bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Chronicles 34
2 Chronicles 34
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 33
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 35 →
1
Wyth mlwydd oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri deg ac un o flynyddoedd yn Jerwsalem.
2
Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a dilyn llwybrau ei dad Dafydd yn gwbl ddiwyro.
3
Yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad, ac yntau'n dal yn llanc ifanc, dechreuodd geisio Duw ei dad Dafydd. Yn y ddeuddegfed flwyddyn, dechreuodd buro Jwda a Jerwsalem o'r uchelfeydd, y pyst Asera, y cerfddelwau a'r delwau tawdd.
4
Gorchmynnodd ddinistrio allorau'r Baalim, a thorrodd i lawr yr allorau arogldarth a oedd uwch eu pen; drylliodd yn chwilfriw y pyst Asera, y cerfddelwau a'r delwau tawdd; malodd hwy'n yfflon a thaenu eu llwch hyd wyneb beddau y rhai a fu'n aberthu iddynt.
5
Llosgodd esgyrn yr offeiriaid ar eu hallorau, a phurodd Jwda a Jerwsalem.
6
Gwnaeth yr un peth yn ninasoedd Manasse, Effraim a Simeon, hyd at Nafftali, ac yn yr adfeilion o'u cwmpas,
7
sef dryllio'r allorau a'r pyst Asera, a malu'r cerfluniau'n yfflon a dinistrio'r holl arogldarth trwy Israel gyfan; yna dychwelodd i Jerwsalem.
8
Yn y ddeunawfed flwyddyn o'i deyrnasiad, ar l puro'r wlad a'r deml, anfonodd Saffan fab Asaleia, Maaseia rheolwr y ddinas a Joa fab Joahas y cofiadur i atgyweirio tu375?'r ARGLWYDD ei Dduw.
9
Pan ddaethant at Hilceia yr archoffeiriad rhoesant iddo'r arian a ddygwyd i du375? Dduw ac a gasglodd y Lefiaid, ceidwaid y drws, oddi wrth Manasse ac Effraim a gweddill Israel, ac o holl Jwda, Benjamin a thrigolion Jerwsalem.
10
Yna rhoddwyd ef i'r goruchwylwyr oedd yn gofalu am du375?'r ARGLWYDD; rhoddasant hwythau ef i'r gweithwyr oedd yn gweithio yn nhu375?'r ARGLWYDD ac yn atgyweirio'i agennau.
11
Fe'i rhoesant hefyd i'r seiri a'r adeiladwyr i brynu cerrig nadd a choed ar gyfer distiau a thrawstiau i'r adeiladau yr oedd brenhinoedd Jwda wedi eu hesgeuluso.
12
Yr oedd y dynion yn gweithio'n ddiwyd dan oruchwyliaeth y Lefiaid oedd yn eu hannog, sef Jahath ac Obadeia o feibion Merari, a Sechareia a Mesulam o feibion y Cohathiaid. Ac yr oedd y Lefiaid, pob un a fedrai ganu offeryn cerdd,
13
hefyd yn gofalu am y cludwyr ac yn arolygu pob gweithiwr, beth bynnag oedd ei waith. Yr oedd rhai o'r Lefiaid hefyd yn ysgrifenyddion, swyddogion a phorthorion.
14
Wrth iddynt ddwyn allan yr arian a ddygwyd i du375?'r ARGLWYDD, darganfu Hilceia'r offeiriad lyfr cyfraith yr ARGLWYDD, a roddwyd trwy Moses.
15
Dywedodd Hilceia wrth Saffan yr ysgrifennydd, "Cefais lyfr y gyfraith yn nhu375?'r ARGLWYDD." A rhoddodd y llyfr i Saffan.
16
Aeth Saffan 'r llyfr at y brenin a'r un pryd rhoi adroddiad iddo a dweud, "Y mae dy weision yn gwneud y cwbl a orchmynnwyd iddynt.
17
Y maent wedi cyfrif yr arian oedd yn nhu375?'r ARGLWYDD ac wedi ei drosglwyddo i'r ymgymerwyr a'r gweithwyr."
