bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Isaiah 45
Isaiah 45
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 44
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 46 →
1
Dyma a ddywed yr ARGLWYDD wrth Cyrus ei eneiniog, yr un y gafaelais yn ei law i ddarostwng cenhedloedd o'i flaen, i ddiarfogi brenhinoedd, i agor dorau o'i flaen, ac ni chaeir pyrth rhagddo:
2
"Mi af o'th flaen di i lefelu'r mynyddoedd; torraf y dorau pres, a dryllio'r barrau haearn.
3
Rhof iti drysorau o leoedd tywyll, wedi eu cronni mewn mannau dirgel, er mwyn iti wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, Duw Israel, sy'n dy gyfarch wrth dy enw.
4
Er mwyn fy ngwas Jacob, a'm hetholedig Israel, gelwais di wrth dy enw, a'th gyfenwi, er na'm hadwaenit.
5
Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall; ar wahn i mi nid oes Duw. Gwregysais di, er na'm hadwaenit,
6
er mwyn iddynt wybod, o godiad haul hyd ei fachlud, nad oes neb ond myfi. Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall,
7
yn llunio goleuni ac yn creu tywyllwch, yn peri llwyddiant ac yn achosi methiant; myfi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud y cyfan.
8
"Defnynnwch oddi fry, O nefoedd; tywallted yr wybren gyfiawnder. Agored y ddaear, er mwyn i iachawdwriaeth egino ac i gyfiawnder flaguro. Myfi, yr ARGLWYDD, a'i gwnaeth.
9
"Gwae'r sawl sy'n ymryson 'i luniwr, darn o lestr yn erbyn y crochenydd. A ddywed y clai wrth ei luniwr, 'Beth wnei di?' neu, 'Nid oes graen ar dy waith'?
10
Gwae'r sawl sy'n dweud wrth dad, 'Beth genhedli di?' neu wrth wraig, 'Ar beth yr esgori?'"
11
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Sanct Israel a'i luniwr: "A ydych yn fy holi i am fy mhlant, ac yn gorchymyn imi am waith fy nwylo?
12
Myfi a wnaeth y ddaear, a chreu pobl arni; fy llaw i a estynnodd y nefoedd, a threfnu ei holl lu.
13
Myfi a gododd Cyrus i fuddugoliaeth, ac unioni ei holl lwybrau. Ef fydd yn codi fy ninas, ac yn gollwng fy nghaethion yn rhydd, ond nid am bris nac am wobr," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
14
Dyma a ddywed yr ARGLWYDD: "Bydd llafurwyr yr Aifft, masnachwyr Ethiopia a'r Sabeaid tal yn croesi atat ac yn eiddo i ti; dnt ar dy l mewn cadwyni, ymgrymant i ti a chyffesu, 'Yn sicr y mae Duw yn eich plith, ac nid oes neb ond ef yn Dduw.'"
15
Yn wir, Duw cuddiedig wyt ti, Dduw Israel, y gwaredydd.
16
Cywilyddir a gwaradwyddir hwy i gyd; 'r seiri delwau oll yn waradwydd,
17
ond gwaredir Israel gan yr ARGLWYDD gwaredigaeth dragwyddol; ni'ch cywilyddir ac ni'ch gwaradwyddir byth bythoedd.
18
Dyma a ddywed yr ARGLWYDD, creawdwr y nefoedd, yr un sy'n Dduw, lluniwr y ddaear a'i gwneuthurwr, yr un a'i sefydlodd, yr un a'i creodd, nid i fod yn afluniaidd, ond a'i ffurfiodd i'w phreswylio: "Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall;
19
nid mewn dirgelwch y lleferais, nid mewn man tywyll o'r ddaear; ni ddywedais wrth feibion Jacob, 'Ceisiwch fi mewn anhrefn.' Myfi, yr ARGLWYDD, yw'r un sy'n llefaru cyfiawnder, ac yn mynegi uniondeb.
20
"Ymgasglwch, dewch yma, nesewch gyda'ch gilydd, rai dihangol y cenhedloedd. Nid oes gwybodaeth gan gludwyr delwau pren a'r rhai sy'n gweddo ar dduw na all eu hachub.
21
Dewch ymlaen, cyflwynwch eich achos; boed iddynt gymryd cyngor ynghyd. Pwy a fynegodd hyn o'r blaen? Pwy a'i dywedodd o'r dechrau? Onid myfi, yr ARGLWYDD? Nid oes Duw ond myfi, Duw cyfiawn, a gwaredydd. Nid oes neb ond myfi.
22
Chwi, holl gyrrau'r ddaear, edrychwch ataf i'ch gwaredu, canys myfi wyf Dduw, ac nid oes arall.
23
Ar fy llw y tyngais; gwir a ddaeth allan o'm genau, gair na ddychwel: i mi bydd pob glin yn plygu a phob tafod yn tyngu.
24
Fe ddywedir amdanaf, 'Yn ddiau, yn yr ARGLWYDD y mae cyfiawnder a nerth'." Bydd pob un a ddigiodd wrtho yn dod ato ef mewn cywilydd.
25
Cyfiawnheir holl deulu Israel, ac ymhyfrydant yn yr ARGLWYDD.
← Chapter 44
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 46 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66