bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Isaiah 40
Isaiah 40
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 39
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 41 →
1
Cysurwch, cysurwch fy mhobl dyna a ddywed eich Duw.
2
Siaradwch yn dyner wrth Jerwsalem, a dywedwch wrthi ei bod wedi cwblhau ei thymor gwasanaeth a bod ei chosb wedi ei thalu, ei bod wedi derbyn yn ddwbl oddi ar law'r ARGLWYDD am ei holl bechodau.
3
Llais un yn galw, "Paratowch yn yr anialwch ffordd yr ARGLWYDD, unionwch yn y diffeithwch briffordd i'n Duw ni.
4
Caiff pob pant ei godi, pob mynydd a bryn ei ostwng; gwneir y tir ysgythrog yn llyfn, a'r tir anwastad yn wastadedd.
5
Datguddir gogoniant yr ARGLWYDD, a phawb ynghyd yn ei weld. Genau'r ARGLWYDD a lefarodd."
6
Llais un yn dweud, "Galw"; a daw'r ateb, "Beth a alwaf? Y mae pob un meidrol fel glaswellt, a'i holl nerth fel blodeuyn y maes.
7
Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo pan chwyth anadl yr ARGLWYDD arno. Yn wir, glaswellt yw'r bobl.
8
Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo; ond y mae gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth."
9
Dring i fynydd uchel; ti, Seion, sy'n cyhoeddi newyddion da, cod dy lais yn gryf; ti, Jerwsalem, sy'n cyhoeddi newyddion da, gwaedda, paid ag ofni. Dywed wrth ddinasoedd Jwda, "Dyma eich Duw chwi."
10
Wele'r Arglwydd DDUW yn dod mewn nerth, yn rheoli 'i fraich. Wele, y mae ei wobr ganddo, a'i dl gydag ef.
11
Y mae'n porthi ei braidd fel bugail, ac 'i fraich yn eu casglu ynghyd; y mae'n cludo'r u373?yn yn ei gl, ac yn coleddu'r mamogiaid.
12
Pwy a fesurodd y dyfroedd yng nghledr ei law, a gosod terfyn y nefoedd 'i rychwant? Pwy a roes holl bridd y ddaear mewn mantol, a phwyso'r mynyddoedd mewn tafol, a'r bryniau mewn clorian?
13
Pwy a gyfarwydda ysbryd yr ARGLWYDD, a bod yn gynghorwr i'w ddysgu?
14
phwy yr ymgynghora ef i ennill deall, a phwy a ddysg iddo lwybrau barn? Pwy a ddysg iddo wybodaeth, a'i gyfarwyddo yn llwybrau deall?
15
Y mae'r cenhedloedd fel defnyn allan o gelwrn, i'w hystyried fel mn lwch y cloriannau; y mae'r ynysoedd mor ddibwys 'r llwch ar y llawr.
16
Nid oes yn Lebanon ddigon o goed i roi tanwydd, na digon o anifeiliaid ar gyfer poethoffrwm.
17
Nid yw'r holl genhedloedd yn ddim ger ei fron ef; y maent yn llai na dim, ac i'w hystyried yn ddiddim.
18
I bwy, ynteu, y cyffelybwch Dduw? Pa lun a dynnwch ohono?
19
Ai delw? Crefftwr sy'n llunio honno, ac eurych yn ei goreuro ac yn gwneud cadwyni arian iddi.
20
Y mae un sy'n rhy dlawd i wneud hynny yn dewis darn o bren na phydra, ac yn ceisio crefftwr cywrain i'w osod i fyny'n ddelw na ellir ei syflyd.
21
Oni wyddoch? Oni chlywsoch? Oni fynegwyd i chwi o'r dechreuad? Onid ydych wedi amgyffred er sylfaenu'r ddaear?
22
Y mae ef yn eistedd ar gromen y ddaear, a'i thrigolion yn ymddangos fel locustiaid. Y mae'n taenu'r nefoedd fel llen, ac yn ei lledu fel pabell i drigo ynddi.
23
Y mae'n gwneud y mawrion yn ddiddim, a rheolwyr y ddaear yn dryblith.
24
Prin eu bod wedi eu plannu na'u hau, prin bod eu gwraidd wedi cydio yn y pridd, nag y bydd ef yn chwythu arnynt, a hwythau'n gwywo, a chorwynt yn eu dwyn ymaith fel us.
25
"I bwy, ynteu, y cyffelybwch fi? Tebyg i bwy?" meddai'r Sanct.
26
Codwch eich llygaid i fyny; edrychwch, pwy a fu'n creu'r pethau hyn? Pwy a fu'n galw allan eu llu fesul un ac yn rhoi enw i bob un ohonynt? Gan faint ei nerth, a'i fod mor eithriadol gryf, nid oes yr un ar l.
27
Pam y dywedi, O Jacob, ac y lleferi, O Israel, "Cuddiwyd fy nghyflwr oddi wrth yr ARGLWYDD, ac aeth fy hawliau o olwg fy Nuw"?
28
Oni wyddost, oni chlywaist? Duw tragwyddol yw'r ARGLWYDD a greodd gyrrau'r ddaear; ni ddiffygia ac ni flina, ac y mae ei ddeall yn anchwiliadwy.
29
Y mae'n rhoi nerth i'r diffygiol, ac yn ychwanegu cryfder i'r dirym.
30
Y mae'r ifainc yn diffygio ac yn blino, a'r cryfion yn syrthio'n llipa;
31
ond y mae'r rhai sy'n disgwyl wrth yr ARGLWYDD yn adennill eu nerth; y maent yn magu adenydd fel eryr, yn rhedeg heb flino, ac yn rhodio heb ddiffygio.
← Chapter 39
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 41 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66