bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Deuteronomy 14
Deuteronomy 14
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 15 →
1
“Bobl Israel, chi ydy plant yr ARGLWYDD eich Duw. Felly peidiwch torri eich hunain â chyllyll neu siafio eich talcen pan dych chi'n galaru am rywun sydd wedi marw.
2
Dych chi'n bobl sydd wedi eich cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. O bob cenedl ar wyneb y ddaear, mae e wedi eich dewis chi yn drysor sbesial iddo'i hun.
3
“Peidiwch bwyta unrhyw beth sy'n ffiaidd.
4
Dyma'r anifeiliaid sy'n iawn i'w bwyta: bustach, dafad, gafr,
5
hydd, gasél, carw, gafr wyllt, orycs, antelop, a'r ddafad fynydd.
6
“Gallwch fwyta unrhyw anifail sydd â charn fforchog ac sy'n cnoi cil.
7
Ond peidiwch bwyta camel, ysgyfarnog, a broch y creigiau (Er eu bod nhw'n cnoi cil, does ganddyn nhw ddim carn fforchog, felly maen nhw i'w hystyried yn aflan.)
8
A peidiwch bwyta cig moch (Er fod gan fochyn garn fforchog, dydy e ddim yn cnoi cil. Peidiwch hyd yn oed cyffwrdd mochyn sydd wedi marw!)
9
“Gallwch fwyta unrhyw greaduriaid sy'n byw yn y dŵr sydd ag esgyll a cennau arnyn nhw,
10
ond dim byd sydd heb esgyll a cennau — mae'r rheiny i'w hystyried yn aflan.
11
“Gallwch fwyta unrhyw aderyn sy'n lân yn seremonïol.
12
Ond peidiwch bwyta'r rhain: eryr, fwltur, fwltur du,
13
barcud, hebog, bwncath,
14
gwahanol fathau o frain,
15
estrys, tylluan, gwylan, a hebog o unrhyw fath,
16
tylluan fach, tylluan gorniog, tylluan wen,
17
y pelican, eryr y môr, bilidowcar,
18
storc, gwahanol fathau o grëyr, copog, na'r ystlum chwaith.
19
“Mae pryfed sy'n hedfan yn aflan hefyd. Peidiwch bwyta nhw.
20
Gallwch fwyta unrhyw aderyn sy'n lân yn seremonïol.
21
Peidiwch bwyta corff unrhyw anifail neu aderyn sydd wedi marw ohono'i hun. Gallwch ei roi i'r bobl o'r tu allan sy'n byw yn eich pentrefi chi, neu ei werthu i estroniaid. Ond dych chi'n bobl wedi eu cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. “Peidiwch berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.
22
“Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n rhoi heibio ddeg y cant o gynnyrch eich tir bob blwyddyn.
23
Ac mae hwn i gael ei fwyta o flaen yr ARGLWYDD eich Duw yn y lle bydd e'n ei ddewis — deg y cant o'r ŷd, y sudd grawnwin, yr olew olewydd, a phob anifail cyntaf-anedig — gwartheg, defaid a geifr. Rhaid i chi ddysgu dangos parch at yr ARGLWYDD eich Duw bob amser.
24
“Pan fydd e'n eich bendithio, os ydy'r lle mae e wedi ei ddewis yn rhy bell,
25
gallwch werthu'r deg y cant o'ch cynnyrch, a mynd â'r arian gyda chi yn ei le.
26
Wedyn yno, gallwch brynu cig eidion, cig oen, gwin, cwrw, ac unrhyw fwyd arall dych chi eisiau.
27
Ond cofiwch ofalu am y rhai o lwyth Lefi sy'n byw yn eich pentrefi, gan nad oes ganddyn nhw dir fel y gweddill ohonoch chi.
28
“Bob tair blynedd rhaid i chi gymryd deg y cant o gynnyrch y flwyddyn honno, a'i storio yn eich pentrefi.
29
Bydd yno i'w ddefnyddio gan y rhai sydd o lwyth Lefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad, a'r gweddwon yn y pentref. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn bendithio popeth fyddwch chi'n ei wneud.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34