bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Chronicles 13
2 Chronicles 13
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 14 →
1
Yn y ddeunawfed flwyddyn i'r Brenin Jeroboam, daeth Abeia yn frenin ar Jwda.
2
Teyrnasodd am dair blynedd yn Jerwsalem, a Michaia ferch Uriel o Gibea oedd enw ei fam.
3
Bu rhyfel rhwng Abeia a Jeroboam; aeth Abeia i'r frwydr gyda byddin o filwyr dewr, pedwar can mil o wu375?r dethol, a daeth Jeroboam i'w gyfarfod gydag wyth can mil o wroniaid dethol.
4
Safodd Abeia ar Fynydd Semaraim ym mynydd-dir Effraim a dweud, "Gwrandewch arnaf fi, Jeroboam a holl Israel.
5
Oni wyddoch fod ARGLWYDD Dduw Israel wedi rhoi i Ddafydd a'i feibion yr hawl i deyrnasu am byth ar Israel trwy gyfamod halen?
6
Ond gwrthryfelodd Jeroboam fab Nebat, gwas Solomon fab Dafydd, yn erbyn ei arglwydd,
7
a chasglu ato ddihirod ofer, a fu'n herio Rehoboam fab Solomon, pan oedd yn llanc ifanc ofnus a heb fod yn ddigon cryf i'w gwrthsefyll.
8
Yn awr, yr ydych chwi'n bwriadu gwrthsefyll teyrnas yr ARGLWYDD, sydd wedi ei rhoi i feibion Dafydd, am eich bod yn niferus iawn ac yn berchen ar y lloi aur a wnaeth Jeroboam yn dduwiau i chwi.
9
Onid ydych wedi diarddel offeiriaid yr ARGLWYDD, meibion Aaron, a'r Lefiaid, ac ethol eich offeiriaid eich hunain, fel y gwna pobl gwledydd eraill? Y mae pwy bynnag sy'n dod i'w gysegru ei hun bustach ifanc a saith o hyrddod yn mynd yn offeiriad i'r un nad yw'n dduw.
10
Ond yr ARGLWYDD yw ein Duw ni, ac nid ydym wedi ei wrthod; meibion Aaron yw'r offeiriaid sydd gennym ni yn gwasanaethu'r ARGLWYDD, a'r Lefiaid yn eu cynorthwyo.
11
Y maent yn llosgi poethoffrymau ac arogldarth peraidd i'r ARGLWYDD bob bore a hwyr, ac yn trefnu'r bara gosod ar y bwrdd dihalog a chynnau'r lampau yn y canhwyllbren aur bob prynhawn. Oherwydd yr ydym ni'n dal i wasanaethu'r ARGLWYDD ein Duw; ond yr ydych chwi wedi ei wrthod.
12
Wele, y mae Duw gyda ni i'n harwain, a'i offeiriaid thrwmpedau yn galw brwydr yn eich erbyn. Bobl Israel, peidiwch ag ymladd yn erbyn ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid, oherwydd ni fyddwch yn llwyddo."
13
Anfonodd Jeroboam rai o'u hamgylch i ymguddio ac ymosod arnynt o'r tu l; felly, tra oedd rhai o flaen Jwda, yr oedd y lleill mewn cuddfan y tu cefn iddynt.
14
Troes gwu375?r Jwda, a gweld y byddai'n rhaid iddynt ymladd o'r tu blaen ac o'r tu l;
15
yna galwasant ar yr ARGLWYDD, ac fe ganodd yr offeiriaid y trwmpedau, a bloeddiodd gwu375?r Jwda. Pan floeddiodd gwu375?r Jwda, trawodd Duw Jeroboam a holl Israel o flaen Abeia a Jwda.
16
Ffodd yr Israeliaid o flaen gwu375?r Jwda, ac fe roddodd Duw hwy yn eu llaw.
17
Lladdodd Abeia a'i filwyr lawer iawn ohonynt; syrthiodd yn gelain bum can mil o wu375?r dethol Israel.
18
Darostyngwyd yr Israeliaid y pryd hwnnw, a chafodd byddin Jwda fuddugoliaeth am iddynt ymddiried yn ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid.
19
Ymlidiodd Abeia ar l Jeroboam a chymryd oddi arno ddinasoedd Bethel, Jesana ac Effraim a'u pentrefi.
20
Ni lwyddodd Jeroboam i adennill ei nerth yn ystod teyrnasiad Abeia; trawyd ef gan yr ARGLWYDD, a bu farw.
21
Ond cryfhaodd Abeia; priododd bedair ar ddeg o wragedd, a chenhedlu dau fab ar hugain ac un ar bymtheg o ferched.
22
Y mae gweddill hanes Abeia, yr hyn a wnaeth ac a ddywedodd, yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwyd Ido.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36