bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Job 29
Job 29
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 30 →
1
Aeth Job ymlaen 'i ddadl, gan ddweud:
2
"O na byddwn fel yn yr amser gynt, yn y dyddiau pan oedd Duw yn fy ngwarchod,
3
pan wni i'w lamp oleuo uwch fy mhen, a minnau'n rhodio wrth ei goleuni trwy'r tywyllwch;
4
pan oeddwn yn nyddiau f'anterth, a Duw'n cysgodi dros fy nhrigfan;
5
pan oedd yr Hollalluog yn parhau gyda mi, a'm plant o'm cwmpas.
6
Gallwn olchi fy nghamau mewn llaeth, ac yr oedd y graig yn tywallt ffrydiau o olew imi.
7
"Awn allan i borth y ddinas, ac eisteddwn yn fy sedd ar y sgwr;
8
a phan welai'r llanciau fi, cilient, a chodai'r hynafgwyr ar eu traed;
9
peidiai'r arweinwyr llefaru, a rhoddent eu llaw ar eu genau;
10
tawai siarad y pendefigion, a glynai eu tafod wrth daflod eu genau.
11
"Pan glywai clust, galwai fi'n ddedwydd, a phan welai llygad, canmolai fi;
12
oherwydd gwaredwn y tlawd a lefai, a'r amddifad a'r diymgeledd.
13
Bendith yr un ar ddarfod amdano a ddi arnaf, a gwnawn i galon y weddw lawenhau.
14
Gwisgwn gyfiawnder fel dillad amdanaf; yr oedd fy marn fel mantell a thwrban.
15
Yr oeddwn yn llygaid i'r dall, ac yn draed i'r cloff.
16
Yr oeddwn yn dad i'r tlawd, a chwiliwn i achos y sawl nad adwaenwn.
17
Drylliwn gilddannedd yr anghyfiawn, a pheri iddo ollwng yr ysglyfaeth o'i enau.
18
Yna dywedais, 'Byddaf farw yn f'anterth, a'm dyddiau mor niferus 'r tywod,
19
a'm gwreiddiau yn ymestyn at y dyfroedd, a'r gwlith yn aros drwy'r nos ar fy mrigau,
20
a'm hanrhydedd o hyd yn iraidd, a'm bwa yn adnewyddu yn fy llaw.'
21
"Gwrandawai pobl arnaf, a disgwylient yn ddistaw am fy nghyngor.
22
Wedi imi lefaru, ni ddywedent air; diferai fy ngeiriau arnynt.
23
Disgwylient wrthyf fel am y glaw, ac agorent eu genau fel am law y gwanwyn.
24
Pan wenwn arnynt, oni chaent hyder? A phan lewyrchai fy wyneb, ni fyddent brudd.
25
Dewiswn eu ffordd iddynt, ac eistedd yn ben arnynt; eisteddwn fel brenin yng nghanol ei lu, fel un yn cysuro'r galarus.
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 30 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42