bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Deuteronomy 31
Deuteronomy 31
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 32 →
1
Yna aeth Moses ymlaen a llefaru'r geiriau hyn wrth Israel gyfan:
2
Yr wyf fi bellach yn gant ac ugain oed. Ni fedraf fynd a dod fel yr arferwn wneud, ac y mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthyf na chaf groesi'r Iorddonen hon.
3
Yr ARGLWYDD dy Dduw ei hun fydd yn mynd drosodd ac yn distrywio'r cenhedloedd hyn o'th flaen, a byddi dithau'n meddiannu eu tir dan arweiniad Josua, fel y dywedodd yr ARGLWYDD.
4
Fe wna'r ARGLWYDD iddynt fel y gwnaeth i Sihon ac Og, brenhinoedd yr Amoriaid, ac i'w gwlad pan ddistrywiodd hwy.
5
Rhydd yr ARGLWYDD hwy yn dy ddwylo, a gwna dithau iddynt yn l y cwbl a orchmynnais iti.
6
Bydd yn gryf a dewr; paid 'u hofni na dychryn rhagddynt, oherwydd bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn mynd gyda thi, ac ni fydd yn dy adael nac yn cefnu arnat.
7
Wedi i Moses alw Josua, dywedodd wrtho gerbron Israel gyfan, "Bydd yn gryf a dewr, oherwydd ti sydd i fynd 'r bobl hyn i'r wlad yr addawodd yr ARGLWYDD i'w hynafiaid y byddai'n ei rhoi iddynt; a thi sydd i roi iddynt feddiant ohoni.
8
Bydd yr ARGLWYDD yn mynd o'th flaen, a bydd ef gyda thi; ni fydd yn dy adael nac yn cefnu arnat. Paid ag ofni na dychryn."
9
Ysgrifennodd Moses y gyfraith hon a'i rhoi i'r offeiriaid, meibion Lefi, a oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac i holl henuriaid Israel hefyd.
10
Gorchmynnodd Moses iddynt, "Ar ddiwedd pob saith mlynedd, yr adeg a bennir yn flwyddyn gollyngdod, ar u373?yl y Pebyll,
11
pan fydd Israel gyfan yn dod i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd yn ei ddewis, yr wyt ti i gyhoeddi'r gyfraith hon yng ngu373?ydd ac yng nghlyw Israel gyfan.
12
Cynnull y bobl, yn wu375?r, gwragedd a phlant, a'r dieithriaid sy'n byw yn dy drefi, er mwyn iddynt glywed, a dysgu ofni'r ARGLWYDD dy Dduw a gofalu gwneud popeth yn y gyfraith hon.
13
Y mae eu plant hefyd, nad ydynt yn ei gwybod, i wrando arni a dysgu ofni'r ARGLWYDD dy Dduw tra byddant yn byw yn y tir yr wyt yn croesi'r Iorddonen i'w feddiannu."
14
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Y mae dydd dy farw yn nesu; galw Josua, a chymerwch eich lle ym mhabell y cyfarfod, er mwyn imi roi gorchymyn iddo." Wedi i Moses a Josua fynd a chymryd eu lle ym mhabell y cyfarfod,
15
ymddangosodd yr ARGLWYDD yn y babell mewn colofn gwmwl, a safodd y golofn gwmwl wrth ddrws y babell.
16
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Gyda hyn byddi'n mynd i orwedd gyda'th hynafiaid, a bydd y bobl hyn yn dechrau puteinio ar l duwiau dieithr y wlad y maent yn mynd i mewn iddi; byddant yn fy ngwrthod i, ac yn torri fy nghyfamod a wneuthum hwy.
17
Yna fe enynnir fy nig yn eu herbyn, a byddaf finnau yn eu gwrthod ac yn cuddio fy wyneb rhagddynt; byddant yn barod i'w difa, a daw llawer o drychinebau ac argyfyngau ar eu llwybr. Y diwrnod hwnnw fe ddywedant, 'Onid am nad yw ein Duw yn ein plith y daeth y drygau hyn i'n rhan?'
18
A byddaf fi'n cuddio fy wyneb yn llwyr rhagddynt y diwrnod hwnnw, oherwydd yr holl ddrygioni a wnaethant wrth droi at dduwiau estron.
19
"Yn awr, ysgrifennwch y gerdd hon a'i dysgu i'r Israeliaid, a pheri iddynt ei hadrodd, fel y bydd yn dyst gennyf yn eu herbyn.
20
Wedi imi ddod hwy i'r tir a addewais i'w hynafiaid, tir yn llifeirio o laeth a ml, lle y cnt fwyta'u gwala a phesgi, byddant yn troi at dduwiau estron ac yn eu gwasanaethu, ond byddant yn fy nirmygu i ac yn torri fy nghyfamod.
21
Yna, pan ddaw llawer o drychinebau ac argyfyngau ar eu llwybr, bydd y gerdd hon yn dyst yn eu herbyn; oherwydd nid 'n angof gan eu disgynyddion. Ond gwn beth y maent eisoes yn bwriadu ei wneud, cyn imi eu dwyn i mewn i'r wlad a addewais iddynt."
22
Ysgrifennodd Moses y gerdd hon y diwrnod hwnnw, a dysgodd hi i'r Israeliaid.
23
A rhoddodd yr ARGLWYDD orchymyn i Josua fab Nun a dweud wrtho, "Bydd yn gryf a dewr, oherwydd ti sydd i ddod 'r Israeliaid i'r wlad a addewais iddynt; a byddaf fi gyda thi."
24
Pan orffennodd Moses ysgrifennu geiriau'r gyfraith hon mewn llyfr, o'r dechrau i'r diwedd,
25
rhoddodd i'r Lefiaid, a oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD, y gorchymyn hwn:
26
"Cymerwch y llyfr cyfraith hwn, a rhowch ef wrth ochr arch cyfamod yr ARGLWYDD eich Duw, i aros yno'n dyst yn eich erbyn;
27
oherwydd gwn mor wrthnysig a gwargaled ydych. Yn wir, os ydych yn wrthryfelgar yn erbyn yr ARGLWYDD heddiw, a minnau'n dal yn fyw yn eich mysg, pa faint mwy felly y byddwch wedi imi farw!
28
Casglwch ataf holl henuriaid a swyddogion eich llwythau, er mwyn imi lefaru'r geiriau hyn yn eu clyw, a galw nef a daear yn dystion yn eu herbyn.
29
Gwn y byddwch, wedi imi farw, yn ymddwyn yn gwbl lygredig, gan gilio o'r ffordd a orchmynnais ichwi; felly, fe ddaw dinistr ar eich gwarthaf yn y dyddiau sy'n dod, am ichwi wneud yr hyn sy'n ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i ddigio gwaith eich dwylo."
30
Llefarodd Moses eiriau'r gerdd hon, o'i dechrau i'w diwedd, yng nghlyw holl gynulliad Israel.
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 32 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34