bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Job 23
Job 23
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 24 →
1
Atebodd Job:
2
"Heddiw eto y mae fy nghwyn yn chwerw, a'i law sy'n drwm er gwaethaf f'ochenaid.
3
O na wyddwn ble y cawn ef, a pha fodd i ddod at ei drigfan!
4
Yna gosodwn fy achos o'i flaen, a llenwi fy ngenau dadleuon.
5
Mynnwn wybod sut yr atebai fi, a deall beth a ddywedai wrthyf.
6
Ai gyda'i holl nerth y dadleuai mi? Na, ond fe roddai sylw imi.
7
Sylwai mai un uniawn a ymresymai ag ef, a chawn fy rhyddhau am byth gan fy marnwr.
8
"Os af i'r dwyrain, nid yw ef yno; ac os i'r gorllewin, ni chanfyddaf ef.
9
Pan weithreda yn y gogledd, ni sylwaf; os try i'r de, nis gwelaf.
10
Ond y mae ef yn deall fy ffordd; wedi iddo fy mhrofi, dof allan fel aur.
11
Dilyn fy nhroed ei lwybr; cadwaf ei ffordd heb wyro.
12
Ni chiliaf oddi wrth orchmynion ei enau; cadwaf ei eiriau yn fy mynwes.
13
Erys ef yr un, a phwy a'i try? Fe wna beth bynnag a ddymuna.
14
Yn wir fe ddwg fy nedfryd i ben, fel llawer o rai eraill sydd ganddo.
15
Am hyn yr arswydaf rhagddo; pan ystyriaf, fe'i hofnaf.
16
Duw sy'n gwanychu fy nghalon; yr Hollalluog sy'n fy nychryn;
17
nid y tywyllwch sy'n cyfyngu arnaf, na'r fagddu'n fy nghuddio.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42