bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Job 12
Job 12
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 13 →
1
Atebodd Job:
2
"Yn wir, chwi yw'r bobl, a chyda chwi y derfydd doethineb!
3
Ond y mae gennyf finnau ddeall fel chwithau, ac nid wyf yn salach na chwi; yn wir, pwy sydd heb wybod hyn?
4
"Yr wyf yn gyff gwawd i'm cyfeillion, er imi alw ar Dduw ac iddo yntau ateb; y cyfiawn a'r perffaith yn gyff gwawd!
5
Dirmygir dinistr gan y rhai sydd mewn esmwythyd, a sefydlogrwydd gan y rhai y mae eu traed yn llithro.
6
Llwyddiant sydd ym mhebyll yr anrheithwyr, a diogelwch i'r rhai sy'n blino Duw rhai wedi cael Duw dan eu bawd!
7
"Ond yn awr gofyn i'r anifeiliaid dy ddysgu, ac i adar y nefoedd fynegi i ti,
8
neu i blanhigion y tir dy hyfforddi, ac i bysgod y mr dy gyfarwyddo.
9
Pwy na ddealla oddi wrth hyn i gyd mai llaw'r ARGLWYDD a'u gwnaeth?
10
Yn ei law ef y mae einioes pob peth byw, ac anadl pob un meidrol.
11
Onid yw'r glust yn profi geiriau, fel y mae taflod y genau yn blasu bwyd?
12
"Ai ymhlith yr oedrannus y ceir doethineb, a deall gyda'r rhai sydd ymlaen mewn dyddiau?
13
Gan Dduw y mae doethineb a chryfder, a chyngor a deall sydd eiddo iddo.
14
Os dinistria, nid adeiledir: os carchara neb, nid oes rhyddhad.
15
Os atal ef y dyfroedd, yna y mae sychder; a phan ollwng hwy, yna gorlifant y ddaear.
16
Ganddo ef y mae nerth a gwir ddoethineb; ef biau'r sawl a dwyllir a'r sawl sy'n twyllo.
17
Gwna i gynghorwyr gerdded yn droednoeth, a gwawdia farnwyr.
18
Y mae'n datod gwregys brenhinoedd, ac yn rhwymo carpiau am eu llwynau.
19
Gwna i offeiriaid gerdded yn droednoeth, a lloria'r rhai sefydledig.
20
Diddyma ymadrodd y rhai y credir ynddynt, a chymer graffter yr henuriaid oddi wrthynt.
21
Fe dywallt ddirmyg ar bendefigion, a gwanhau nerth y cryfion.
22
Y mae'n datguddio cyfrinachau o'r tywyllwch, ac yn troi'r fagddu yn oleuni.
23
Fe amlha genhedloedd, ac yna fe'u dinistria; fe ehanga genhedloedd, ac yna fe'u dwg ymaith.
24
Diddyma farn penaethiaid y ddaear, a pheri iddynt grwydro mewn diffeithwch di-ffordd;
25
ymbalfalant yn y tywyllwch heb oleuni; fe wna iddynt simsanu fel meddwon.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42