bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Chronicles 28
2 Chronicles 28
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 29 →
1
Ugain oed oedd Ahas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar bymtheg yn Jerwsalem. Ni wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel y gwnaeth ei dad Dafydd,
2
ond dilynodd esiampl brenhinoedd Israel. Gwnaeth ddelwau i'r Baalim,
3
arogldarthodd yn nyffryn Ben-hinnom, ac fe barodd i'w feibion fynd trwy dn yn l arfer ffiaidd y cenhedloedd a ddisodlodd yr ARGLWYDD o flaen yr Israeliaid.
4
Yr oedd yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd, ar y bryniau a than bob pren gwyrddlas.
5
Am hynny rhoddodd yr ARGLWYDD ei Dduw ef yn llaw brenin Syria; gorchfygodd yntau ef a chaethgludo llawer iawn o'i bobl a mynd hwy i Ddamascus. Rhoddwyd ef hefyd yn llaw brenin Israel, a gorchfygwyd ef ganddo mewn lladdfa fawr.
6
Yn wir, lladdodd Pecach fab Remaleia chwe ugain mil o wu375?r grymus yn Jwda mewn un diwrnod, am iddynt gefnu ar ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid.
7
Lladdwyd Maaseia mab y brenin, Asricam llywodraethwr y palas, ac Elcana y nesaf at y brenin, gan Sichri, un o wroniaid Effraim.
8
Caethgludodd yr Israeliaid ddau gan mil o'u pobl, yn wragedd, meibion a merched, a chymryd llawer iawn o ysbail oddi arnynt a'i gludo i Samaria.
9
Ond yr oedd yno broffwyd yr ARGLWYDD o'r enw Oded; aeth ef allan i gyfarfod 'r fyddin oedd yn dychwelyd i Samaria, a dweud wrthynt, "Gwrandewch! Am fod ARGLWYDD Dduw eich tadau yn ddig wrth Jwda y rhoddodd hwy yn eich llaw; ond yr ydych chwi wedi eu lladd mewn cynddaredd sy'n ymestyn hyd y nefoedd.
10
Eich bwriad yn awr yw gorfodi pobl Jwda a Jerwsalem i fod yn weision a morynion i chwi. Onid ydych chwithau hefyd yn troseddu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw?
11
Yn awr gwrandewch arnaf fi. Anfonwch adref eich brodyr a gaethgludwyd gennych, oherwydd y mae llid tanbaid yr ARGLWYDD yn eich erbyn."
12
Yna daeth rhai o benaethiaid pobl Effraim allan, sef Asareia fab Johanan, Berecheia fab Mesilemoth, Jehisceia fab Salum ac Amasa fab Hadlai, a gwrthwynebu y rhai oedd yn dod o'r frwydr.
13
Dywedasant wrthynt, "Ni chewch ddod 'r caethgludion yma, oherwydd byddai'r hyn y bwriadwch chwi ei wneud yn ein harwain i droseddu yn erbyn yr ARGLWYDD, ac yn ychwanegu at ein pechodau a'n troseddau. Y mae ein trosedd eisoes yn fawr ac y mae llid tanbaid yn erbyn Israel."
14
Felly gadawodd y milwyr y caethgludion a'r ysbail o flaen y swyddogion a'r holl gynulliad.
15
Aeth y gwu375?r a enwyd eisoes i ofalu am y caethgludion: rhoesant ddillad ac esgidiau o'r ysbail i bawb oedd heb ddim, gofalu bod ganddynt fwyd a diod, rhoi ennaint iddynt, rhoi pob un oedd yn llesg ar asynnod a'u hanfon at eu brodyr i Jericho, dinas y palmwydd; ac yna dychwelyd i Samaria.
16
Yr adeg honno anfonodd y Brenin Ahas neges at frenin Asyria i ofyn am gymorth.
17
Yr oedd yr Edomiaid wedi ymosod ar Jwda unwaith eto a chymryd caethgludion;
18
yr oedd y Philistiaid hefyd wedi anrheithio dinasoedd y Seffela a de Jwda a chymryd Beth-semes, Ajalon a Gederoth, a hefyd Socho, Timna a Gimso a'u pentrefi, ac wedi mynd i fyw ynddynt.
19
Yr oedd yr ARGLWYDD wedi darostwng Jwda o achos Ahas brenin Israel am iddo golli pob rheolaeth yn Jwda a throseddu'n enbyd yn erbyn yr ARGLWYDD.
20
Daeth Tiglath-pileser brenin Asyria ato, ond yn lle ei gynorthwyo fe wasgodd arno.
21
Er i Ahas ysbeilio trysor tu375?'r ARGLWYDD, palas y brenin a thai'r swyddogion, a'i roi i frenin Asyria, ni fu hynny o gymorth iddo.
22
Fel yr i'n gyfyng arno, troseddai'r Brenin Ahas fwyfwy yn erbyn yr ARGLWYDD.
23
Aberthodd i dduwiau Damascus a oedd wedi ei orchfygu, a dweud, "Am fod duwiau brenhinoedd y Syriaid wedi eu cynorthwyo hwy, fe aberthaf fi iddynt er mwyn iddynt fy nghynorthwyo innau." Ond buont yn dramgwydd iddo ef ac i holl Israel.
24
Casglodd Ahas lestri tu375? Dduw a'u malu'n chwilfriw; caeodd ddrysau tu375?'r ARGLWYDD a gwneud allorau iddo'i hun ym mhob congl o Jerwsalem.
25
Gwnaeth uchelfeydd i arogldarthu i dduwiau dieithr ym mhob un o ddinasoedd Jwda, ac fe gythruddodd ARGLWYDD Dduw ei dadau.
26
Am weddill ei hanes, a'i holl arferion o'r dechrau i'r diwedd, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.
27
Bu farw Ahas, a chladdwyd ef yn ninas Jerwsalem, ond ni roesant ef ym mynwent brenhinoedd Israel; yna teyrnasodd ei fab Heseceia yn ei le.
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 29 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36