bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Deuteronomy 21
Deuteronomy 21
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 22 →
1
Os deuir o hyd i rywun wedi ei ladd yn y tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti i'w feddiannu, a'i gorff yn gorwedd mewn tir agored, heb neb yn gwybod pwy a'i lladdodd,
2
y mae dy henuriaid a'th farnwyr i fynd allan a mesur y pellter at bob tref o gylch y corff.
3
Yna y mae henuriaid y dref agosaf at y corff i gymryd heffer na fu'n gweithio erioed ac na fu dan yr iau,
4
a mynd hi i lawr i ddyffryn heb ei drin na'i hau, ond lle mae nant yn rhedeg. Yno yn y dyffryn torrant wegil yr heffer.
5
Yna daw'r offeiriaid, meibion Lefi, ymlaen, gan mai hwy y mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi eu dewis i'w wasanaethu ac i fendithio yn ei enw, ac yn l eu dedfryd hwy y terfynir pob ymryson ac ysgarmes.
6
A bydd holl henuriaid y dref agosaf at y corff yn golchi eu dwylo uwchben yr heffer y torrwyd ei gwegil yn y dyffryn,
7
a thystio, "Nid ein dwylo ni a dywalltodd y gwaed hwn, ac ni welodd ein llygaid mo'r weithred.
8
Derbyn gymod dros dy bobl Israel, y rhai a waredaist, O ARGLWYDD; paid gosod arnynt hwy gyfrifoldeb am waed y dieuog." Felly, gwneir cymod am y gwaed.
9
Byddi'n dileu'r cyfrifoldeb am waed dieuog o'ch mysg wrth iti wneud yr hyn sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
10
Pan fyddi'n mynd allan i ryfel yn erbyn d'elynion, a'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu rhoi yn dy law, a thithau'n cymryd carcharorion,
11
ac yn gweld yn eu mysg ddynes brydferth wrth dy fodd, cei ei phriodi.
12
Tyrd hi adref, a gwna iddi eillio'i phen, naddu ei hewinedd,
13
a rhoi heibio'r wisg oedd amdani pan ddaliwyd hi; yna caiff fyw yn dy du375? a bwrw ei galar am ei thad a'i mam am fis o amser. Wedi hynny cei gyfathrach hi, a bod yn u373?r iddi hi, a hithau'n wraig i ti.
14
Ond os na fyddi'n fodlon arni, yr wyt i'w gollwng yn rhydd; nid wyt ar unrhyw gyfrif i'w gwerthu am arian na'i thrin fel caethferch, gan iti ei threisio.
15
Os bydd gan u373?r ddwy wraig, y naill yn annwyl a'r llall yn atgas ganddo, a'r ddwy wedi geni meibion iddo, a'r cyntafanedig yn fab i'r un atgas,
16
yna pan fydd yn rhannu ei stad rhwng ei feibion, ni chaiff roi'r flaenoriaeth i fab y wraig annwyl, ar draul y cyntafanedig sy'n fab i'r un atgas.
17
Y mae i gydnabod y cyntafanedig sy'n fab i'r un atgas trwy roi iddo ran ddwbl o'r cwbl sydd ganddo, gan mai ef yw blaenffrwyth ynni ei dad, ac ef biau hawl y cyntafanedig.
18
Os bydd gan rywun fab gwrthnysig ac anufudd, na fyn wrando ar ei dad na'i fam, hyd yn oed pan fyddant yn ei geryddu,
19
y mae ei dad a'i fam i afael ynddo a'i ddwyn gerbron yr henuriaid ym mhorth ei dref,
20
a dweud wrthynt, "Y mae'r mab hwn yn wrthnysig ac anufudd; ni fyn wrando arnom, ac y mae'n un glwth ac yn feddwyn."
21
Yna bydd holl drigolion ei dref yn ei labyddio'n gelain cherrig. Felly byddi'n dileu'r drwg o'ch plith, a bydd Israel gyfan yn clywed ac yn ofni.
22
Os bydd rhywun wedi ei gael yn euog o gamwedd sy'n dwyn cosb marwolaeth, ac wedi ei ddienyddio trwy ei grogi ar bren,
23
nid yw ei gorff i aros dros nos ar y pren; rhaid iti ei gladdu'r un diwrnod, oherwydd y mae un a grogwyd ar bren dan felltith Duw. Nid wyt i halogi'r tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti'n etifeddiaeth.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34