bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Isaiah 14
Isaiah 14
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 15 →
1
Tosturia'r ARGLWYDD wrth Jacob, ac fe ddewis Israel drachefn iddo'i hun. Fe'u gesyd yn eu tir eu hunain, a daw estroniaid i ymgysylltu hwy ac i lynu wrth deulu Jacob.
2
Bydd pobloedd yn eu hebrwng i'w lle, a defnyddia teulu Jacob hwy yn weision a morynion yn nhir yr ARGLWYDD; byddant yn caethiwo'r rhai a'u gwnaeth hwy'n gaeth, ac yn llywodraethu ar y rhai a'u gorthrymodd hwy.
3
Yn y dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi llonydd i ti oddi wrth dy boen a'th lafur a'r gaethwasiaeth greulon y buost ynddi,
4
fe gei ddatgan y dychan hwn yn erbyn brenin Babilon: O fel y darfu'r gorthrymwr ac y peidiodd ei orffwylltra!
5
Drylliodd yr ARGLWYDD ffon yr annuwiol a gwialen y llywiawdwyr,
6
a fu'n taro'r bobloedd mewn dig, heb atal eu hergyd, ac yn sathru'r bobloedd mewn llid a'u herlid yn ddi-baid.
7
Daeth llonyddwch i'r holl ddaear, a thawelwch; ac y maent yn gorfoleddu ar gn.
8
Y mae hyd yn oed y ffynidwydd yn ymffrostio yn dy erbyn, a chedrwydd Lebanon hefyd, gan ddweud, "Er pan fwriwyd di ar dy orwedd ni chododd neb i'n torri ni i lawr."
9
Bydd Sheol isod yn cynhyrfu drwyddi i'th dderbyn pan gyrhaeddi; bydd yn cyffroi'r cysgodion i'th gyfarfod, pob un a fu'n arweinydd ar y ddaear; gwneir i bob un godi oddi ar ei orsedd, sef pob un a fu'n frenin ar y cenhedloedd.
10
Bydd pob un ohonynt yn ymateb, ac yn dy gyfarch fel hyn: "Aethost tithau'n wan fel ninnau; yr wyt yr un ffunud ni."
11
Dygwyd dy falchder i lawr yn Sheol, yn su373?n miwsig dy nablau; oddi tanat fe daenir y llyngyr, a throsot y mae'r pryfed yn gwrlid.
12
O fel y syrthiaist o'r nefoedd, ti, seren ddydd, fab y wawr! Fe'th dorrwyd i'r llawr, ti, a fu'n llorio'r cenhedloedd.
13
Dywedaist ynot dy hun, "Dringaf fry i'r nefoedd, dyrchafaf fy ngorsedd yn uwch na'r sr uchaf; eisteddaf ar y mynydd cynnull ym mhellterau'r Gogledd.
14
Dringaf yn uwch na'r cymylau; fe'm gwnaf fy hun fel y Goruchaf."
15
Ond i lawr i Sheol y'th ddygwyd, i lawr i ddyfnderau'r pwll.
16
Bydd y rhai a'th wl yn synnu a phendroni drosot, a dweud, "Ai dyma'r un a wnaeth i'r ddaear grynu, ac a ysgytiodd deyrnasoedd?
17
Ai hwn a droes y byd yn anialwch, a dinistrio'i ddinasoedd heb ryddhau ei garcharorion i fynd adref?"
18
Gorwedd holl frenhinoedd y cenhedloedd mewn anrhydedd, pob un yn ei le ei hun;
19
ond fe'th fwriwyd di allan heb fedd, fel erthyl a ffieiddir; fe'th orchuddiwyd chelanedd wedi eu trywanu chleddyf, ac yn disgyn i waelodion y pwll, fel cyrff wedi eu sathru dan draed.
20
Ni chei dy gladdu mewn bedd fel hwy, oherwydd difethaist dy dir a lleddaist dy bobl. Nac enwer byth mwy hil yr annuwiol;
21
darparwch laddfa i'w blant, oherwydd drygioni eu hynafiaid, rhag iddynt godi ac etifeddu'r tir a gorchuddio'r byd dinasoedd.
22
"Codaf yn eu herbyn," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "a dinistrio enw Babilon a'r gweddill sydd ynddi, yn blant a phlant i blant," medd yr ARGLWYDD.
23
"A gwnaf hi'n gynefin i aderyn y bwn, yn gors ddiffaith, ac ysgubaf hi ag ysgubell distryw," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
24
Tyngodd ARGLWYDD y Lluoedd, "Fel y cynlluniais y bydd, ac fel y bwriedais y digwydd;
25
drylliaf Asyria yn fy nhir, mathraf hi ar fy mynyddoedd; symudir ei hiau oddi arnat a'i phwn oddi ar dy gefn.
26
Hwn yw'r cynllun a drefnwyd i'r holl ddaear, a hon yw'r llaw a estynnwyd dros yr holl genhedloedd.
27
Oherwydd ARGLWYDD y Lluoedd a gynlluniodd; pwy a'i diddyma? Ei law ef a estynnwyd; pwy a'i try'n l?"
28
Yn y flwyddyn y bu farw'r Brenin Ahas daeth yr oracl hwn:
29
Paid llawenychu, Philistia gyfan, am dorri'r wialen a'th drawodd; oherwydd o wreiddyn y sarff fe gyfyd gwiber, a bydd ei hepil yn sarff wenwynig wibiog.
30
Caiff y tlawd bori yn fy nolydd a'r anghenus orwedd yn dawel; ond lladdaf dy wreiddyn newyn, a dinistriaf y rhai sy'n weddill ohonot.
31
Uda, borth! Gwaedda, ddinas! Y mae Philistia gyfan mewn gwewyr. Y mae mwg yn dod o'r gogledd, ac nid oes neb yn ei rengoedd yn llusgo.
32
Beth yw'r ateb i gennad y bobl? "Gwnaeth yr ARGLWYDD Seion yn ddiogel, ac ynddi y caiff trueiniaid ei bobl loches."
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66