bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Deuteronomy 3
Deuteronomy 3
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 4 →
1
Yna troesom a mynd i gyfeiriad Basan. Daeth Og brenin Basan gyda'i holl fyddin i ymladd yn ein herbyn yn Edrei.
2
Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Paid 'i ofni, oherwydd yr wyf yn ei roi ef a'i holl bobl a'i dir yn dy law. Gwna iddo fel y gwnaethost i Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn byw yn Hesbon."
3
Rhoddodd yr ARGLWYDD ein Duw Og brenin Basan a'i holl fyddin yn ein dwylo, a lladdasom hwy, heb adael un yn weddill.
4
Yr adeg honno cymerasom ei ddinasoedd i gyd heb adael yr un ar l, sef trigain ohonynt, y cyfan o diriogaeth Argob, teyrnas Og yn Basan.
5
Yr oedd y rhain i gyd yn ddinasoedd caerog, gyda muriau uchel a dorau a barrau; yr oedd hefyd lawer iawn o bentrefi heb furiau.
6
Lladdasom bawb ym mhob dinas, yn ddynion, gwragedd a phlant, fel y gwnaethom i Sihon brenin Hesbon.
7
Cymerasom y gwartheg i gyd yn ysbail i ni ein hunain, ac anrhaith y dinasoedd.
8
Yr adeg honno cymerasom oddi ar ddau frenin yr Amoriaid y wlad y tu hwnt i'r Iorddonen, o nant Arnon hyd fynydd-dir Hermon.
9
Enw'r Sidoniaid ar Hermon oedd Sirion, ond yr oedd yr Amoriaid yn ei alw'n Senir.
10
Cymerasom holl ddinasoedd y gwastadedd, a'r cyfan o Gilead a Basan hyd at Salcha ac Edrei, oedd yn perthyn i deyrnas Og yn Basan.
11
Og brenin Basan oedd yr unig un ar l o weddill y Reffaim. Yr oedd ganddo wely haearn naw cufydd o hyd a phedwar cufydd o led, yn l y cufydd cyffredin; ac onid yw yn Rabba, dinas yr Ammoniaid?
12
O'r wlad a gymerasom yn feddiant yr adeg honno, rhoddais i Reuben a Gad y tir oedd yn ymestyn o Aroer ar hyd glan nant Arnon, a hanner mynydd-dir Gilead, gyda'i ddinasoedd.
13
Rhoddais i hanner llwyth Manasse y gweddill o Gilead, a'r cyfan o deyrnas Og yn Basan, tiriogaeth Argob i gyd. Gwlad y Reffaim oedd yr enw ar y cyfan o Basan.
14
Cymerodd Jair fab Manasse y cyfan o diriogaeth Argob hyd at derfyn y Gesuriaid a'r Maachathiaid, a hyd heddiw gelwir Basan yn Hafoth-jair ar ei l ef.
15
Rhoddais Gilead i Machir;
16
ac i Reuben a Gad rhoddais y tir sy'n ymestyn o Gilead hyd at nant Arnon, a chanol y nant yn derfyn iddo, a hyd at nant Jabboc, ar derfyn yr Ammoniaid,
17
a hefyd yr Araba, a'r Iorddonen yn derfyn iddo, o Cinnereth hyd at fr yr Araba, sef y Mr Marw, islaw llethrau Pisga i'r dwyrain.
18
Yr adeg honno gorchmynnais i chwi, a dweud, "Y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rhoi ichwi'r wlad hon i'w meddiannu; yr ydych chwi'r holl ddynion arfog a chryf i groesi o flaen eich pobl, yr Israeliaid.
19
Ond y mae eich gwragedd a'ch plant a'ch anifeiliaid a gwn fod gennych lawer o anifeiliaid i aros yn y trefi a roddais i chwi
20
nes y bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi diogelwch i'ch perthnasau, fel y rhoddodd i chwi; yna byddant hwythau yn meddiannu'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw iddynt y tu hwnt i'r Iorddonen. Yna caiff pob un ohonoch fynd yn l i'r diriogaeth a roddais i chwi."
21
Yr adeg honno hefyd gorchmynnais i Josua a dweud, "Yr wyt wedi gweld 'th lygaid dy hun yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i'r ddau frenin hyn; bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yr un fath i'r holl deyrnasoedd yr wyt ti yn mynd i'w herbyn.
22
Paid 'u hofni, oherwydd bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ymladd trosoch."
23
Yr adeg honno ymbiliais 'r ARGLWYDD, a dweud,
24
"O Arglwydd DDUW, yr wyt wedi dechrau dangos i'th was dy fawredd a'th law gref, oherwydd pa dduw yn y nefoedd neu ar y ddaear sy'n cyflawni gweithredoedd a gorchestion fel dy rai di?
25
Gad imi groesi a gweld y wlad dda y tu hwnt i'r Iorddonen, y mynydd-dir da hwn, a Lebanon."
26
Ond yr oedd yr ARGLWYDD yn ddig wrthyf o'ch achos chwi, ac ni wrandawodd arnaf. A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Dyna ddigon; paid siarad wrthyf eto am hyn.
27
Dos i ben Pisga, ac edrych i'r gorllewin, y gogledd, y de a'r dwyrain, a sylwa'n fanwl, oherwydd ni chei di groesi'r Iorddonen hon.
28
Cyfarwydda Josua, a'i nerthu a'i gefnogi, oherwydd ef fydd yn croesi o flaen y bobl hyn, ac ef fydd yn eu harwain i feddiannu'r wlad yr wyt ti yn ei gweld."
29
Felly bu inni aros yn y dyffryn gyferbyn Beth-peor.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34