bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Deuteronomy 23
Deuteronomy 23
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 24 →
1
Dydy dyn sydd â'i geilliau wedi eu niweidio neu ei bidyn wedi ei dorri i ffwrdd ddim i gael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD.
2
Dydy dyn gafodd ei eni tu allan i briodas ddilys ddim yn cael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD. (Na disgynyddion y person hwnnw chwaith, am byth.)
3
Dydy pobl Ammon a Moab ddim i gael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD. (Na'u disgynyddion nhw chwaith, am byth.)
4
Pan ddaethoch chi allan o'r Aifft roedden nhw wedi gwrthod rhoi dŵr a bwyd i chi. A hefyd dyma nhw'n talu Balaam fab Beor o Pethor yn Mesopotamia i'ch melltithio chi.
5
Ond dyma'r ARGLWYDD eich Duw yn gwrthod gwrando arno, ac yn troi'r felltith yn fendith! Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eich caru chi.
6
Felly peidiwch byth gwneud unrhyw beth i helpu Ammon a Moab i lwyddo a ffynnu.
7
“Ond mae pobl Edom yn perthyn i chi, felly rhaid i chi beidio eu ffieiddio nhw. A peidiwch ffieiddio pobl yr Aifft, gan eich bod wedi byw fel mewnfudwr yn eu gwlad nhw.
8
Gall plant eu plant berthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD.
9
Pan fyddwch chi'n mynd allan i ymladd yn erbyn eich gelynion, cadwch draw oddi wrth unrhyw beth sydd ddim yn lân.
10
Er enghraifft, os ydy dyn yn gollwng ei had yn ei gwsg, mae'n aflan, a rhaid iddo adael y gwersyll, ac aros allan drwy'r dydd.
11
Yna gyda'r nos rhaid iddo olchi ei hun gyda dŵr. A bydd yn gallu mynd yn ôl i'r gwersyll ar ôl i'r haul fachlud.
12
Rhaid trefnu lle tu allan i'r gwersyll i'r dynion fynd i'r tŷ bach.
13
Rhaid i ti fynd â rhaw gyda ti i wneud twll, a gorchuddio dy garthion gyda pridd.
14
Mae'r gwersyll i'w gadw'n lân. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn cerdded o gwmpas y gwersyll; mae e gyda chi i'ch achub a'ch galluogi chi i ennill y frwydr. Does gynnoch chi ddim eisiau iddo fe weld rhywbeth afiach, a troi cefn arnoch chi.
15
Os ydy caethwas o wlad arall wedi dianc i wlad Israel, peidiwch mynd ag e yn ôl i'w feistr.
16
Mae i gael byw ble bynnag mae e eisiau. Caiff ddewis unrhyw un o'ch pentrefi i fynd i fyw yno. Peidiwch â'i gam-drin a chymryd mantais ohono.
17
Ddylai merched a dynion ifanc Israel byth wasanaethu fel puteiniaid teml.
18
Paid byth dod â tâl putain neu gyflog puteiniwr i deml yr ARGLWYDD dy Dduw er mwyn cadw addewid. Mae'r ddau beth yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
19
Peidiwch codi llog ar fenthyciad i gyd-Israeliaid — llog ar arian, ar fwyd, neu unrhyw beth arall sydd wedi ei fenthyg.
20
Cewch godi llog ar fenthyciad i bobl sydd ddim yn Israeliaid, ond peidiwch gwneud hynny wrth fenthyg i'ch pobl eich hunain. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn bendithio popeth wnewch chi, yn y wlad dych chi ar fin ei chymryd, os byddwch chi'n ufudd.
21
Pan fyddwch chi'n gwneud adduned i'r ARGLWYDD eich Duw, peidiwch oedi cyn ei chyflawni. Neu byddwch chi'n cael eich dal yn gyfrifol ganddo.
22
Mae'n well peidio gwneud adduned yn y lle cyntaf.
23
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw eich adduned, beth bynnag oedd yr adduned honno. Er enghraifft, os gwnaethoch chi addo rhoi rhywbeth iddo yn offrwm gwirfoddol.
24
Os ydych chi'n mynd trwy winllan rhywun arall, cewch fwyta faint fynnoch chi o rawnwin, ond peidiwch mynd â dim i ffwrdd mewn basged.
25
Os ydych chi'n mynd trwy gae ŷd rhywun, cewch bigo'r tywysennau gyda'ch llaw, ond peidiwch defnyddio cryman i gymryd peth o'r cnwd.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34