bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Samuel 4
1 Samuel 4
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 5 →
1
Yr oedd gair Samuel yn air i Israel gyfan. Aeth Israel i ryfel yn erbyn y Philistiaid a gwersyllu ger Eben-eser, a'r Philistiaid yn gwersyllu yn Affec.
2
Wedi i'r Philistiaid drefnu eu byddin yn erbyn Israel, aeth yn frwydr, a threchwyd Israel gan y Philistiaid; lladdwyd tua phedair mil o'r fyddin ar faes y gad.
3
Pan ddychwelodd y bobl i'r gwersyll, holodd henuriaid Israel, "Pam y trawodd yr ARGLWYDD ni heddiw o flaen y Philistiaid? Cymerwn atom o Seilo arch cyfamod yr ARGLWYDD, a doed i'n plith i'n hachub o law ein gelynion."
4
Anfonodd y bobl i Seilo a chymryd oddi yno arch cyfamod ARGLWYDD y Lluoedd sydd 'i orsedd ar y cerwbiaid. Yno hefyd, gydag arch cyfamod Duw, yr oedd dau fab Eli, Hoffni a Phinees.
5
Pan gyrhaeddodd arch cyfamod yr ARGLWYDD i'r gwersyll, gwaeddodd yr Israeliaid i gyd bloedd uchel nes bod y ddaear yn datseinio.
6
Clywodd y Philistiaid y floedd a gofyn, "Beth yw'r floedd fawr hon a glywir yng ngwersyll yr Hebreaid?" Wedi iddynt ddeall mai arch cyfamod yr ARGLWYDD oedd wedi cyrraedd i'r gwersyll,
7
ofnodd y Philistiaid, oherwydd dweud yr oeddent, "Daeth duw i'r gwersyll." Ac meddent, "Gwae ni! Oherwydd ni fu peth fel hyn erioed o'r blaen.
8
Gwae ni! Pwy a'n gwared ni o law'r duwiau nerthol hyn? Dyma'r duwiau a drawodd yr Eifftiaid phob math o bla yn yr anialwch.
9
Byddwch yn gryf a gwrol, O Philistiaid, rhag i chwi fynd yn gaeth i'r Hebreaid fel y buont hwy i chwi; ie, byddwch yn wrol ac ymladd."
10
Ymladdodd y Philistiaid, a threchwyd Israel, a ffodd pawb adref. Bu lladdfa fawr iawn, a syrthiodd deng mil ar hugain o wu375?r traed Israel.
11
Hefyd cymerwyd arch Duw, a bu farw Hoffni a Phinees, dau fab Eli.
12
Y diwrnod hwnnw rhedodd un o wu375?r Benjamin o'r frwydr a chyrraedd Seilo 'i ddillad wedi eu rhwygo a phridd ar ei ben.
13
Pan ddaeth, dyna lle'r oedd Eli yn eistedd ar sedd gerllaw'r ffordd yn disgwyl, am ei fod yn bryderus iawn am arch Duw. Pan ddaeth y dyn a chyhoeddi'r newydd yn y ddinas, bu llefain drwy'r ddinas.
14
A phan glywodd Eli su373?n y llefain, holodd, "Beth yw'r cynnwrf yma?" Yna brysiodd y dyn, a dod ac adrodd yr hanes wrth Eli.
15
Yr oedd Eli'n naw deg ac wyth oed, a'i lygaid wedi pylu fel na fedrai weld.
16
A dywedodd y dyn wrth Eli, "Myfi sydd wedi dod o'r frwydr; heddiw y ffois o'r gad." Yna gofynnodd iddo, "Beth yw'r newydd, fy machgen?"
17
Atebodd y cennad, "Ffodd Israel o flaen y Philistiaid, a bu lladdfa fawr ymysg y bobl hefyd; y mae dy ddau fab, Hoffni a Phinees wedi marw, ac arch Duw wedi ei chymryd."
18
Pan soniodd am arch Duw, syrthiodd Eli yn wysg ei gefn oddi ar y sedd gerllaw'r porth, a thorri ei wddf a marw, oherwydd yr oedd yn hen ac yn ddyn trwm. Yr oedd wedi barnu Israel am ddeugain mlynedd.
19
Yr oedd ei ferch-yng-nghyfraith, gwraig Phinees, yn feichiog ac yn agos i esgor. Pan glywodd hi'r newydd fod arch Duw wedi ei chymryd a bod ei thad-yng-nghyfraith a'i gu373?r wedi marw, crymodd ac esgorodd, oherwydd daeth ei gwewyr arni.
20
Ac fel yr oedd hi'n marw, dywedodd y merched oedd o'i chwmpas, "Paid ag ofni, rwyt ti wedi esgor ar fab." Nid atebodd hi na chymryd sylw,
21
ond enwi'r bachgen, Ichabod, a dweud, "Ciliodd gogoniant o Israel," oherwydd colli arch Duw a'i thad-yng-nghyfraith a'i gu373?r.
22
Dyna a ddywedodd, "Ciliodd gogoniant o Israel, oherwydd cymryd arch Duw."
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31