bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Deuteronomy 13
Deuteronomy 13
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 14 →
1
Os cyfyd yn eich plith broffwyd neu un yn cael breuddwydion, a rhoi ichwi arwydd neu argoel,
2
a hynny'n digwydd fel y dywedodd wrthych, ac yntau wedyn yn eich annog i fynd ac addoli duwiau estron nad ydych yn eu hadnabod,
3
nid ydych i wrando ar eiriau'r proffwyd neu'r breuddwydiwr hwnnw, oherwydd eich profi chwi y mae'r ARGLWYDD eich Duw i gael gwybod a ydych yn ei garu 'ch holl galon ac 'ch holl enaid.
4
Yr ydych i ddilyn yr ARGLWYDD eich Duw a'i ofni, gan gadw ei orchmynion a gwrando ar ei lais, a'i wasanaethu ef a glynu wrtho.
5
Rhaid rhoi'r proffwyd neu'r breu-ddwydiwr hwnnw i farwolaeth am iddo geisio'ch troi oddi ar y llwybr y gorchmynnodd yr ARGLWYDD eich Duw ichwi ei ddilyn, trwy lefaru gwrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw, a ddaeth chwi allan o wlad yr Aifft a'ch gwaredu o du375? caethiwed. Rhaid ichwi ddileu'r drwg o'ch mysg.
6
Os bydd dy frawd agosaf, neu dy fab, neu dy ferch, neu wraig dy fynwes, neu dy gyfaill mynwesol, yn ceisio dy ddenu'n llechwraidd a'th annog i fynd ac addoli duwiau estron nad wyt ti na'th hynafiaid wedi eu hadnabod,
7
o blith duwiau'r cenhedloedd o'th amgylch, mewn un cwr o'r wlad neu'r llall, yn agos neu ymhell,
8
paid chydsynio ag ef, na gwrando arno. Paid thosturio wrtho, na'i arbed, na'i gelu.
9
Yn hytrach rhaid iti ei ladd; dy law di fydd y gyntaf i'w ddienyddio, a dwylo pawb o'r bobl wedyn.
10
Llabyddia ef yn gelain cherrig, oherwydd fe geisiodd dy droi oddi wrth yr ARGLWYDD dy Dduw, a ddaeth thi allan o wlad yr Aifft, o du375? caethiwed;
11
yna bydd Israel gyfan yn clywed ac yn ofni, ac ni fyddant yn gwneud y fath ddrygioni hwn yn eich plith byth eto.
12
Pan glywch am un o'r trefi, a gewch gan yr ARGLWYDD eich Duw i fyw ynddynt,
13
fod dihirod o'ch plith wedi codi a gyrru trigolion y ddinas ar gyfeiliorn trwy eu hannog i fynd ac addoli duwiau estron nad ydych wedi eu hadnabod,
14
yna yr ydych i ymofyn a chwilio a holi'n fanwl; os yw'n wir ac yn sicr fod y peth ffiaidd hwn wedi ei wneud yn eich mysg,
15
yr ydych i daro trigolion y dref honno 'r cleddyf. Difrodwch hi'n llwyr 'r cleddyf, gyda phopeth sydd ynddi, gan gynnwys y gwartheg.
16
Casglwch y cwbl o'i hysbail i ganol maes y dref, a llosgwch y dref a'i hysbail thn, yn aberth llwyr i'r ARGLWYDD eich Duw, a bydd yn aros yn garnedd am byth heb ei hailadeiladu.
17
Paid dal dy afael mewn dim sydd i'w ddifrodi, er mwyn i'r ARGLWYDD droi oddi wrth angerdd ei ddig a dangos trugaredd tuag atat; yna, wrth drugarhau, bydd yn eich lluosogi fel y tyngodd wrth eich hynafiaid,
18
os byddwch chwi'n gwrando ar lais yr ARGLWYDD eich Duw trwy gadw'r holl orchmynion a roddais ichwi heddiw, a gwneud yr hyn sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34