bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Zechariah 13
Zechariah 13
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 14 →
1
“Bryd hynny bydd ffynnon wedi ei hagor bob amser i deulu brenhinol Dafydd a phobl Jerwsalem, i'w glanhau o bechod ac aflendid.”
2
“Bryd hynny hefyd,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“dw i'n mynd i gael gwared â'r eilunod o'r tir. Fydd neb yn cofio eu henwau nhw hyd yn oed. A bydda i hefyd yn cael gwared â'r proffwydi ffals a'r ysbrydion aflan o'r tir.
3
Wedyn os bydd rhywun yn proffwydo, bydd ei dad a'i fam yn dweud wrtho, ‘Rhaid i ti farw! Ti'n honni siarad ar ran yr ARGLWYDD, ond yn proffwydo celwydd!’ A bydd ei dad a'i fam yn ei drywanu i farwolaeth.
4
“Bryd hynny bydd gan broffwyd gywilydd o'i weledigaethau, a bydd yn ceisio cuddio'r gwir drwy stopio gwisgo clogyn blewog proffwydi.
5
Bydd yn gwadu popeth a dweud, ‘Fi? Dw i ddim yn broffwyd. Dw i wedi bod yn gweithio fel gwas ar y tir es pan oeddwn i'n ifanc.’
6
Yna bydd rhywun yn gofyn iddo, ‘Felly, beth ydy'r creithiau yna ar dy frest di?’ A bydd yn ateb, ‘Ces fy anafu yn nhŷ ffrindiau.’”
7
Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud, “Deffra gleddyf! Ymosod ar fy mugail, y dyn sy'n agos ata i. Taro'r bugail, a bydd y praidd yn mynd ar chwâl. Bydda i'n taro'r rhai bach hefyd.
8
Dyna fydd yn digwydd drwy'r wlad i gyd,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydd dwy ran o dair yn cael eu lladd, gan adael un rhan o dair ar ôl.
9
A bydda i'n arwain y rheiny trwy dân, i'w puro fel mae arian yn cael ei buro, a'i profi fel mae aur yn cael ei brofi. Byddan nhw'n galw ar fy enw i, a bydda i'n ateb. Bydda i'n dweud, ‘Fy mhobl i ydy'r rhain,’ a byddan nhw'n dweud, ‘Yr ARGLWYDD ydy ein Duw ni.’”
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14