bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Samuel 18
1 Samuel 18
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 19 →
1
Wedi i Ddafydd orffen siarad Saul, ymglymodd enaid Jonathan wrth enaid Dafydd, a charodd ef fel ef ei hun.
2
Cymerodd Saul ef y dydd hwnnw, ac ni chaniataodd iddo fynd adref at ei dad.
3
Gwnaeth Jonathan gyfamod Dafydd am ei fod yn ei garu fel ef ei hun;
4
tynnodd y fantell oedd amdano a'i rhoi i Ddafydd; hefyd ei arfau, hyd yn oed ei gleddyf, ei fwa a'i wregys.
5
Llwyddodd Dafydd ym mhob gorchwyl a roddai Saul iddo, a gosododd Saul ef yn bennaeth ei filwyr, er boddhad i bawb, gan gynnwys swyddogion Saul.
6
Un tro yr oeddent ar eu ffordd adref, a Dafydd yn dychwelyd ar l taro'r Philistiaid, a daeth y gwragedd allan ym mhob tref yn Israel i edrych; aeth y merched dawnsio i gyfarfod y Brenin Saul gyda thympanau a molawdau a thrionglau,
7
ac yn eu llawenydd canodd y gwragedd: "Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiynau."
8
Digiodd Saul yn arw, a chafodd ei gythruddo gan y dywediad. Meddai, "Maent yn rhoi myrddiynau i Ddafydd, a dim ond miloedd i mi; beth yn rhagor sydd iddo ond y frenhiniaeth?"
9
o'r diwrnod hwnnw ymlaen yr oedd Saul yn cadw llygad ar Ddafydd.
10
Trannoeth meddiannwyd Saul gan yr ysbryd drwg, a pharablodd yn wallgof yng nghanol y tu375?, ac yr oedd Dafydd yn canu'r delyn yn l ei arfer.
11
Yr oedd gan Saul waywffon yn ei law, a hyrddiodd hi, gan feddwl trywanu Dafydd i'r pared, ond osgdd Dafydd ef ddwywaith.
12
Cafodd Saul ofn rhag Dafydd oherwydd fod yr ARGLWYDD wedi troi o'i blaid ef ac yn erbyn Saul.
13
Gyrrodd Saul ef i ffwrdd oddi wrtho, a'i wneud yn gapten ar fil o ddynion; ac ef oedd yn arwain y fyddin.
14
Yr oedd Dafydd yn llwyddiannus ym mhopeth a wni, ac yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef.
15
Pan welodd Saul mor llwyddiannus oedd Dafydd, yr oedd arno fwy o'i ofn.
16
Yr oedd Israel a Jwda i gyd yn ymserchu yn Nafydd am mai ef oedd yn arwain y fyddin.
17
Dywedodd Saul wrth Ddafydd, "Dyma fy merch hynaf, Merab. Fe'i rhoddaf yn wraig i ti, ond i ti ddangos gwrhydri i mi ac ymladd brwydrau'r ARGLWYDD." Meddwl yr oedd Saul, "Peidied fy llaw i 'i gyffwrdd, ond yn hytrach law y Philistiaid."
18
Atebodd Dafydd, "Pwy wyf fi, a beth yw tras llwyth fy nhad yn Israel, i mi fod yn fab-yng-nghyfraith i'w brenin?"
19
Ond pan ddaeth yr amser i roi Merab ferch Saul i Ddafydd, rhoddwyd hi'n wraig i Adriel o Mehola.
20
Syrthiodd Michal ferch Saul mewn cariad Dafydd, a phan ddywedwyd wrth Saul, yr oedd hynny'n dderbyniol ganddo.
21
Meddyliodd Saul, "Fe'i rhoddaf hi iddo; bydd hi'n fagl iddo, er mwyn i law y Philistiaid ei daro." A dywedodd Saul wrth Ddafydd am yr eildro, "Yn awr cei fod yn fab-yng-nghyfraith imi."
22
Yna gorchmynnodd Saul i'w weision, "Dywedwch yn ddistaw bach wrth Ddafydd, 'Y mae'r brenin, weli di, yn falch ohonot, a phawb o'i weision yn dy hoffi; yn awr, prioda ferch y brenin'."
23
Pan sibrydodd gweision Saul y pethau hyn yng nghlust Dafydd, dywedodd ef, "Ai dibwys o beth yn eich golwg yw priodi merch y brenin? Dyn tlawd a dinod wyf fi."
24
Aeth gweision Saul 'r neges yn l iddo, sut yr oedd Dafydd wedi dweud.
25
Yna dywedodd Saul, "Dywedwch fel hyn wrth Ddafydd, 'Nid yw'r brenin yn chwennych rhodd briodas heblaw cant o flaengrwyn Philistiaid, i dalu'r pwyth i elynion y brenin'." Syniad Saul oedd peri i Ddafydd gwympo trwy law y Philistiaid.
26
Cyflwynodd ei weision y neges hon i Ddafydd, ac ystyriodd y byddai'n dderbyniol iddo felly briodi merch y brenin.
27
Cyn bod yr amser wedi dod i ben, cychwynnodd Dafydd allan gyda'i wu375?r, ac aethant a lladd dau gant o ddynion y Philistiaid. Dygodd Dafydd eu blaengrwyn a'u cyflwyno i gyd i'r brenin, er mwyn cael priodi merch y brenin; a rhoddodd Saul ei ferch Michal yn wraig iddo.
28
Wedi i Saul weld a sylweddoli bod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, a bod ei ferch Michal yn ei garu,
29
daeth arno fwy o ofn Dafydd nag o'r blaen, ac aeth yn elyn am oes iddo.
30
Bob tro y di arweinwyr y Philistiaid allan i ymladd, byddai Dafydd yn fwy llwyddiannus na phawb arall o weision Saul, ac enillodd enwogrwydd mawr.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31