bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Chronicles 26
2 Chronicles 26
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 27 →
1
Pan oedd Usseia yn un ar bymtheg oed, cymerodd holl bobl Jwda ef a'i wneud yn frenin yn lle ei dad Amaseia.
2
Ef a ailadeiladodd Elath a'i hadfer i Jwda wedi i'r brenin farw.
3
Un ar bymtheg oed oedd Usseia pan ddaeth i'r orsedd, a theyrnasodd am hanner cant a dwy o flynyddoedd yn Jerwsalem. Jecholeia o Jerwsalem oedd enw ei fam.
4
Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn hollol fel y gwnaeth ei dad Amaseia.
5
Ceisiodd Dduw yn nyddiau Sechareia; ef a'i dysgodd i ofni Duw, a thra oedd yn ceisio'r ARGLWYDD, rhoddodd Duw lwyddiant iddo.
6
Aeth allan i ryfela yn erbyn y Philistiaid, a chwalu muriau Gath, Jabne ac Asdod; yna fe adeiladodd ddinasoedd yng nghyffiniau Asdod ac ymysg y Philistiaid.
7
Cynorthwyodd Duw ef yn erbyn y Philistiaid, yr Arabiaid oedd yn byw yn Gur-baal, a'r Meuniaid.
8
Rhoddodd yr Ammoniaid deyrnged i Usseia, ac yr oedd yn enwog hyd at derfyn yr Aifft am ei fod mor rymus.
9
Adeiladodd Usseia dyrau yn Jerwsalem wrth Borth y Gongl, Porth y Glyn a Thro'r Mur, a'u hatgyfnerthu.
10
Adeiladodd dyrau hefyd yn yr anialwch, a chloddio llawer o bydewau, am fod ganddo lawer o anifeiliaid yn y Seffela ac ar y gwastadedd; yr oedd ganddo hefyd lafurwyr a gwinllanwyr yn y mynydd-dir ac yng Ngharmel, oherwydd yr oedd yn hoff o'r tir.
11
Yr oedd gan Usseia fyddin o filwyr yn barod i'r gad, wedi eu trefnu'n rhengoedd gan Jeiel yr ysgrifennydd a Maaseia y swyddog, yn l cyfarwyddyd Hananeia, un o swyddogion y brenin.
12
Cyfanswm pennau-teuluoedd y gwroniaid oedd dwy fil chwe chant.
13
Dan eu gofal hwy yr oedd byddin o dri chant a saith o filoedd a phum cant o ryfelwyr nerthol i gynorthwyo'r brenin yn erbyn y gelyn.
14
Ar gyfer yr holl fyddin paratdd Usseia darianau, gwaywffyn, helmau, llurigau, bwu a cherrig ffyn tafl.
15
Yn Jerwsalem, gyda chymorth gweithwyr medrus, gwnaeth beiriannau ar gyfer y tyrau a'r conglau, i daflu saethau a cherrig mawr. Yr oedd yn enwog ymhell ac agos, am ei fod yn cael ei gynorthwyo'n rhyfeddol nes iddo ddod yn rymus.
16
Ond wedi iddo fynd yn rymus aeth ei falchder yn drech nag ef; troseddodd yn erbyn yr ARGLWYDD ei Dduw trwy fynd i mewn i deml yr ARGLWYDD i arogldarthu ar allor yr arogldarth.
17
Aeth Asareia yr offeiriad i mewn ar ei l gyda phedwar ugain o wu375?r dewr a oedd yn offeiriaid yr ARGLWYDD.
18
Safasant o flaen y Brenin Usseia a dweud wrtho, "Nid gennyt ti, Usseia, y mae'r hawl i arogldarthu i'r ARGLWYDD, ond gan yr offeiriaid, meibion Aaron, y rhai a gysegrwyd i arogldarthu. Dos allan o'r cysegr, oherwydd troseddaist; ni chei anrhydedd gan yr ARGLWYDD Dduw."
19
Ffromodd Usseia. Yn ei law yr oedd thuser i arogldarthu, ac fel yr oedd yn ffromi wrth yr offeiriaid fe dorrodd gwahanglwyf allan ar ei dalcen, yn ngu373?ydd yr offeiriaid yn nhu375?'r ARGLWYDD yn ymyl allor yr arogldarth.
20
Edrychodd Asareia yr archoffeiriad a'r holl offeiriaid arno a gweld y gwahanglwyf ar ei dalcen, a gwnaethant iddo frysio oddi yno.
21
Aeth yntau allan ar frys, oherwydd i'r ARGLWYDD ei daro. A bu'r Brenin Usseia yn wahanglwyfus hyd ddydd ei farw, yn byw o'r neilltu yn ei du375? o achos y gwahanglwyf, ac wedi ei dorri allan o du375?'r ARGLWYDD. Daeth Jotham ei fab i oruchwylio'r palas ac i reoli pobl y wlad.
22
Am weddill hanes Usseia, o'r dechrau i'r diwedd, fe'i hysgrifennwyd gan y proffwyd Eseia fab Amos.
23
Bu farw Usseia, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr mewn man claddu yn perthyn i'r brenhinoedd, oherwydd dywedasant, "Yr oedd yn wahan-glwyfus." A daeth ei fab Jotham yn frenin yn ei le.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36