bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Deuteronomy 34
Deuteronomy 34
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 33
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
1
Yna dyma Moses yn mynd o anialwch Moab i ben Mynydd Nebo, ac i gopa Pisga, sydd gyferbyn â Jericho. Dyma'r ARGLWYDD yn dangos y wlad gyfan iddo — o Gilead i Dan,
2
tir Nafftali i gyd, Effraim a Manasse, tir Jwda i gyd yr holl ffordd draw i'r môr,
3
y Negef a'r gwastatir o ddyffryn Jericho (tref y coed palmwydd) yr holl ffordd i Soar.
4
Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dyma'r wlad wnes i ei haddo i Abraham, Isaac a Jacob pan ddywedais, ‘Dw i'n mynd i'w rhoi hi i'ch disgynyddion chi.’ Dw i wedi gadael i ti ei gweld, ond dwyt ti ddim yn mynd i gael croesi drosodd yno.”
5
Felly dyma Moses, gwas yr ARGLWYDD, yn marw yno yn Moab, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
6
Cafodd ei gladdu yng ngwlad Moab wrth ymyl Beth-peor, ond does neb yn gwybod yn union yn ble hyd heddiw.
7
Roedd Moses yn gant dau ddeg oed pan fuodd farw, ond roedd yn dal i weld yn glir, ac mor gryf ac erioed.
8
Buodd pobl Israel yn galaru ar ôl Moses am fis cyfan, ar wastatir Moab. Yna daeth y cyfnod o alar i ben.
9
Cyn i Moses farw roedd e wedi gosod ei ddwylo ar Josua fab Nwn, ac roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud Josua yn berson doeth iawn. Roedd pobl Israel yn gwrando arno ac yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
10
Fuodd yna erioed broffwyd arall tebyg i Moses yn Israel — roedd Duw yn delio gydag e wyneb yn wyneb.
11
Gwnaeth bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon i'r Aifft i'w wneud. Gwnaeth wyrthiau rhyfeddol yn erbyn y Pharo a'i swyddogion, a phawb arall drwy'r wlad.
12
Roedd Moses wedi dangos nerth mawr a gwneud pethau rhyfeddol o flaen pobl Israel i gyd.
← Chapter 33
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34