bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Isaiah 19
Isaiah 19
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 20 →
1
Yr oracl am yr Aifft: Wele'r ARGLWYDD yn marchogaeth ar gwmwl buan, ac yn dod i'r Aifft; bydd eilunod yr Aifft yn crynu o'i flaen, a chalon yr Eifftiaid yn toddi o'u mewn.
2
"Gyrraf Eifftiwr yn erbyn Eifftiwr; ymladd brawd yn erbyn brawd, a chymydog yn erbyn cymydog, dinas yn erbyn dinas, a theyrnas yn erbyn teyrnas.
3
Palla ysbryd yr Eifftiaid o'u mewn, a drysaf eu cynlluniau; nt i ymofyn 'u heilunod a'u swynwyr, 'u dewiniaid a'u dynion hysbys.
4
Trosglwyddaf yr Aifft i feistr caled, a theyrnasa brenin creulon arnynt," medd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd.
5
Sychir dyfroedd y Neil, bydd yr afon yn hesb a sych,
6
y ffosydd yn drewi, ffrydiau y Neil yn edwino gan sychder, a'r brwyn a'r helyg yn gwywo;
7
bydd lleiniau o dir moel wrth y Neil, a bydd popeth a heuir gyda glan yr afon yn crino ac yn diflannu'n llwyr.
8
Bydd y pysgotwyr yn tristu ac yn cwynfan, pob un sy'n taflu bach yn y Neil; bydd y rhai sy'n bwrw rhwydi ar y dyfroedd yn dihoeni.
9
Bydd gweithwyr llin mewn trallod, a'r cribwragedd a'r gwehyddion yn gwelwi.
10
Bydd y rhai sy'n nyddu yn benisel a phob crefftwr yn torri ei galon.
11
o'r fath ffyliaid, chwi dywysogion Soan, y doethion sy'n cynghori Pharo chyngor hurt! Sut y gallwch ddweud wrth Pharo, "Mab y doethion wyf fi, o hil yr hen frenhinoedd"?
12
Ble mae dy ddoethion? Bydded iddynt lefaru'n awr, a'th ddysgu beth a fwriadodd ARGLWYDD y Lluoedd ynglu375?n 'r Aifft.
13
Gwnaed tywysogion Soan yn ffyliaid, a thwyllwyd tywysogion Noff; aeth penaethiaid ei llwythau 'r Aifft ar gyfeiliorn.
14
Cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd drygioni o'i mewn, a gwneud i'r Aifft gyfeiliorni ym mhopeth a wna, fel y bydd meddwyn yn ymdroi yn ei gyfog.
15
Ni bydd dim y gellir ei wneud i'r Aifft gan neb, na phen na chynffon, na changen na brwynen.
16
Yn y dydd hwnnw bydd yr Eifftiaid fel gwragedd yn crynu gan ofn o flaen y llaw y bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn ei hysgwyd yn eu herbyn.
17
Bydd tir Jwda yn arswyd i'r Aifft, a phob sn amdano yn codi ofn arni, oherwydd y cynllun a fwriadodd ARGLWYDD y Lluoedd yn ei herbyn.
18
Yn y dydd hwnnw bydd pump o ddinasoedd yr Aifft yn siarad iaith Canaan, ac yn tyngu llw o ffyddlondeb i ARGLWYDD y Lluoedd. Enw un ohonynt fydd Dinas yr Haul.
19
Yn y dydd hwnnw bydd allor i'r ARGLWYDD yng nghanol yr Aifft, a cholofn i'r ARGLWYDD ar ei goror.
20
Bydd yn arwydd ac yn dystiolaeth i ARGLWYDD y Lluoedd yng ngwlad yr Aifft; pan lefant ar yr ARGLWYDD oherwydd eu gorthrymwyr, bydd yntau yn anfon gwaredydd iddynt i'w hamddiffyn a'u hachub.
21
Bydd yr ARGLWYDD yn ei wneud ei hun yn adnabyddus i'r Eifftiaid, a byddant hwythau'n cydnabod yr ARGLWYDD yn y dydd hwnnw, ac yn ei addoli ag aberth a bwydoffrwm, ac yn addunedu i'r ARGLWYDD ac yn talu eu haddunedau iddo.
22
Bydd yr ARGLWYDD yn taro'r Aifft, yn ei tharo ac yn ei gwella; pan ddychwelant at yr ARGLWYDD bydd yntau'n gwrando arnynt ac yn eu hiachu.
23
Yn y dydd hwnnw bydd priffordd o'r Aifft i Asyria; fe 'r Asyriaid i'r Aifft a'r Eifftiaid i Asyria, a bydd yr Eifftiaid yn addoli gyda'r Asyriaid.
24
Yn y dydd hwnnw bydd Israel yn un o dri, gyda'r Aifft ac Asyria, ac yn gyfrwng bendith yng nghanol y byd.
25
Bendith ARGLWYDD y Lluoedd fydd, "Bendith ar yr Aifft, fy mhobl, ac ar Asyria, gwaith fy nwylo, ac ar Israel, f'etifeddiaeth."
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66