bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Deuteronomy 5
Deuteronomy 5
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 6 →
1
Galwodd Moses ar Israel gyfan, a dywedodd wrthynt: O Israel, gwrandewch ar y deddfau a'r cyfreithiau yr wyf yn eu llefaru yn eich clyw heddiw. Dysgwch hwy, a gofalwch eu gweithredu.
2
Gwnaeth yr ARGLWYDD ein Duw gyfamod ni yn Horeb.
3
Nid 'n hynafiaid y gwnaeth yr ARGLWYDD y cyfamod hwn, ond ni i gyd sy'n fyw yma heddiw.
4
Llefarodd yr ARGLWYDD wyneb yn wyneb chwi ar y mynydd o ganol y tn.
5
Yr adeg honno yr oeddwn i yn sefyll rhwng yr ARGLWYDD a chwi i fynegi i chwi air yr ARGLWYDD, oherwydd yr oeddech chwi yn ofni'r tn, ac nid aethoch i fyny i'r mynydd. Dyma a ddywedodd:
6
"Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a'th arweiniodd allan o wlad yr Aifft, o du375? caethiwed.
7
"Na chymer dduwiau eraill ar wahn i mi.
8
"Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod na'r ddaear isod nac yn y du373?r o dan y ddaear;
9
nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasu,
10
ond yn dangos trugaredd i filoedd o'r rhai sy'n fy ngharu ac yn cadw fy ngorchmynion.
11
"Na chymer enw'r ARGLWYDD dy Dduw yn ofer, oherwydd ni fydd yr ARGLWYDD yn ystyried yn ddieuog y sawl sy'n cymryd ei enw'n ofer.
12
"Cadw'r dydd Saboth yn gysegredig, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti.
13
Chwe diwrnod yr wyt i weithio a gwneud dy holl waith,
14
ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth yr ARGLWYDD dy Dduw; na wna ddim gwaith y dydd hwnnw, ti na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th ych, na'th asyn, nac un o'th anifeiliaid, na'r estron sydd o fewn dy byrth, er mwyn i'th was a'th forwyn gael gorffwys fel ti dy hun.
15
Cofia iti fod yn gaethwas yng ngwlad yr Aifft, ac i'r ARGLWYDD dy Dduw dy arwain allan oddi yno llaw gadarn a braich estynedig; am hyn y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti gadw'r dydd Saboth.
16
"Anrhydedda dy dad a'th fam, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti, er mwyn amlhau dy ddyddiau ac fel y bydd yn dda arnat yn y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti.
17
"Na ladd.
18
"Na odineba.
19
"Na ladrata.
20
"Na ddwg gamdystiolaeth yn erbyn dy gymydog.
21
"Na chwennych wraig dy gymydog, na dymuno cael tu375? dy gymydog, na'i dir, na'i was, na'i forwyn, na'i ych, na'i asyn, na dim sy'n eiddo i'th gymydog."
22
Llefarodd yr ARGLWYDD y geiriau hyn llais uchel wrth eich holl gynulliad ar y mynydd o ganol y tn, y cwmwl a'r tywyllwch, ac nid ychwanegodd ddim atynt. Yna ysgrifennodd hwy ar ddwy lechen garreg, a'u rhoi i mi.
23
Pan glywsoch y llais o ganol y tywyllwch, a'r mynydd ar dn, yna daeth penaethiaid eich llwythau a'ch henuriaid ataf,
24
a dywedasoch, "Dangosodd yr ARGLWYDD ein Duw inni ei ogoniant a'i fawredd, ac fe glywsom ei lais o ganol y tn; heddiw yr ydym yn gweld y gall bod meidrol fyw er i Dduw lefaru wrtho.
25
Yn awr, pam y byddwn ni farw? Bydd y tn mawr hwn yn sicr o'n difa, a byddwn farw, os bydd inni glywed llais yr ARGLWYDD ein Duw eto.
26
A glywodd unrhyw un lais y Duw byw yn llefaru o ganol y tn, fel yr ydym ni wedi ei glywed, a byw?
27
Dos di, a gwrando ar y cyfan a ddywed yr ARGLWYDD ein Duw, ac yna mynega wrthym y cyfan a lefarodd yr ARGLWYDD ein Duw wrthyt; fe wrandawn ninnau ac ufuddhau."
28
Pan glywodd yr ARGLWYDD y geiriau a lefarasoch wrthyf, dywedodd, "Yr wyf wedi clywed geiriau'r bobl hyn pan oeddent yn llefaru wrthyt; ac y mae'r cyfan a ddywedant yn wir.
29
O na fyddent yn meddwl fel hyn o hyd, ac yn fy ofni ac yn cadw'r cyfan o'm gorchmynion bob amser, fel y byddai'n dda iddynt hwy a'u plant am byth!
30
Dos, a dywed wrthynt, 'Ewch yn l i'ch pebyll.'
31
Saf di yma yn fy ymyl, ac fe lefaraf wrthyt yr holl orchmynion a'r deddfau a'r cyfreithiau yr wyt ti i'w dysgu iddynt, ac y maent hwy i'w cadw yn y wlad yr wyf yn ei rhoi iddynt i'w meddiannu."
32
Gofalwch wneud fel y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn gorchymyn ichwi; peidiwch throi i'r dde na'r chwith.
33
Yr ydych i rodio yn l y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD eich Duw ichwi, er mwyn i chwi gael byw a llwyddo, ac amlhau eich dyddiau yn y wlad y byddwch yn ei meddiannu.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34