bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Deuteronomy 26
Deuteronomy 26
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 27 →
1
“Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi, ac wedi ei choncro a setlo i lawr ynddi,
2
rhowch ffrwyth cyntaf pob cnwd i'r ARGLWYDD. Rhowch e mewn basged, a mynd ag e i'r lle mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis i gael ei addoli.
3
Dwedwch wrth yr offeiriad sy'n gwasanaethu bryd hynny, ‘Dw i'n datgan heddiw fy mod i'n byw yn y wlad wnaeth yr ARGLWYDD dy Dduw addo i'n hynafiaid y byddai'n ei rhoi i ni.’
4
“Yna bydd yr offeiriad yn cymryd y fasged a'i gosod o flaen allor yr ARGLWYDD.
5
Yna rhaid i ti wneud y datganiad yma: ‘Syriad yn crwydro yma ac acw oedd fy hynafiad. Aeth i lawr i'r Aifft a byw yno fel mewnfudwr. Criw bach oedd yn y teulu bryd hynny, ond dyma nhw'n tyfu i fod yn genedl fawr, bwerus a niferus.
6
Ond dyma'r Eifftiaid yn ein cam-drin ni a'n gormesu ni, a'n gorfodi ni i wneud gwaith caled.
7
Felly dyma ni'n galw ar yr ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, am help. Clywodd ni'n galw, a gwelodd mor anodd oedd pethau arnon ni, a'r gwaith caled a'r gorthrwm.
8
Felly dyma'r ARGLWYDD yn defnyddio ei nerth rhyfeddol i ddod â ni allan o'r Aifft, a dychryn y bobl yno gyda'r gwyrthiau mwyaf syfrdanol.
9
Yna daeth â ni yma, a rhoi'r tir yma i ni. Mae'n dir ffrwythlon — tir lle mae llaeth a mêl yn llifo.
10
Felly, ARGLWYDD, edrych! Dw i wedi dod â ffrwyth cyntaf cynnyrch y tir wyt ti wedi ei roi i mi.’ Yna rwyt i'w adael o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw, a'i addoli e.
11
Wedyn gelli di a dy deulu, gyda'r Lefiaid a'r mewnfudwyr sydd gyda chi, ddathlu a mwynhau yr holl bethau da mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi eu rhoi i chi.
12
“Ar ôl casglu un rhan o ddeg o'ch cynnyrch yn y drydedd flwyddyn (blwyddyn y degwm), dych chi i'w roi i'r Lefiaid, mewnfudwyr, plant amddifad a'r gweddwon sy'n byw yn eich pentrefi chi, er mwyn iddyn nhw gael digon i'w fwyta.
13
Yna rwyt i ddweud wrth yr ARGLWYDD dy Dduw, ‘Dw i wedi casglu'r offrwm sydd i gael ei osod o'r neilltu, ac wedi ei roi i'r Lefiaid, mewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon, yn union fel rwyt ti wedi dweud wrtho i. Dw i ddim wedi torri nac anghofio dy reolau di.
14
Dw i ddim wedi bwyta peth ohono pan oeddwn i'n galaru, na'i gymryd pan oeddwn i'n aflan yn seremonïol, na cyflwyno peth ohono'n offrwm i'r meirw. Dw i wedi bod yn ufudd i ti, a gwneud popeth oeddet ti'n ddweud.
15
Edrych i lawr arnon ni o'r nefoedd, y lle sanctaidd ti'n byw ynddo, a bendithia dy bobl Israel, a'r tir wyt ti wedi ei roi i ni, fel gwnest ti addo i'n hynafiaid — tir lle mae llaeth a mêl yn llifo!’
16
“Heddiw mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn i chi gadw'r rheolau a'r canllawiau yma, a gwneud hynny â'ch holl galon ac â'ch holl enaid.
17
Heddiw dych chi wedi datgan mai'r ARGLWYDD ydy'ch Duw chi, ac y gwnewch chi fyw fel mae e eisiau i chi fyw, cadw ei reolau, ei orchmynion a'i ganllawiau, a gwrando arno.
18
Heddiw mae'r ARGLWYDD wedi cyhoeddi mai chi ydy ei bobl e — ei drysor sbesial, fel gwnaeth e addo. Felly dylech gadw ei orchmynion e.
19
Duw sydd wedi gwneud y cenhedloedd, ond bydd yn eich gwneud chi'n fwy enwog na nhw i gyd. Bydd pobl yn eich canmol chi a'ch anrhydeddu chi. Fel gwnaeth e addo, byddwch chi'n bobl wedi eich cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw.”
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34