bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Job 4
Job 4
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 5 →
1
Yna atebodd Eliffas y Temaniad:
2
"Os mentra rhywun lefaru wrthyt, a golli di dy amynedd? Eto pwy a all atal geiriau?
3
Wele, buost yn cynghori llawer ac yn nerthu'r llesg eu dwylo;
4
cynhaliodd dy eiriau'r rhai sigledig, a chadarnhau'r gliniau gwan.
5
Ond yn awr daeth adfyd arnat ti, a chymeraist dramgwydd; cyffyrddodd thi, ac yr wyt mewn helbul.
6
Onid yw dy dduwioldeb yn hyder i ti, ac uniondeb dy fywyd yn obaith?
7
Ystyria'n awr, pwy sydd wedi ei ddifetha ac yntau'n ddieuog, a phwy o'r uniawn sydd wedi ei dorri i lawr?
8
Fel hyn y gwelais i: y rhai sy'n aredig helbul ac yn hau gorthrymder, hwy sy'n ei fedi.
9
Difethir hwy gan anadl Duw, a darfyddant wrth chwythiad ei ffroenau.
10
Peidia rhu'r llew a llais y llew cryf; pydra dannedd y llewod ifanc.
11
Bydd farw'r hen lew o eisiau ysglyfaeth, a gwneir yn amddifad genawon y llewes.
12
"Daeth gair ataf fi yn ddirgel; daliodd fy nghlust sibrwd ohono
13
yn y cynnwrf a ddaw gyda gweledigaethau'r nos, pan ddaw trymgwsg ar bawb.
14
Daeth dychryn a chryndod arnaf, a chynhyrfu fy holl esgyrn.
15
Llithrodd awel heibio i'm hwyneb, a gwnaeth i flew fy nghorff sefyll.
16
Safodd yn llonydd, ond ni allwn ddirnad beth oedd; yr oedd ffurf o flaen fy llygaid; bu distawrwydd, yna clywais lais:
17
'A yw meidrol yn fwy cyfiawn na Duw, ac yn burach na'i Wneuthurwr?
18
Os nad yw Duw'n ymddiried yn ei weision, ac os yw'n cyhuddo'i angylion o gamwedd,
19
beth, ynteu, am y rhai sy'n trigo mewn tai o glai, a'u sylfeini mewn pridd, y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn?
20
Torrir hwy i lawr rhwng bore a hwyr, llwyr ddifethir hwy, heb neb yn sylwi.
21
Pan ddatodir llinyn eu pabell, oni fyddant farw heb ddoethineb?'
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42