bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Deuteronomy 16
Deuteronomy 16
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 17 →
1
“Cadwch Ŵyl y Pasg yn mis Abib, am mai dyna pryd wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw eich achub chi o'r Aifft yn ystod y nos.
2
Rhaid i anifail gael ei aberthu i'r ARGLWYDD eich Duw yn y lle mae e wedi ei ddewis — un o'r gwartheg, y defaid neu'r geifr.
3
A peidiwch bwyta bara gyda burum ynddo. Fel symbol o galedi, rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod, am eich bod wedi gadael yr Aifft ar frys. Dych chi i wneud hyn er mwyn cofio, am weddill eich bywydau, y diwrnod hwnnw y daethoch chi allan o'r Aifft.
4
Ddylai fod dim mymryn o furum yn y wlad am saith diwrnod. A ddylai dim o gig yr anifail gafodd ei aberthu gyda'r nos ar y diwrnod cyntaf, fod wedi ei adael tan y bore wedyn.
5
“Dydy aberth y Pasg ddim i gael ei ladd yn unrhyw bentref mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i chi.
6
Rhaid iddo gael ei aberthu yn y lle mae e wedi ei ddewis iddo'i hun, gyda'r nos, pan mae'r haul yn machlud — sef yr adeg o'r dydd y daethoch chi allan o'r Aifft.
7
Rhaid ei goginio a'i fwyta yn y lle mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis, yna'r bore wedyn cewch fynd yn ôl i'ch pebyll.
8
Bara heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta am chwe diwrnod. Yna bydd cyfarfod arbennig i addoli'r ARGLWYDD eich Duw yn cael ei gynnal ar y seithfed diwrnod. Rhaid i chi beidio gweithio ar y diwrnod hwnnw.
9
“Saith wythnos ar ôl dechrau'r cynhaeaf ŷd,
10
dych chi i ddathlu Gŵyl y Cynhaeaf o flaen yr ARGLWYDD eich Duw. A rhaid i chi ddod â peth o'r cynhaeaf mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i chi, yn offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol.
11
Byddwch yn dathlu o'i flaen — gyda'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, y rhai o lwyth Lefi sy'n byw yn eich pentrefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon.
12
Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'r canllawiau yma dw i'n eu rhoi i chi.
13
“Rhaid i chi gadw Gŵyl y Pebyll am saith diwrnod ar ôl i chi orffen casglu'r grawn o'r llawr dyrnu a gwasgu'r grawnwin.
14
Byddwch yn dathlu'r Ŵyl gyda'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, y rhai o lwyth Lefi sy'n byw yn eich pentrefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon.
15
Byddwch yn dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw am saith diwrnod, yn y lle mae e wedi ei ddewis, am ei fod e wedi bendithio eich holl waith chi. Felly bydd gynnoch chi le i ddathlu go iawn!
16
“Felly dair gwaith bob blwyddyn, mae'r dynion i gyd i fynd o flaen yr ARGLWYDD eich Duw yn y lle mae e wedi ei ddewis — ar Ŵyl y Bara Croyw, Gŵyl y Cynhaeaf, a Gŵyl y Pebyll. A rhaid iddyn nhw fynd â rhywbeth i'w offrymu bob tro.
17
Dylai pob un roi beth mae'n gallu, fel mae'r ARGLWYDD wedi ei fendithio.
18
“Rhaid i chi benodi barnwyr a swyddogion eraill i bob llwyth yn y trefi mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eu rhoi i chi. A rhaid iddyn nhw farnu'r bobl yn deg.
19
Peidio gwyrdroi cyfiawnder a dangos ffafriaeth. Peidio derbyn breib. Mae breib yn dallu pobl ddoeth a troi pobl onest yn gelwyddog.
20
Cyfiawnder pur dw i eisiau, dim llai, er mwyn i chi lwyddo a chymryd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi.
21
“Peidiwch codi polyn i'r dduwies Ashera wrth ymyl allor dych chi'n wedi ei gwneud i'r ARGLWYDD eich Duw.
22
A peidiwch codi colofn gysegredig! Mae'r ARGLWYDD yn casáu pethau felly.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34