bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Samuel 20
1 Samuel 20
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 21 →
1
Ffodd Dafydd o Naioth ger Rama, a daeth at Jonathan a gofyn, "Beth wnes i? Beth yw fy mai a'm pechod gerbron dy dad, fel ei fod yn ceisio f'einioes?"
2
Dywedodd Jonathan, "Pell y bo! Ni fyddi farw. Edrych yma, nid yw fy nhad yn gwneud dim, bach na mawr, heb ddweud wrthyf fi; pam felly y byddai fy nhad yn celu'r peth hwn oddi wrthyf? Nid oes dim yn y peth."
3
Ond tyngodd Dafydd wrtho eto a dweud, "Y mae dy dad yn gwybod yn iawn imi gael ffafr yn d'olwg, a dywedodd, 'Nid yw Jonathan i wybod hyn, rhag iddo boeni.' Cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, dim ond cam sydd rhyngof fi ac angau."
4
Yna gofynnodd Jonathan i Ddafydd, "Beth a ddymuni imi ei wneud iti?"
5
Ac meddai Dafydd wrth Jonathan, "Y mae'n newydd-loer yfory, a dylwn fod yno'n bwyta gyda'r brenin; gad imi fynd ac ymguddio yn y maes tan yr hwyr drennydd.
6
Os bydd dy dad yn holi'n arw amdanaf, dywed, 'Fe grefodd Dafydd am ganiatd gennyf i fynd draw i'w dref ei hun, Bethlehem, am fod yno aberth blynyddol i'r holl dylwyth.'
7
Os dywed, 'Popeth yn dda', yna y mae'n ddiogel i'th was; ond os cyll ei dymer, byddi'n gwybod ei fod yn bwriadu drwg.
8
Bydd yn deyrngar i'th was, oherwydd gwnaethost gyfamod mi gerbron yr ARGLWYDD. Ac os oes bai ynof, lladd fi dy hun; pam mynd mi at dy dad?"
9
Atebodd Jonathan, "Pell y bo hynny! Pe bawn i'n gwybod o gwbl fod fy nhad yn bwriadu drwg iti, oni fyddwn yn dweud wrthyt?"
10
Gofynnodd Dafydd i Jonathan, "Pwy sydd i ddweud wrthyf os bydd dy dad yn rhoi ateb chwyrn iti?"
11
Dywedodd Jonathan wrth Ddafydd, "Tyrd, gad inni fynd i'r maes."
12
Aeth y ddau allan i'r maes, ac meddai Jonathan wrth Ddafydd, "Cyn wired bod ARGLWYDD Dduw Israel yn fyw, mi holaf fy nhad tua'r adeg yma yfory am y trydydd tro; yna, os newydd da fydd i Ddafydd, anfonaf air i ddweud wrthyt.
13
Ond os yw fy nhad am wneud niwed iti, yna fel hyn y gwnelo'r ARGLWYDD i mi, Jonathan, a rhagor, os na fyddaf yn dweud wrthyt, er mwyn iti gael mynd ymaith yn ddiogel. Bydded yr ARGLWYDD gyda thi, fel y bu gyda'm tad.
14
Os byddaf fyw, gwna drugaredd mi yn enw'r ARGLWYDD.
15
Ond os byddaf farw, paid byth ag atal dy drugaredd oddi wrth fy nheulu. A phan fydd yr ARGLWYDD wedi torri ymaith holl elynion Dafydd oddi ar wyneb y tir,
16
na fydded Jonathan wedi ei dorri oddi wrth deulu Dafydd; a bydded i'r ARGLWYDD ddial ar elynion Dafydd."
17
Tyngodd Jonathan eto i Ddafydd am ei fod yn ei garu, oherwydd yr oedd yn ei garu fel ei enaid ei hun.
18
A dywedodd Jonathan wrtho, "Y mae'n newydd-loer yfory, a gwelir dy eisiau pan fydd dy le yn wag; a thrennydd byddant yn chwilio'n ddyfal amdanat.
19
Dos dithau i'r man yr ymguddiaist ynddo adeg y digwyddiad o'r blaen, ac aros yn ymyl y garreg fan draw.
20
Saethaf finnau dair saeth i'w hymyl, fel pe bawn yn saethu at nod.
