bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Isaiah 62
Isaiah 62
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 61
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 63 →
1
Er mwyn Seion ni thawaf, er mwyn Jerwsalem ni fyddaf ddistaw, hyd oni ddisgleiria'i chyfiawnder yn llachar, a'i hiachawdwriaeth fel ffagl yn llosgi.
2
Bydd y cenhedloedd yn gweld dy gyfiawnder, a'r holl frenhinoedd dy ogoniant; gelwir arnat enw newydd, a roddir i ti o enau'r ARGLWYDD.
3
Byddi'n goron odidog yn llaw'r ARGLWYDD, ac yn dorch frenhinol yn llaw dy Dduw.
4
Ni'th enwir mwyach, Gwrthodedig, ac ni ddywedir drachefn am dy wlad, Anghyfannedd; eithr enwir di, Heffsiba, a'th wlad, Beula, oherwydd ymhyfryda'r ARGLWYDD ynot, a phriodir dy wlad.
5
Fel y bydd llanc yn priodi merch ifanc, bydd dy adeiladydd yn dy briodi di; fel y bydd priodfab yn llawen yn ei briod, felly y bydd dy Dduw yn llawen ynot ti.
6
Ar dy furiau di, O Jerwsalem, gosodais wylwyr nad ydynt yn tewi ddydd na nos; chwi sy'n galw ar yr ARGLWYDD, peidiwch distewi,
7
na rhoi llonydd iddo, nes iddo sefydlu Jerwsalem, a'i gwneud yn destun moliant trwy'r byd.
8
Tyngodd yr ARGLWYDD i'w ddeheulaw ac i'w fraich nerthol, "Ni roddaf dy u375?d byth eto'n ymborth i'th elyn, ac ni chaiff dieithriaid yfed y gwin y llafuriaist amdano;
9
ond y rhai a'i casgla fydd yn bwyta, ac yn diolch i'r ARGLWYDD amdano; y rhai a'i cynnull fydd yn yfed oddi mewn i gynteddau fy nghysegr."
10
Ewch i mewn, ewch i mewn drwy'r pyrth, paratowch ffordd i'r bobloedd; codwch briffordd a symudwch y cerrig, dyrchafwch arwydd i'r bobloedd.
11
Clywch, cyhoeddodd yr ARGLWYDD i bellafoedd y ddaear, "Dywedwch wrth ferch Seion, 'Y mae dy achubydd yn dyfod; y mae ei wobr yn ei law, ac y mae ei dl ganddo.'"
12
Fe'u gelwir hwy yn Bobl Sanctaidd, Gwaredigion yr ARGLWYDD, ac fe'th elwir di, Yr un a geisiwyd, Dinas nas gwrthodwyd.
← Chapter 61
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 63 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66