bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Isaiah 59
Isaiah 59
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 58
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 60 →
1
Nid aeth llaw'r ARGLWYDD yn rhy fyr i achub, na'i glust yn rhy drwm i glywed;
2
ond eich camweddau chwi a ysgarodd rhyngoch a'ch Duw, a'ch pechodau chwi a barodd iddo guddio'i wyneb fel nad yw'n eich clywed.
3
Y mae'ch dwylo'n halogedig gan waed, a'ch bysedd gan gamwedd; y mae'ch gwefusau'n dweud celwydd, a'ch tafod yn sibrwd twyll.
4
Nid oes erlynydd teg na diffynnydd gonest, ond y maent yn ymddiried mewn gwegi ac yn llefaru twyll, yn feichiog o niwed ac yn esgor ar ddrygioni.
5
Y maent yn deor wyau gwiberod, ac yn nyddu gwe pryf' copyn; os bwyti o'r wyau, byddi farw; os torri un, daw neidr allan.
6
Nid yw gwe pryf' copyn yn gwneud dillad; nid oes neb yn gwneud gwisg ohoni; ofer yw eu gweithredoedd i gyd, a'u dwylo'n llunio trais.
7
Y mae eu traed yn rhuthro at gamwedd, ac yn brysio i dywallt gwaed diniwed; bwriadau maleisus yw eu bwriadau, distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd;
8
ni wyddant am ffordd heddwch, nid oes cyfiawnder ar eu llwybrau; y mae eu ffyrdd i gyd yn gam, ac nid oes heddwch i neb sy'n eu cerdded.
9
Am hynny, ciliodd barn oddi wrthym, ac nid yw cyfiawnder yn cyrraedd atom; edrychwn am oleuni, ond tywyllwch a gawn, am ddisgleirdeb, ond mewn caddug y cerddwn;
10
'rydym yn ymbalfalu ar y pared fel deillion, yn ymbalfalu fel rhai heb lygaid; 'rydym yn baglu ganol dydd fel pe bai'n gyfnos, fel y meirw yn y cysgodion.
11
'Rydym i gyd yn chwyrnu fel eirth, yn cwyno ac yn cwyno fel colomennod; 'rydym yn disgwyl am gyfiawnder, ond nis cawn, am iachawdwriaeth, ond ciliodd oddi wrthym.
12
Y mae ein troseddau yn niferus ger dy fron, a'n pechodau yn tystio yn ein herbyn; y mae'n troseddau'n amlwg inni, ac yr ydym yn cydnabod ein camweddau:
13
gwrthryfela a gwadu'r ARGLWYDD, troi ymaith oddi wrth ein Duw, llefaru trawster a gwrthgilio, myfyrio a dychmygu geiriau celwyddog.
14
Gwthir barn o'r neilltu, ac y mae cyfiawnder yn cadw draw, oherwydd cwympodd gwirionedd ar faes y dref, ac ni all uniondeb ddod i mewn.
15
Y mae gwirionedd yn eisiau, ac ysbeilir yr un sy'n ymwrthod drygioni. Gwelodd yr ARGLWYDD hyn, ac yr oedd yn ddrwg yn ei olwg nad oedd barn i'w chael.
16
Gwelodd nad oedd neb yn malio, rhyfeddodd nad oedd neb yn ymyrryd; yna daeth ei fraich ei hun buddugoliaeth iddo, a chynhaliodd ei gyfiawnder ef.
17
Gwisgodd gyfiawnder fel llurig, a helm iachawdwriaeth am ei ben; gwisgodd ddillad dialedd, a rhoi eiddigedd fel mantell amdano.
18
Bydd yn talu i bawb yn l ei haeddiant llid i'w wrthwynebwyr, cosb i'w elynion; bydd yn rhoi eu haeddiant i'r ynysoedd.
19
Felly, ofnant enw'r ARGLWYDD yn y gorllewin, a'i ogoniant yn y dwyrain; oherwydd fe ddaw fel afon mewn llif yn cael ei gyrru gan ysbryd yr ARGLWYDD.
20
"Fe ddaw gwaredydd i Seion, at y rhai yn Jacob sy'n cefnu ar wrthryfel," medd yr ARGLWYDD.
21
"Dyma," medd yr ARGLWYDD, "fy nghyfamod hwy. Bydd fy ysbryd i arnat, a gosodaf fy ngeiriau yn dy enau; nid ymadawant oddi wrthyt nac oddi wrth dy blant, na phlant dy blant, o'r pryd hwn hyd byth," medd yr ARGLWYDD.
← Chapter 58
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 60 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66