21
Wedyn anfonaf y llanc a dweud, 'Dos i nl y saethau.' Os byddaf yn dweud wrth y llanc, 'Edrych, y mae'r saethau y tu yma iti; cymer hwy', yna tyrd, oherwydd y mae'n ddiogel iti, heb unrhyw berygl, cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw.
22
Ond os dywedaf fel hyn wrth y llencyn: 'Edrych, y mae'r saethau y tu draw iti', yna dos, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn dy anfon i ffwrdd.
23
Bydded yr ARGLWYDD yn dyst am byth rhyngof fi a thi yn y cytundeb hwn a wnaethom ein dau."
24
Ymguddiodd Dafydd yn y maes; a phan ddaeth y newydd-loer,
25
eisteddodd y brenin i lawr i fwyta'r pryd, a chymryd ei le arferol ar y sedd wrth y pared, gyda Jonathan gyferbyn, ac Abner yn eistedd wrth ochr Saul; ond roedd lle Dafydd yn wag.
26
Ni ddywedodd Saul ddim y diwrnod hwnnw, gan feddwl mai rhyw hap oedd, ac nad oedd yn ln.
27
Ond pan oedd lle Dafydd yn wag drannoeth, ar ail ddiwrnod y newydd-loer, gofynnodd Saul i'w fab Jonathan, "Pam nad yw mab Jesse wedi dod i fwyta, ddoe na heddiw?"
28
Atebodd Jonathan, "O, fe grefodd Dafydd arnaf am gael mynd i Fethlehem,
29
a dweud, 'Gad imi fynd, oherwydd y mae gan y teulu aberth yn y dref, ac y mae fy mrawd wedi peri i mi fod yno; felly, os gweli di'n dda, gad imi fynd draw i weld fy mrodyr.' Dyna pam nad yw wedi dod at fwrdd y brenin."
30
Gwylltiodd Saul wrth Jonathan a dywedodd wrtho, "Ti fab putain anufudd! Oni wyddwn dy fod yn ochri gyda mab Jesse, er cywilydd i ti dy hun ac i warth dy fam?
31
Oherwydd tra bydd mab Jesse fyw ar y ddaear, ni fyddi di na'r frenhiniaeth yn ddiogel. Anfon ar unwaith a thyrd ag ef ataf, oherwydd y mae'n haeddu marw."
32
Atebodd Jonathan a dweud wrth ei dad, "Pam ei roi i farwolaeth? Beth y mae wedi ei wneud?"
33
Yna hyrddiodd Saul waywffon ato i'w daro, a sylweddolodd Jonathan fod ei dad yn benderfynol o ladd Dafydd.
34
Felly cododd Jonathan oddi wrth y bwrdd yn wyllt ei dymer, a heb fwyta tamaid ar ail ddiwrnod y newydd-loer, am ei fod yn gofidio dros Ddafydd, a bod ei dad wedi rhoi sen arno yntau.
35
Bore trannoeth aeth Jonathan allan i'r maes i gadw ei oed Dafydd, a llanc ifanc gydag ef.
36
Dywedodd wrth y llanc, "Rhed di i nl y saethau y byddaf fi'n eu saethu." Tra oedd y llanc yn rhedeg, yr oedd ef yn saethu'r saethau y tu draw iddo.
37
Wedi i'r llanc gyrraedd y man y disgynnodd y saethau, gwaeddodd Jonathan ar l y llanc, "Onid yw'r saethau y tu draw iti?" Yna gwaeddodd ar l y llanc, "Dos, brysia, paid sefyllian."
38
Casglodd llanc Jonathan y saethau a'u dwyn yn l at ei feistr.
39
Nid oedd y llanc yn sylweddoli dim, ond yr oedd Jonathan a Dafydd yn deall y neges.
40
Rhoddodd Jonathan ei offer i'r llanc oedd gydag ef, a dweud wrtho, "Dos, cymer hwy'n l adref."
41
Wedi i'r llanc fynd, cododd Dafydd o'r tu l i'r garreg, a syrthio ar ei wyneb i'r llawr ac ymgrymu deirgwaith. Yna cusanodd y ddau ei gilydd ac wylo, yn enwedig Dafydd.
42
Ac meddai Jonathan wrth Ddafydd, "Dos mewn heddwch; yr ydym ein dau wedi tyngu yn enw'r ARGLWYDD y bydd yr ARGLWYDD yn dyst rhyngom ni a rhwng ein disgynyddion am byth." Yna aeth Dafydd i ffwrdd, a dychwelodd Jonathan adref.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31