bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Deuteronomy 33
Deuteronomy 33
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 34 →
1
Dyma'r fendith wnaeth Moses, dyn Duw, ei chyhoeddi dros bobl Israel cyn iddo farw:
2
“Daeth yr ARGLWYDD o Fynydd Sinai; roedd fel y wawr yn torri o gyfeiriad Edom. Roedd yn disgleirio o Fynydd Paran, ac yn dod allan gyda deg mil o angylion, a mellt yn saethu o'i law dde.
3
Mae'n amlwg ei fod yn caru'r bobl, ac yn gofalu am y rhai sydd wedi eu cysegru iddo. Maen nhw'n gwrando ar ei eiriau, ac yn addoli wrth ei draed.
4
Rhoddodd Moses gyfraith i ni; rhodd sbesial i bobl Jacob.
5
Yr ARGLWYDD oedd brenin Israel onest pan ddaeth arweinwyr y bobl a llwythau Israel at ei gilydd.
6
Boed i Reuben gael byw, nid marw, ond fydd ei bobl ddim yn niferus.”
7
Yna meddai am Jwda: “Gwranda, ARGLWYDD, ar lais Jwda, ac una fe gyda'i bobl. Rho nerth rhyfeddol iddo, a helpa fe i ymladd yn erbyn ei elynion.”
8
Yna meddai am Lefi: “I Lefi rhoddaist y Thwmim a'r Wrim, i'r gwas oedd wedi ei gysegru. Profaist e wrth Massa, a dadlau gydag e wrth Ffynnon Meriba.
9
Dwedodd wrth ei rieni, ‘Dw i erioed wedi'ch gweld’, wrth ei frodyr a'i chwiorydd, ‘Pwy ydych chi?’, ac wrth ei blant, ‘Dw i ddim yn eich nabod chi,’ am fod gwneud beth rwyt ti'n ddweud, ac amddiffyn dy ymrwymiad yn bwysicach ganddo.
10
Nhw sy'n dysgu dy ganllawiau i Jacob, a'th gyfarwyddiadau i Israel. Nhw sy'n cyflwyno arogldarth sy'n arogli'n hyfryd, ac offrymau cyflawn ar dy allor.
11
O ARGLWYDD, bendithia ei eiddo, a chael pleser o'r gwaith mae'n ei wneud. Torra goesau unrhyw un sy'n ymosod arno, a'r rhai sy'n ei gasáu, nes eu bod nhw'n methu sefyll.”
12
Yna meddai am Benjamin: “Bydd yr un sy'n annwyl gan yr ARGLWYDD yn byw yn saff wrth ei ymyl. Bydd Duw yn ei amddiffyn bob amser; bydd yr ARGLWYDD yn ei gadw'n saff.”
13
Yna meddai am Joseff: “Boed i'r ARGLWYDD fendithio ei dir, a rhoi cnydau da gyda gwlith o'r awyr, a'r dŵr sy'n ddwfn dan y ddaear;
14
cnydau wedi tyfu dan wenau'r haul ac yn aeddfedu o fis i fis;
15
cnydau'n tyfu ar ben y mynyddoedd hynafol, a'r cynhaeaf sy'n aeddfedu ar y bryniau;
16
y cnydau gorau all y tir eu rhoi, a ffafr yr Un oedd yn y berth oedd ar dân. Bendith Duw ar ben Joseff — ar ben yr un oedd y blaenaf o'i frodyr.
17
Mae iddo anrhydedd fel y tarw cyntaf, ac mae ei gyrn fel rhai ychen gwyllt, i gornio'r bobloedd i ben draw'r byd — dyma ddegau o filoedd Effraim a miloedd Manasse.”
18
Yna meddai am Sabulon: “Bydd lawen, Sabulon, pan fyddi'n mynd allan, ac Issachar, pan fyddi yn dy bebyll.
19
Byddan nhw'n galw pobloedd at eu mynydd, ac yno'n cyflwyno aberthau iawn. Byddan nhw'n derbyn cyfoeth o'r moroedd, ac yn casglu trysorau o dywod y traeth.”
20
Yna meddai am Gad: “Bendith ar yr Un sy'n gwneud i Gad lwyddo! Bydd yn aros fel llew, yna'n rhwygo'r fraich a'r pen.
21
Mae wedi dewis y rhan orau iddo'i hun — rhan un sy'n rheoli. Daeth gydag arweinwyr y bobl, yn ufudd i ofynion da yr ARGLWYDD, a'i ganllawiau i bobl Israel.”
22
Yna meddai am Dan: “Mae Dan fel llew ifanc; bydd yn llamu allan o Bashan.”
23
Yna meddai am Nafftali: “O Nafftali, sy'n gorlifo o ffafr, ac wedi dy fendithio gymaint gan yr ARGLWYDD, dos i gymryd dy dir i'r gorllewin a'r de.”
24
Yna meddai am Asher: “Mae Asher wedi ei fendithio fwy na'r lleill! Boed i'w frodyr ddangos ffafr ato, a boed iddo drochi ei draed mewn olew olewydd.
25
Bydd y bariau ar dy giatiau o haearn a phres; byddi'n saff tra byddi byw.
26
Does neb tebyg i dy Dduw, o Israel onest; mae'n hedfan drwy'r awyr i dy helpu, a'r cymylau yn gerbyd i'w fawrhydi.
27
Mae'r Duw sydd o'r dechrau'n le diogel, a'i freichiau tragwyddol oddi tanat. Mae wedi gyrru dy elynion ar ffo, ac wedi gorchymyn eu dinistrio.
28
Mae Israel yn cael byw yn saff, ac mae pobl Jacob yn ddiogel, mewn gwlad o ŷd a grawnwin; lle mae gwlith yn disgyn o'r awyr.
29
Rwyt wedi dy fendithio, Israel! Oes pobloedd eraill tebyg i ti? — Pobl sydd wedi'ch achub gan yr ARGLWYDD, Fe ydy'r darian sy'n eich amddiffyn, a'r cleddyf gwych sy'n ymladd ar eich ran. Boed i'ch gelynion grynu o'ch blaen, a chithau'n sathru ar eu cefnau!”
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 34 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34