe'm lladd." Dywedodd yr ARGLWYDD, "Dos heffer gyda thi, a dweud dy fod wedi dod i aberthu i'r ARGLWYDD.
3
Rho wahoddiad i Jesse i'r aberth; dangosaf finnau iti beth i'w wneud, ac eneinia imi yr un a ddywedaf wrthyt."
4
Gwnaeth Samuel fel y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, a mynd i Fethlehem. Pan ddaeth henuriaid y dref yn gynhyrfus i'w gyfarfod a gofyn, "Ai mewn heddwch y daethost?"
5
atebodd yntau, "Ie, mewn heddwch. I aberthu i'r ARGLWYDD yr wyf fi yma; ymgysegrwch ac ymunwch mi yn yr aberth."
6
Cysegrodd yntau Jesse a'i feibion, a'u gwahodd i'r aberth. Fel yr oeddent yn dod, sylwodd ar Eliab a meddyliodd, "Yn sicr dyma'i eneiniog, gerbron yr ARGLWYDD."
7
Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, "Paid ag edrych ar ei wedd na'i daldra, oherwydd yr wyf wedi ei wrthod; oblegid nid yr hyn a wl meidrolyn y mae Duw'n ei weld. Yr hyn sydd yn y golwg a wl meidrolyn, ond y mae'r ARGLWYDD yn gweld beth sydd yn y galon."
8
Yna galwodd Jesse am Abinadab a'i ddwyn gerbron, ond dywedodd Samuel, "Nid hwn chwaith a ddewisodd yr ARGLWYDD."
9
Yna parodd Jesse i Samma ddod, ond dywedodd Samuel, "Nid hwn chwaith a ddewisodd yr ARGLWYDD."
10
A pharodd Jesse i saith o'i feibion ddod gerbron Samuel; ond dywedodd Samuel wrth Jesse, "Ni ddewisodd yr ARGLWYDD yr un o'r rhai hyn."
11
Yna gofynnodd Samuel i Jesse, "Ai dyma'r bechgyn i gyd?" Atebodd yntau, "Y mae'r ieuengaf ar l, yn bugeilio'r defaid." Ac meddai Samuel wrth Jesse, "Anfon amdano; nid awn ni oddi yma nes iddo ef ddod."
12
Felly anfonodd i'w gyrchu. Yr oedd yn writgoch, a chanddo lygaid gloyw ac yn hardd yr olwg. A dywedodd yr ARGLWYDD, "Tyrd, eneinia ef, oherwydd hwn ydyw."
13
Cymerodd Samuel y corn olew, a'i eneinio yng nghanol ei frodyr; a disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD ar Ddafydd, o'r dydd hwnnw ymlaen. Yna aeth Samuel yn l i Rama.
14
Ciliodd ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrth Saul, a dechreuodd ysbryd drwg oddi wrth yr ARGLWYDD aflonyddu arno.
15
Dywedodd gweision Saul wrtho, "Dyma sydd o'i le: y mae un o'r ysbrydion drwg yn aflonyddu arnat.
16
O na fyddai'n meistr yn gorchymyn i'w weision yma chwilio am u373?r sy'n medru canu telyn! Caiff yntau ei chanu pan fydd yr ysbryd drwg yn ymosod arnat, a byddi dithau'n well."
17
Dywedodd Saul wrth ei weision, "Chwiliwch am ddyn sy'n delynor da, a dewch ag ef ataf."
18
Atebodd un o'r gweision, "Mi welais fab i Jesse o Fethlehem, sy'n medru canu telyn, ac y mae'n u373?r dewr ac yn rhyfelwr; y mae'n siarad yn ddeallus ac yn un golygus hefyd, ac y mae'r ARGLWYDD gydag ef."
19
Anfonodd Saul negeswyr at Jesse a dweud, "Anfon ataf dy fab Dafydd sydd gyda'r defaid."
20
Cymerodd Jesse asyn gyda baich o fara, costrel o win, a myn gafr, a'u hanfon gyda'i fab Dafydd at Saul.
21
Aeth Saul yn hoff iawn o Ddafydd pan ddaeth i weini ato, a gwnaeth ef yn gludydd arfau iddo.
22
Anfonodd Saul at Jesse a dweud, "Yr wyf am i Ddafydd gael aros yn fy ngwasanaeth, oherwydd yr wyf wrth fy modd gydag ef."
23
Pryd bynnag y byddai'r ysbryd drwg yn blino Saul, byddai Dafydd yn cymryd ei delyn ac yn ei chanu; rhoddai hynny esmwythd i Saul a'i wella, fel bod yr ysbryd drwg yn cilio oddi wrtho.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31