bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Chronicles 35
2 Chronicles 35
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 34
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 36 →
1
Cadwodd Joseia Basg i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem; lladdasant oen y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf.
2
Gosododd yr offeiriaid ar ddyletswydd, a'u hannog i wasanaethu yn nhu375? yr ARGLWYDD.
3
Dywedodd wrth y Lefiaid oedd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD ac yn dysgu holl Israel, "Rhowch yr arch sanctaidd yn y tu375? a adeiladodd Solomon fab Dafydd, brenin Israel; nid ydych i'w chario ar eich ysgwyddau. Yn awr, gwasanaethwch yr ARGLWYDD eich Duw a'i bobl Israel.
4
Paratowch eich hunain fesul teulu yn l eich dosbarthiadau, fel yr ysgrifennodd Dafydd brenin Israel a'i fab Solomon.
5
Safwch yn y cysegr dros eich pobl leyg fesul teulu yn l eich dosbarthiadau; y mae gan y Lefiaid gyfran ym mhob teulu.
6
Lladdwch oen y Pasg; ymgysegrwch a pharatoi, er mwyn i'ch pobl wneud yn l gair yr ARGLWYDD trwy Moses."
7
Rhoddodd Joseia i'r holl bobl oedd yn bresennol ddeng mil ar hugain o ddefaid, sef u373?yn a mynnod, a thair mil o ychen ar gyfer y Pasg; daeth y cwbl o'r drysorfa frenhinol.
8
Hefyd, rhoddodd ei swyddogion o'u gwirfodd i'r bobl, a'r offeiriaid a'r Lefiaid. Rhoddodd Hilceia, Sechareia a Jehiel, prif swyddogion tu375? Dduw, ddwy fil a chwe chant o ddefaid a thri chant o ychen i'r offeiriaid ar gyfer y Pasg.
9
A rhoddodd Cononeia a'i frodyr Semaia a Nethaneel, a Hasabeia, Jehiel a Josabad, swyddogion y Lefiaid, bum mil o ddefaid a phum cant o ychen ar gyfer y Pasg.
10
Felly paratowyd y gwasanaeth, a safodd yr offeiriaid yn eu lle a'r Lefiaid yn eu dosbarthiadau, yn l gorchymyn y brenin.
11
Lladdasant oen y Pasg, a lluchiodd yr offeiriaid beth o'r gwaed ar yr allor tra oedd y Lefiaid yn blingo'r anifeiliaid.
12
Yna aethant 'r poethoffrymau ymaith i'w dosbarthu yn l rhaniadau teuluoedd y bobl, er mwyn iddynt offrymu i'r ARGLWYDD fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr Moses; felly hefyd y gwnaethant 'r ychen.
13
Rhostiwyd oen y Pasg ar y tn, yn l y ddefod, a berwi'r pethau cysegredig mewn crochanau, peiriau a phedyll, a'u rhannu ar frys i'r holl bobl.
14
Yna paratoesant ar eu cyfer eu hunain ac ar gyfer yr offeiriaid, oherwydd yr oedd yr offeiriaid, meibion Aaron, wedi bod yn aberthu'r poethoffrwm a'r offrymau o fraster hyd yr hwyr. Fel hyn y paratdd y Lefiaid ar eu cyfer eu hunain a'r offeiriaid, meibion Aaron.
15
Yr oedd y cantorion, meibion Asaff, yn eu lle yn l gorchymyn Dafydd: Asaff, Heman a Jeduthun, gweledydd y brenin; ac yr oedd pob un o'r porthorion wrth ei borth. Nid oedd raid iddynt adael eu gwaith, oherwydd yr oedd eu brodyr y Lefiaid yn paratoi ar eu cyfer.
16
Fel hyn y paratowyd holl wasanaeth yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw, er mwyn cadw'r Pasg ac offrymu poethoffrymau ar allor yr ARGLWYDD yn l gorchymyn y Brenin Joseia.
17
Yr adeg honno cadwodd yr Israeliaid oedd yn bresennol y Pasg a gu373?yl y Bara Croyw am saith diwrnod.
18
Ni chadwyd Pasg fel hwn yn Israel er dyddiau Samuel y proffwyd, ac ni chadwodd yr un o frenhinoedd Israel y Pasg fel y cadwodd Joseia ef gyda'r offeiriaid, y Lefiaid, pawb oedd yn bresennol o Jwda ac Israel, a thrigolion Jerwsalem.
19
Yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasiad Joseia y cadwyd y Pasg hwn.
20
Ar l hyn oll, pan oedd Joseia wedi paratoi'r deml, daeth Necho brenin yr Aifft i fyny i ymladd yn Carchemis ar lan afon Ewffrates, ac aeth Joseia allan i'w gyfarfod.
21
Ond anfonodd Necho negeswyr ato i ddweud, "Beth sydd a wnelwyf fi thi, brenin Jwda? Nid yn dy erbyn di yr wyf fi wedi dod yma heddiw, ond i ymladd yn erbyn teyrnas arall. Dywedodd Duw wrthyf am frysio, a phaid ti rhwystro'r Duw sydd gyda mi, rhag iddo dy ddifa."
22
Ond ni throdd Joseia oddi wrtho, oherwydd yr oedd yn benderfynol o ymladd ag ef; gwrthododd wrando ar eiriau Necho, a ddaeth oddi wrth Dduw, ac aeth i ymladd yn nyffryn Megido.
23
Saethwyd y Brenin Joseia gan y saethyddion, a dywedodd wrth ei weision, "Ewch mi ymaith, oherwydd cefais fy nghlwyfo'n ddrwg."
24
Tynnodd ei weision ef allan o'r cerbyd, a'i roi yn ei ail gerbyd a mynd ag ef i Jerwsalem. Bu farw yno ac fe'i claddwyd ym meddrod ei hynafiaid, a galarodd holl Jwda a Jerwsalem amdano.
25
Gwnaeth Jeremeia alarnad am Joseia, a hyd heddiw y mae pob canwr a chantores yn sn amdano yn eu galarnadau. Y mae caniadau o'r fath yn ddefod yn Israel, ac y maent wedi eu hysgrifennu yn y Galarnadau.
26
Am weddill hanes Joseia, ei ddaioni yn gwneud yn l yr hyn a ysgrifennwyd yng nghyfraith yr ARGLWYDD,
27
a'i weithredoedd o'r dechrau i'r diwedd, y maent wedi eu hysgrifennu yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda.
← Chapter 34
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 36 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36