bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Job 16
Job 16
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 17 →
1
Atebodd Job:
2
"Yr wyf wedi clywed llawer o bethau fel hyn; cysurwyr sy'n peri blinder ydych chwi i gyd.
3
A oes terfyn i eiriau gwyntog? Neu beth sy'n dy gythruddo i ddadlau?
4
Gallwn innau siarad fel chwithau, pe baech chwi yn fy safle i; gallwn blethu geiriau yn eich erbyn, ac ysgwyd fy mhen arnoch.
5
Gallwn eich calonogi 'm genau, a'ch esmwythu geiriau fy ngwefusau.
6
"Os llefaraf, ni phaid fy mhoen, ac os tawaf, ni chilia oddi wrthyf.
7
Ond yn awr gosodwyd blinder arnaf; anrheithiaist fy holl gydnabod.
8
Crychaist fy nghroen, a thystia hyn yn f'erbyn; saif fy nheneuwch i'm cyhuddo.
9
Yn ei gynddaredd rhwygodd fi mewn casineb, ac ysgyrnygu ei ddannedd arnaf; llygadrytha fy ngelynion arnaf.
10
Cegant yn wawdlyd arnaf, trawant fy ngrudd mewn dirmyg, unant yn dyrfa yn f'erbyn.
11
Rhydd Duw fi yng ngafael yr annuwiol, a'm taflu i ddwylo'r anwir.
12
Yr oeddwn mewn esmwythyd, ond drylliodd fi; cydiodd yn fy ngwar a'm llarpio; gosododd fi yn nod iddo anelu ato.
13
Yr oedd ei saethwyr o'm hamgylch; trywanodd i'm harennau'n ddidrugaredd, a thywalltwyd fy mustl ar y llawr.
14
Gwnaeth rwyg ar l rhwyg ynof; rhuthrodd arnaf fel ymladdwr.
15
"Gwnais sachliain am fy nghroen, a chuddiais fy nghorun yn y llwch.
16
Cochodd fy wyneb gan ddagrau, daeth dwch ar fy amrannau,
17
er nad oes trais ar fy nwylo, ac er bod fy ngweddi'n ddilys.
18
"O ddaear, na chuddia fy ngwaed, ac na fydded gorffwys i'm cri.
19
Oherwydd wele, yn y nefoedd y mae fy nhyst, ac yn yr uchelder y mae'r Un a dystia drosof.
20
Er bod fy nghyfeillion yn fy ngwawdio, difera fy llygad ddagrau gerbron Duw,
21
fel y bo barn gyfiawn rhwng pob un a Duw, fel sydd rhwng rhywun a'i gymydog.
22
Ychydig flynyddoedd sydd i ddod cyn imi fynd ar hyd llwybr na ddychwelaf arno.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42