bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Zechariah 6
Zechariah 6
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 7 →
1
Edrychais eto, a'r tro yma roedd pedwar cerbyd rhyfel yn dod i'r golwg rhwng dau fynydd — mynyddoedd o bres.
2
Ceffylau fflamgoch oedd yn tynnu'r cerbyd cyntaf, ceffylau duon yr ail,
3
ceffylau gwynion y trydydd, a cheffylau llwyd yr olaf. Roedden nhw i gyd yn geffylau rhyfel cryfion.
4
Dyma fi'n gofyn i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy'r rhain, syr?”
5
A dyma'r angel yn ateb, “Dyma bedwar gwynt y nefoedd wedi eu hanfon allan gan Feistr y ddaear gyfan.
6
Mae'r cerbyd gyda'r ceffylau duon yn mynd i gyfeiriad y gogledd, a'r rhai gwynion i'r gorllewin. Ac mae'r cerbyd gyda'r ceffylau llwyd yn mynd i'r de.”
7
Roedd y ceffylau cryfion i'w gweld yn ysu i fynd allan ar batrôl drwy'r ddaear. A dyma'r Meistr yn dweud wrthyn nhw, “Ewch! Ewch allan ar batrôl drwy'r ddaear gyfan.” Felly i ffwrdd â nhw.
8
Yna dyma fe'n galw arna i, “Edrych! Mae'r rhai sydd wedi mynd i dir y gogledd wedi tawelu fy ysbryd i yno.”
9
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
10
“Mae Cheldai, Tobeia a Idaïa newydd ddod yn ôl o Babilon. Dos ar unwaith i dŷ Joseia fab Seffaneia, a derbyn y rhoddion mae'r bobl sy'n y gaethglud wedi ei anfon gyda nhw.
11
Cymer arian ac aur i wneud coron frenhinol a'i gosod ar ben Jehoshwa fab Iehotsadac, yr archoffeiriad.
12
Yna dywed wrtho, ‘Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud, Edrych! Mae'r dyn sy'n cael ei alw y Blaguryn yn blaguro! Mae'n mynd i adeiladu teml yr ARGLWYDD.
13
Ie, fe sy'n mynd i adeiladu teml yr ARGLWYDD! Bydd yn cael ei arwisgo, ac yn eistedd mewn ysblander fel brenin ar ei orsedd. A bydd offeiriad yn rhannu ei awdurdod, a'r ddau ohonyn nhw yn cytuno'n llwyr gyda'i gilydd.
14
Yna bydd y goron yn cael ei chadw yn nheml yr ARGLWYDD i atgoffa Cheldai, Tobeia, Idaïa a Joseia fab Seffaneia.
15
“‘Bydd pobl yn dod o bell i adeiladu teml yr ARGLWYDD. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD holl-bwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi. Bydd hyn i gyd yn digwydd os byddwch chi wir yn ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw.’”
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14