18
Ac ychwanegodd Saffan yr ysgrifennydd wrth y brenin, "Rhoddodd Hilceia'r offeiriad lyfr imi"; a darllenodd Saffan ef i'r brenin.
19
Pan glywodd y brenin gynnwys y gyfraith, rhwygodd ei ddillad,
20
a gorchmynnodd i Hilceia ac i Ahicam fab Saffan, ac i Abdon fab Nicha, ac i Saffan yr ysgrifennydd ac i Asaia gwas y brenin,
21
"Ewch i ymgynghori 'r ARGLWYDD ar fy rhan, ac ar ran pawb sydd ar l yn Israel a Jwda, ynglu375?n chynnwys y llyfr a ddaeth i'r golwg; oherwydd y mae llid yr ARGLWYDD yn fawr, ac wedi ei ennyn yn ein herbyn am na chadwodd ein hynafiaid air yr ARGLWYDD na gwneud yr hyn a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn."
22
Yna aeth Hilceia, a'r rhai a orchmynnodd y brenin, at y broffwydes Hulda, gwraig Salum fab Ticfa, fab Hasra, ceidwad y gwisgoedd. Yr oedd hi'n byw yn yr Ail Barth yn Jerwsalem; ac wedi iddynt ddweud eu neges,
23
dywedodd hi wrthynt, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel. Dywedwch wrth y gu373?r a'ch anfonodd ataf,
24
'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf yn dwyn drwg ar y lle hwn a'i drigolion, sef yr holl felltithion sy'n ysgrifenedig yn y llyfr a ddarllenwyd yng ngu373?ydd brenin Jwda,
25
am eu bod wedi fy ngwrthod ac wedi arogldarthu i dduwiau eraill, i'm digio ym mhopeth a wnnt; y mae fy nig wedi ei ennyn yn erbyn y lle hwn, ac nis diffoddir.'
26
Dyma a ddywedwch wrth frenin Jwda, a'ch anfonodd i ymgynghori 'r ARGLWYDD: 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, ynglu375?n 'r geiriau a glywaist:
27
Am i'th galon dyneru ac iti ymostwng o flaen Duw pan glywaist ei eiriau am y lle hwn a'i drigolion, am iti ymostwng ac wylo o'i flaen, a rhwygo dy ddillad, yr wyf finnau wedi gwrando, medd yr ARGLWYDD.
28
Am hynny pan fyddi farw, dygir di i'r bedd mewn heddwch, ac ni wl dy lygaid yr holl ddrwg a ddygaf ar y lle hwn a'i drigolion.'" Dygasant hwythau'r ateb i'r brenin.
29
Yna anfonodd y brenin a chasglu ynghyd holl henuriaid Jwda a Jerwsalem;
30
ac aeth i fyny i du375?'r ARGLWYDD, a holl bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem gydag ef, a hefyd yr offeiriaid a'r Lefiaid a phawb o'r bobl, o'r lleiaf hyd y mwyaf. Yna darllenodd yn eu clyw holl gynnwys y llyfr cyfamod a gaed yn nhu375?'r ARGLWYDD.
31
Safodd y brenin wrth ei golofn, a gwnaeth gyfamod o flaen yr ARGLWYDD i ddilyn yr ARGLWYDD ac i gadw ei orchmynion a'i dystiolaethau a'i ddeddfau 'i holl galon ac 'i holl enaid, ac i gyflawni geiriau'r cyfamod a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn.
32
Gwnaeth i bawb oedd yn byw yn Jerwsalem a Benjamin gadw'r cyfamod. Yna cadwodd trigolion Jerwsalem gyfamod Duw, Duw eu hynafiaid.
33
Felly tynnodd Joseia ymaith bob ffieidddra o'r holl diriogaeth oedd yn perthyn i'r Israeliaid, a gwnaeth i bawb oedd yn byw yn Israel wasanaethu'r ARGLWYDD eu Duw. Yn ei gyfnod ef ni throesant oddi ar l yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.
← Chapter 33
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 35 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36