bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Chronicles 36
2 Chronicles 36
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 35
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
1
Dewisodd pobl y wlad Jehoahas fab Joseia, a'i wneud yn frenin yn lle ei dad yn Jerwsalem.
2
Tair ar hugain oed oedd Jehoahas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri mis yn Jerwsalem.
3
Ond diorseddodd Necho brenin yr Aifft ef yn Jerwsalem, a gosododd ar y wlad dreth o gan talent o arian a thalent o aur.
4
Hefyd gwnaeth Eliacim ei frawd yn frenin ar Jwda a Jerwsalem, a newid ei enw i Jehoiacim, a chymerodd Jehoahas brawd y brenin i lawr i'r Aifft.
5
Pump ar hugain oed oedd Jehoiacim pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am un mlynedd ar ddeg. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw.
6
Daeth Nebuchadnesar brenin Babilon yn ei erbyn, a'i garcharu mewn gefynnau pres a mynd ag ef i Fabilon.
7
Aeth rhai o lestri tu375?'r ARGLWYDD hefyd i Fabilon a'u gosod yn ei balas yno.
8
Am weddill hanes Jehoiacim, y ffieidd-dra a wnaeth a'r cyhuddiadau yn ei erbyn, y maent wedi eu hysgrifennu yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda. Daeth ei fab Jehoiachin yn frenin yn ei le.
9
Deunaw mlwydd oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri mis a deg diwrnod yn Jerwsalem. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
10
Ar droad y flwyddyn, anfonodd y Brenin Nebuchadnesar i'w gyrchu i Fabilon gyda'r llestri gorau o du375?'r ARGLWYDD, a gwnaeth ei frawd Sedeceia yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.
11
Un ar hugain oed oedd Sedeceia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar ddeg yn Jerwsalem.
12
Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw. Gwrthododd ymostwng o flaen y proffwyd Jeremeia, a oedd yn llefaru dros yr ARGLWYDD.
13
Gwrthryfelodd hefyd yn erbyn y Brenin Nebuchadnesar, a oedd wedi gwneud iddo dyngu i Dduw. Ystyfnigodd a chaledodd ei galon rhag dychwelyd at yr ARGLWYDD, Duw Israel.
14
Aeth swyddogion yr offeiriaid a'r bobl yn fwy anffyddlon fyth, gan ddilyn holl ffieidd-dra'r cenhedloedd a halogi tu375?'r ARGLWYDD a gysegrodd ef yn Jerwsalem.
15
Anfonodd yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, atynt yn barhaus trwy law ei negeswyr, am ei fod yn tosturio wrth ei bobl a'i drigfan.
16
Ond yr oeddent hwy yn gwatwar ei negeswyr, yn gwawdio ei eiriau ac yn dirmygu ei broffwydi, nes y daeth llid yr ARGLWYDD ar ei bobl heb arbed.
17
Anfonodd frenin y Caldeaid i fyny yn eu herbyn, a lladdodd hwnnw eu gwu375?r ifainc 'r cleddyf yn eu cysegrle, heb arbed na llanc na morwyn, na'r hen na'r oedrannus; rhoddodd bob un ohonynt yn ei afael.
18
Dygodd i Fabilon holl lestri tu375? Dduw, bach a mawr, trysorau tu375?'r ARGLWYDD a thrysorau'r brenin a'i swyddogion.
19
Llosgasant du375? Dduw a dinistrio mur Jerwsalem, a llosgi hefyd ei holl balasau thn, a distrywio'i holl lestri godidog.
20
Caethgludodd i Fabilon bawb a achubwyd rhag y cleddyf, a buont yn weision iddo ef a'i feibion nes y dechreuodd y Persiaid deyrnasu.
21
Mwynhaodd y wlad ei Sabothau; trwy'r holl amser y bu'n anghyfannedd fe orffwysodd, nes cwblhau deng mlynedd a thrigain, a chyflawni gair yr ARGLWYDD trwy Jeremeia'r proffwyd.
22
Yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, er mwyn cyflawni gair yr ARGLWYDD trwy Jeremeia, cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd Cyrus, a chyhoeddodd yntau ddatganiad trwy ei holl deyrnas, ac ysgrifennu:
23
"Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia: Y mae'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, wedi rhoi holl deyrnasoedd y byd i mi, ac wedi gorchymyn i mi adeiladu tu375? iddo yn Jerwsalem yn Jwda. Pob un o'ch plith sy'n perthyn i'w bobl, bydded yr ARGLWYDD ei Dduw gydag ef, ac aed i fyny."
← Chapter 35
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36