bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Samuel 8
1 Samuel 8
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 9 →
1
Wedi i Samuel heneiddio, penododd ei feibion yn farnwyr ar yr Israeliaid.
2
Joel oedd ei fab hynaf, ac Abeia ei ail fab; ac yr oeddent yn barnu yn Beerseba.
3
Eto nid oedd y meibion yn cerdded yn llwybrau eu tad, ond yn ceisio elw, yn derbyn cil-dwrn ac yn gwyro barn.
4
Felly cyfarfu holl henuriaid Israel, a mynd at Samuel i Rama,
5
a dweud wrtho, "Yr wyt ti wedi mynd yn hen, ac nid yw dy feibion yn cerdded yn dy lwybrau di; rho inni'n awr frenin i'n barnu, yr un fath 'r holl genhedloedd."
6
Gofidiodd Samuel eu bod yn dweud, "Rho inni frenin i'n barnu", a gweddodd Samuel ar yr ARGLWYDD.
7
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, "Gwrando ar y bobl ym mhopeth y maent yn ei ddweud wrthyt, oherwydd nid ti ond myfi y maent yn ei wrthod rhag bod yn frenin arnynt.
8
Yn union fel y gwnaethant mi o'r dydd y dygais hwy i fyny o'r Aifft hyd heddiw, sef fy ngadael a gwasanaethu duwiau eraill, felly hefyd y gwnnt thithau.
9
Gwrando'n awr ar eu cais, ond gofala hefyd dy fod yn eu rhybuddio'n ddifrifol ac yn dangos iddynt ddull y brenin a fydd yn teyrnasu arnynt."
10
Mynegodd Samuel holl eiriau'r ARGLWYDD wrth y bobl oedd yn gofyn am frenin ganddo,
11
a dweud, "Dyma ddull y brenin a fydd yn teyrnasu arnoch: fe gymer eich meibion a'u gwneud yn gerbydwyr ac yn farchogion i fynd o flaen ei gerbyd.
12
Gwna rai ohonynt yn gapteiniaid mil a chapteiniaid hanner cant, eraill i aredig ei dir ac i fedi ei gynhaeaf, ac eraill i wneud ei arfau rhyfel ac offer ei gerbydau.
13
Fe gymer eich merched yn bersawresau, yn gogyddesau ac yn bobyddesau;
14
cymer hefyd eich meysydd, eich gwinllannoedd a'ch gerddi olewydd gorau a'u rhoi i'w weision;
15
bydd yn degymu'ch u375?d a'ch gwinllannoedd ac yn ei rannu i'w swyddogion a'i weision;
16
ac yn cymryd eich llafurwyr a'ch morynion, eich bustych gorau a'ch asynnod, ar gyfer ei waith ei hun.
17
Fe ddegyma'ch defaid, a byddwch chwithau'n gaethweision iddo.
18
A'r dydd hwnnw byddwch yn protestio oherwydd y brenin y byddwch wedi ei ddewis; ond ni fydd yr ARGLWYDD yn eich ateb y diwrnod hwnnw."
19
Gwrthododd y bobl wrando ar Samuel. "Na," meddent, "y mae'n rhaid inni gael brenin,
20
i ni fod yr un fath 'r holl genhedloedd, gyda brenin i'n barnu a'n harwain i ryfel ac ymladd ein brwydrau."
21
Gwrandawodd Samuel ar y cwbl a ddywedodd y bobl, a'i adrodd wrth yr ARGLWYDD.
22
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, "Gwrando ar eu cais, a rho frenin iddynt." A dywedodd Samuel wrth yr Israeliaid, "Ewch adref bob un."
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31