bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Samuel 3
1 Samuel 3
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 4 →
1
Yn y dyddiau pan oedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu'r ARGLWYDD gerbron Eli, yr oedd gair yr ARGLWYDD yn brin, a gweledigaeth yn anfynych.
2
Un noswaith yr oedd Eli yn gorwedd yn ei le, ac yr oedd ei lygaid wedi dechrau pylu ac yntau'n methu gweld.
3
Nid oedd lamp Duw wedi diffodd eto, ac yr oedd Samuel yn cysgu yn nheml yr ARGLWYDD, lle'r oedd arch Duw.
4
Yna galwodd yr ARGLWYDD ar Samuel. Dywedodd yntau, "Dyma fi." Rhedodd at Eli a dweud, "Dyma fi, roeddit yn galw arnaf."
5
Atebodd ef, "Nac oeddwn, dos yn l i orwedd." Aeth yntau a gorwedd.
6
Yna galwodd yr ARGLWYDD eto, "Samuel!" Cododd Samuel a mynd at Eli a dweud, "Dyma fi, roeddit yn fy ngalw." Ond dywedodd ef, "Nac oeddwn, fy machgen, dos yn l i orwedd."
7
Yr oedd hyn cyn i Samuel adnabod yr ARGLWYDD, a chyn bod gair yr ARGLWYDD wedi ei ddatguddio iddo.
8
Galwodd yr ARGLWYDD eto'r drydedd waith, "Samuel!" A phan gododd a mynd at Eli a dweud, "Dyma fi, roeddit yn galw arnaf," deallodd Eli mai'r ARGLWYDD oedd yn galw'r bachgen.
9
Felly dywedodd Eli wrth Samuel, "Dos i orwedd, ac os gelwir di eto, dywed tithau, 'Llefara, ARGLWYDD, canys y mae dy was yn gwrando'." Aeth Samuel a gorwedd yn ei le.
10
Yna daeth yr ARGLWYDD a sefyll a galw fel o'r blaen, "Samuel! Samuel!" A dywedodd Samuel, "Llefara, canys y mae dy was yn gwrando."
11
Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, "Yr wyf ar fin gwneud rhywbeth yn Israel a fydd yn merwino clustiau pwy bynnag a'i clyw.
12
Y dydd hwnnw dygaf ar Eli y cwbl a ddywedais am ei du375?, o'r dechrau i'r diwedd;
13
a dywedaf wrtho fy mod yn barnu ei du375? am byth, oherwydd gwyddai fod ei feibion yn melltithio Duw, ac ni roddodd daw arnynt.
14
Am hynny tyngais wrth du375? Eli, 'Ni wneir iawn byth am ddrygioni tu375? Eli ag aberth nac ag offrwm'."
15
Gorweddodd Samuel tan y bore, yna agorodd ddrysau tu375?'r ARGLWYDD; ond ofnai ddweud y weledigaeth wrth Eli.
16
Galwodd Eli ar Samuel, "Samuel, fy machgen." Atebodd yntau, "Dyma fi." Yna holodd, "Beth oedd y neges a lefarodd ef wrthyt?
17
Paid 'i chelu oddi wrthyf. Fel hyn y gwnelo Duw iti, a rhagor, os cuddi oddi wrthyf unrhyw beth a lefarodd ef wrthyt."
18
Yna mynegodd Samuel y cyfan wrtho, heb gelu dim. Ac meddai yntau, "Yr ARGLWYDD yw; fe wna'r hyn sydd dda yn ei olwg."
19
Tyfodd Samuel, ac yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef; ni adawodd i'r un o'i eiriau fethu.
20
Sylweddolodd Israel gyfan, o Dan hyd Beerseba, fod Samuel wedi ei sefydlu'n broffwyd i'r ARGLWYDD.
21
A pharhaodd yr ARGLWYDD i ymddangos yn Seilo, oherwydd yno y'i datguddiodd ei hun i Samuel trwy ei air.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31