bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Job 13
Job 13
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 14 →
1
"Gwelodd fy llygad hyn i gyd; clywodd fy nghlust ef, a'i ddeall.
2
Rwyf finnau'n deall gystal chwithau; nid wyf yn ddim salach na chwi.
3
Eto 'r Hollalluog y dymunaf siarad, a dadlau fy achos gyda Duw;
4
ond yr ydych chwi'n palu celwydd, a'r cwbl ohonoch yn plethu anwiredd.
5
O na fyddech yn cadw'n ddistaw! Hynny a fyddai'n ddoeth i chwi.
6
Gwrandewch yn awr ar fy achos, a rhowch ystyriaeth i'm dadl.
7
A ddywedwch gelwydd dros Dduw, a thwyll er ei fwyn?
8
A gymerwch chwi ei blaid, a dadlau dros Dduw?
9
A fydd yn dda arnoch pan chwilia ef chwi? A ellwch ei dwyllo ef fel y twyllir meidrolyn?
10
Bydd ef yn sicr o'ch ceryddu os cymerwch ffafriaeth yn y dirgel.
11
Onid yw ei fawredd yn eich dychryn? Oni ddisgyn ei arswyd arnoch?
12
Geiriau lludw yw eich gwirebau, a chlai yw eich amddiffyniad.
13
"Byddwch ddistaw, a gadewch i mi lefaru, a doed a ddelo arnaf.
14
Cymeraf fy nghnawd rhwng fy nannedd, a'm heinioes yn fy nwylo.
15
Yn sicr, fe'm lladd; nid oes gobaith imi; eto amddiffynnaf fy muchedd o'i flaen.
16
A hyn sy'n rhoi hyder i mi, na all neb annuwiol fynd ato.
17
Gwrandewch yn astud ar fy ngeiriau, a rhowch glust i'm tystiolaeth.
18
Dyma fi wedi trefnu f'achos; gwn y caf fy nghyfiawnhau.
19
Pwy sydd i ddadlau mi, i wneud imi dewi a rhoi i fyny'r ysbryd?
20
Gwna ddau beth yn unig imi, ac nid ymguddiaf oddi wrthyt:
21
symud dy law oddi arnaf, fel na'm dychryner gan dy arswyd;
22
yna galw arnaf ac atebaf finnau, neu gad i mi siarad a rho di ateb.
23
Beth yw nifer fy meiau a'm pechodau? Dangos imi fy nhrosedd a'm pechod.
24
Pam yr wyt yn cuddio dy wyneb, ac yn f'ystyried yn elyn iti?
25
A ddychryni di ddeilen grin, ac ymlid soflyn sych?
26
Oherwydd dygaist bethau chwerw yn f'erbyn, a gwneud imi etifeddu drygioni fy ieuenctid.
27
Gosodaist fy nhraed mewn cyffion (yr wyt yn gwylio fy holl ffyrdd), a rhoist nod ar wadnau fy nhraed.
28
Ond derfydd dyn fel costrel groen, fel dilledyn wedi ei ysu gan wyfyn.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42