bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Deuteronomy 19
Deuteronomy 19
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 20 →
1
Pan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi difa'r cenhedloedd y mae'n rhoi eu tir iti, a thithau'n ei feddiannu ac yn byw yn eu trefi a'u tai,
2
yr wyt i neilltuo ar dy gyfer dair dinas yn y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti i'w meddiannu.
3
Paratoa ffordd atynt, a rhannu'n dair y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti i'w hetifeddu, fel y caiff pob lleiddiad le i ddianc.
4
Dyma'r math o leiddiad a gaiff ffoi yno ac arbed ei fywyd: yr un fydd yn lladd arall yn ddifwriad, heb fod yn ei gasu o'r blaen;
5
er enghraifft, rhywun fydd yn mynd gyda'i gymydog i'r goedwig i dorri coed, ac wrth iddo estyn ei law gyda'r fwyell i dorri coeden, y mae pen y fwyell yn neidio oddi ar y pren ac yn rhoi ergyd farwol i'w gymydog. Caiff hwn ffoi i un o'r dinasoedd hyn ac arbed ei fywyd,
6
rhag i'r dialydd gwaed yn ei gynddaredd ddilyn y lleiddiad a'i ddal oherwydd meithder y daith, a'i daro'n farw, er nad oedd yn haeddu marw, am nad oedd yn casu ei gymydog o'r blaen.
7
Dyna pam yr wyf yn gorchymyn iti neilltuo tair dinas.
8
Os bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn estyn dy derfynau, fel y tyngodd i'th hynafiaid y gwni, ac yn rhoi iti'r holl wlad a addawodd i'th hynafiaid,
9
oherwydd iti ofalu cadw'r cwbl o'r gorchymyn hwn yr wyf yn ei roi iti heddiw, i garu'r ARGLWYDD dy Dduw a cherdded yn ei ffyrdd bob amser, yna rwyt i ychwanegu tair dinas arall at y tair cyntaf.
10
Nid yw gwaed y dieuog i'w dywallt o fewn y tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti'n etifeddiaeth, rhag iti fod yn euog o dywallt gwaed.
11
Os bydd rhywun yn casu ei gymydog ac yn ymosod yn llechwraidd arno a'i anafu mor ddifrifol nes ei fod yn marw, ac yna yn dianc i un o'r dinasoedd hyn,
12
y mae henuriaid ei dref i anfon rhai i'w gyrchu oddi yno a'i drosglwyddo i'r dialydd gwaed; a bydd farw.
13
Nid wyt i dosturio wrtho, ond i ddileu o Israel euogrwydd am dywallt gwaed y dieuog, er mwyn iddi fod yn dda arnat.
14
Paid symud terfyn dy gymydog, a osodwyd o'r dechrau yn yr etifeddiaeth a gefaist yn y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti i'w meddiannu.
15
Nid yw un tyst yn ddigon yn erbyn neb mewn unrhyw achos o drosedd neu fai, beth bynnag fo'r bai a gyflawnwyd; ond fe saif tystiolaeth dau neu dri.
16
Os bydd tyst maleisus yn codi yn erbyn rhywun i'w gyhuddo o gamwri,
17
safed y ddau sy'n ymrafael yng ngu373?ydd yr ARGLWYDD, gerbron yr offeiriaid a'r barnwyr ar y pryd.
18
Holed y barnwyr yn ddyfal, ac os ceir mai gau dyst ydyw a'i fod wedi dwyn gau dystiolaeth yn erbyn ei gymydog,
19
gwneler iddo yr hyn y bwriadodd ef ei wneud i'w gymydog; felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg.
20
Pan glyw y lleill, bydd arnynt ofn a pheidiant gwneud y fath ddrwg mwyach.
21
Nid wyt i ddangos tosturi; bywyd am fywyd, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34