bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Deuteronomy 8
Deuteronomy 8
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 9 →
1
“Rhaid i chi gadw'r gorchmynion yma dw i'n eu rhoi i chi heddiw. Os gwnewch chi hynny, cewch fyw, bydd eich niferoedd chi'n tyfu, a chewch fynd i mewn i'r wlad wnaeth yr ARGLWYDD addo ei rhoi i'ch hynafiaid chi.
2
“Peidiwch anghofio'r blynyddoedd dych chi wedi eu treulio yn yr anialwch. Roedd yr ARGLWYDD yn eich dysgu chi a'ch profi chi, i weld os oeddech chi wir yn mynd i wneud beth roedd e'n ddweud.
3
Profodd chi drwy wneud i chi fynd heb fwyd, ac wedyn eich bwydo chi gyda'r manna (oedd yn brofiad dieithr iawn!) Roedd e eisiau i chi ddeall mai nid bwyd ydy'r unig beth mae pobl angen i fyw. Maen nhw angen gwrando ar bopeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.
4
Am bedwar deg o flynyddoedd wnaeth eich dillad chi ddim treulio, a wnaeth eich traed chi ddim chwyddo.
5
“Dw i eisiau i chi ddeall fod yr ARGLWYDD eich Duw yn eich disgyblu chi fel mae rhieni yn disgyblu eu plentyn.
6
Felly gwnewch beth mae e'n ddweud, byw fel mae e eisiau i chi fyw, a'i barchu.
7
Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd â chi i wlad dda, sy'n llawn nentydd, ffynhonnau a ffrydiau o ddŵr yn llifo rhwng y bryniau.
8
Gwlad lle mae digon o ŷd a haidd, gwinwydd, coed ffigys, pomgranadau, ac olewydd, a mêl hefyd.
9
Felly fyddwch chi byth yn brin o fwyd yno. Ac mae digon o fwynau i'w cloddio o'r tir — haearn a chopr.
10
Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, a byddwch yn moli'r ARGLWYDD eich Duw am roi gwlad mor dda i chi.
11
“Gwnewch yn siŵr na fyddwch chi'n anghofio'r ARGLWYDD, ac yn peidio cadw'r gorchmynion, y canllawiau a'r rheolau dw i'n eu rhoi i chi heddiw.
12
Pan fydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, tai braf i fyw ynddyn nhw,
13
mwy o wartheg, defaid a geifr, digon o arian ac aur — yn wir, digon o bopeth —
14
gwyliwch rhag i chi droi'n rhy hunanfodlon, ac anghofio'r ARGLWYDD eich Duw, wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision.
15
Daeth yr ARGLWYDD a chi drwy'r anialwch mawr peryglus yna, oedd yn llawn nadroedd gwenwynig a sgorpionau. Roedd yn dir sych lle doedd dim dŵr, ond dyma'r ARGLWYDD yn hollti craig, a gwneud i ddŵr bistyllio allan i chi ei yfed.
16
Rhoddodd fanna i chi ei fwyta (profiad dieithr i'ch hynafiaid chi) er mwyn eich dysgu chi a'ch profi chi, a gwneud lles i chi yn y diwedd.
17
Gwyliwch rhag i chi ddechrau meddwl, ‘Fi fy hun sydd wedi ennill y cyfoeth yma i gyd.’
18
Cofiwch mai'r ARGLWYDD eich Duw ydy'r un sy'n rhoi'r gallu yma i chi. Os cofiwch chi hynny, bydd e'n cadarnhau yr ymrwymiad wnaeth e ar lw i'ch hynafiaid chi. Mae wedi gwneud hynny hyd heddiw.
19
“Ond rhaid i mi eich rhybuddio chi — os gwnewch chi anghofio'r ARGLWYDD, a mynd ar ôl duwiau eraill i'w haddoli nhw, bydd e'n eich dinistrio chi!
20
Bydd yr un peth yn digwydd i chi ag sy'n mynd i ddigwydd i'r gwledydd dych chi ar fin ymladd yn eu herbyn nhw.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34